Yr ystyr cudd y tu ôl i'r gwaith celf dirgel yn sgwâr canolog Caerdydd
Mae darn enfawr o gelf stryd wedi ymddangos y tu allan i Orsaf Ganolog Caerdydd, gan wneud i bobl stopio’n stond wrth ei weld. Ar yr olwg gyntaf, mae'n rhith optegol clyfar, ond os edrychwch chi ychydig yn agosach, ffenestr ddiddorol i hanes Cymru sydd yma.
Wedi'i gomisiynu gan Cadw a'i greu gan yr artist sialc byd-enwog Julian Beever, mae'r gwaith celf yn dathlu ailagor tramwyfa giât ddŵr ganoloesol sy'n cysylltu neuadd fawr y castell â'r llyn deheuol yng Nghaerffili - rhan hanesyddol o'r gaer sydd wedi bod o'r golwg ers canrifoedd.
Mae'r gwaith celf yn rhan o ymgyrch sy'n nodi cwblhau prosiect adfywio gwerth £8 miliwn yng Nghastell Caerffili, trawsnewidiad sy'n rhoi bywyd newydd i un o dirnodau mwyaf eiconig Cymru ac yn denu ymwelwyr i ddod i'w weld drostynt eu hunain yn ystod yr haf.
Wrth siarad am ymateb y cyhoedd, dywedodd yr artist Julian Beever:
"Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn stopio, syllu, a sylweddoli eu bod yn llythrennol yn sefyll ar hanes.
"Mae'r giât ddŵr wedi bod yno drwy’r amser, fodfeddi o dan ein traed, felly roedd creu darn o gelf sy'n agor y ddaear yn teimlo fel y ffordd berffaith o ddatgelu rhywbeth a oedd bod yn cuddio o flaen ein trwynau trwy'r amser."
Mae'r giât ddŵr yn un o uchafbwyntiau prosiect adfywio mawr Cadw yng Nghaerffili, sydd hefyd yn cynnwys adnewyddu Neuadd Fawr y castell, cyfleusterau hygyrch newydd i ymwelwyr, ac arddangosiadau rhyngweithiol newydd sy'n mynd ag ymwelwyr i orffennol canoloesol y castell.
Meddai Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:
"Mae mwy nag un ochr i hanes, a mwy nag un ffordd i bobl ei ddehongli a'i fwynhau. Mae'r darn gwych hwn o gelf yn gwneud hynny - mae'n ail-ddychmygu ac yn dod â golygfa wrth y giât ddŵr yn fyw i helpu pobl i ddychmygu sut gallai fod wedi edrych ar un adeg.
"Mae rhoi bywyd newydd i dreftadaeth Cymru yn fwy nag adfer hen waliau - mae'n ymwneud ag agor drysau i straeon hen a newydd, croesawu ymwelwyr o bell ac agos, a chyfareddu cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae Castell Caerffili yn cynnwys digon o arddangosiadau newydd, rhyngweithiol sy'n adrodd straeon niferus y castell a'r dynion, menywod a phlant a fu'n byw ynddo dros y canrifoedd.
"Gyda gwyliau'r haf yn ei hanterth, mae'n rheswm perffaith i fynd allan a phrofi hanes mewn ffordd hollol newydd."
Bydd y gwaith celf yn Sgwâr Canolog Caerdydd tan ddydd Llun 4 Awst cyn symud i Fandstand Caerffili tan ddydd Iau 7 Awst. Yna bydd yn symud i Dir Castell Caerffili o ddydd Gwener 8 Awst.
Mae disgwyl i ail ddarn o gelf stryd ymddangos ar y Maes yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn 9 Awst, cyn symud i Dir Castell Caernarfon ddydd Mawrth 12 Awst.