Cymeradwyo cynlluniau ar gyfer gwaith cadwraeth a datblygu Castell Caerffili
Yn dilyn cyflwyniad i Gyngor Caerffili ym mis Rhagfyr 2021, rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Mehefin 2022 i’r gwaith gwella yng nghastell mwyaf Cymru.
Gyda manylion y cynlluniau wedi’u datgelu gyntaf ym mis Mehefin 2021, bydd y prosiect gwella gwerth £5m yn cadarnhau statws Castell Caerffili fel atyniad treftadaeth o'r radd flaenaf — gan ddiogelu'r heneb ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwaith cadwraeth i Borthdy Mewnol y Dwyrain, gan gynnwys to a ffenestri newydd; adnewyddu'r Neuadd Fawr ac Ystafelloedd yr Iarll; gwell mynediad ar draws yr heneb; gwelliannau i bontydd; ac arddangosfeydd newydd yn adrodd straeon Castell Caerffili.
Bydd tua £1m yn cael ei wario ar arddangosfeydd rhyngweithiol sy'n cynnwys cyfryngau digidol a chlyweledol, yn manylu ar ymgodymau, brad, cynllwynion a chysylltiadau'r bobl a adeiladodd y Castell, a ymladdodd drosto, ac a fu’n byw ynddo a hyd yr oesoedd.
Yn y Neuadd Fawr — y mwyaf o'i chyfnod yn y DU — bydd y gofod yn cael ei ailaddurno i adlewyrchu sut y gallai fod wedi ymddangos yn nyddiau ei ogoniant yn yr Oesoedd Canol. Gan ddefnyddio cyfuniad o ddodrefn wedi'u hatgynhyrchu, croglenni wal a phaneli pren wedi'u paentio'n lliwgar — ynghyd â gwelliannau digidol — bydd ymwelwyr yn cael eu cludo'n ôl i'r 1320au pan gynhaliodd y Neuadd Fawr wledd fawreddog.
Bydd canolfan groeso newydd sy'n defnyddio ynni'n effeithlon hefyd yn cael ei hadeiladu, gyda phympiau gwres awyr a tho gwyrdd byw. Bydd yn lle croesawgar i gyfarch ymwelwyr, a bydd yno gyfleusterau bwyd a diod, ynghyd â thoiledau newydd. Mae gofod addysgol newydd wedi'i gynnwys yn y dyluniad hefyd i alluogi pobl o bob oed i ddysgu mwy am hanes hir y Castell a’i fwynhau.
Bydd y siop bresennol hefyd yn cael ei hailosod, gyda gwelliannau i'r pontydd a'r llwybrau o amgylch y Castell er mwyn sicrhau mynediad hawdd i ymwelwyr. Mae gardd bywyd gwyllt heddychlon hefyd wedi'i chynnwys yn y cynigion, ynghyd â dwy ardal chwarae bwrpasol — y cyntaf ar gyfer unrhyw eiddo Cadw.
Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:
'Gyda chynlluniau wedi’u derbyn ar gyfer y gwaith gwella yng Nghastell Caerffili, rydyn ni’n barod i gychwyn ar y gwaith ym mis Medi 2022.
'Hoffem ddiolch i aelodau Cadw, ac ymwelwyr o bell ac agos, am eu cefnogaeth barhaus yn ystod y gwaith. Edrychwn ymlaen at gynnig cyfleusterau a dehongliadau newydd cyffrous i'n hymwelwyr eu mwynhau unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, ac rydyn ni’n falch iawn y bydd y prosiect hwn yn diogelu'r safle ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.'
Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
'Mae Caerffili eisoes yn enwog fel cartref caer fwyaf Cymru, ac yn dilyn y gwaith cadwraeth a datblygu hwn, nid oes gen i amheuaeth na fydd y safle godidog hwn yn dod yn gyrchfan treftadaeth o'r radd flaenaf.
'Edrychwn ymlaen at weld y datblygiadau hyn yn dod yn fyw a’r effaith a fydd ar ganol tref Caerffili — nid yn unig y bydd yn denu mwy o ymwelwyr i'r ardal ond bydd hefyd yn diogelu'r safle ar gyfer y dyfodol.'
Er mwyn dod â’r gwaith gwella’n fyw, mae Cadw yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerffili, Mace project management, Purcell Architects, Bright interpretation designers, Studio Hardie, Mann Williams Engineers, Holloway Partnership M&E, Wessex Archaeology, BSG Ecology, Austin Smith Lord landscape Architects, a John Weaver Contractors.