Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Castell Caerffili
Wedi ei gyhoeddi

Ar ôl dwy flynedd o waith cadwraeth ac adnewyddu helaeth, mae Castell Caerffili - y castell mwyaf yng Nghymru - yn ailagor i ymwelwyr y penwythnos hwn, gan ddod â'r Neuadd Fawr, ward fewnol y castell yn ôl yn fyw a dadorchuddio arddangosfeydd digidol o'r radd flaenaf. 

Gan olrhain ei ddechreuadau yn ôl i 1268, roedd Castell Caerffili yn gaer i Arglwydd y Mers Gilbert de Clare a adeiladodd y castell aruthrol i amddiffyn ei hun rhag ymgyrch Tywysog Cymru, Llywelyn ap Gruffudd. 

Mae'r Neuadd Fawr eiconig, a adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg, yn un o nifer o adeiladau hanesyddol yn y castell sydd wedi elwa o waith ymchwilio a chadwraeth trylwyr gan dîm o arbenigwyr, gan gynnwys saer maen, archeolegwyr ac arbenigwyr cadwraeth. 

Mae ei adnewyddu yn golygu fod y gofod enfawr wedi'i addurno i adlewyrchu mawredd sut y gallai fod wedi ymddangos yn ei anterth canoloesol, ac ynghyd â gwelliannau digidol, bydd ymwelwyr yn cael eu cludo yn ôl i'r 1320au pan gynhaliwyd gwledd frenhinol fawr yno.

Mae'r castell yn ailagor y dydd Sadwrn hwn sef 19 Gorffennaf gydag arddangosfeydd rhyngweithiol newydd yn adrodd straeon niferus y castell a'r dynion, y menywod a phlant a fu'n byw ynddo dros y canrifoedd. Maent yn manylu ar frwydrau pŵer, brad a chysylltiadau pobl a adeiladodd ac a ymladdodd dros y castell, yn ogystal â chyflwyno i ymwelwyr y Pedwerydd Ardalydd Bute, a ariannodd y gwaith o'i ailadeiladu yn y 1920au. 

Yn ogystal â'r gwaith i'r Neuadd Fawr, mae Cadw wedi cadw  tramwyfa'r llifddor ganoloesol sy'n cysylltu'r neuadd â'r llyn deheuol, a'i hagor i'r cyhoedd. Fe wnaethant hefyd wneud gwaith atgyweirio mawr i'r Porthdy Dwyreiniol Mewnol sy'n teyrnasu dros y llwybr i ward fewnol y castell. 

Mae hygyrchedd wedi'i wella hefyd, gyda llwybrau a rampiau newydd a gardd flodau gwyllt i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau'r lleoliad hardd yn well. 

Mae dros £8 miliwn wedi'i fuddsoddi yng Nghaerffili ers i gynlluniau ar gyfer datblygu'r castell gael eu cynnig gyntaf gan wasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, yn 2021. 

Mae'r gwaith adnewyddu hwn hefyd wedi dod â thechnoleg yr unfed ganrif ar hugain i'r cyfleusterau ymwelwyr. Mae'r Neuadd Fawr bellach yn elwa o system wresogi o dan y llawr a chegin o'r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau a phriodasau, a bydd toiledau ymwelwyr newydd a llwybrau hygyrch yn helpu ymwelwyr o bob oed i fwynhau'r castell. 

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud diwylliant yn hygyrch i bawb, cyhoeddwyd hefyd y gall unrhyw un sydd yn cael Credyd Cynhwysol brynu tocynnau ar gyfer unrhyw safle sydd wedi'i staffio gan Cadw am gost o ddim ond £1 y pen (ac eithrio Castell Carreg Cennen a Chastell Weble). Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw ar-lein neu dros y ffôn, a darparu prawf cymhwysedd wrth gyrraedd.

Cyn ailagor y castell yn ffurfiol i'r cyhoedd ar y penwythnos, ymunodd plant o Ysgol Y Castell â'r Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, mewn digwyddiad yn y castell heddiw [dydd Mawrth 15 Gorffennaf] i gladdu capsiwl amser yn yr ardd blodau gwyllt.

Minister for Culture Jack Sargent burying time capsule with children from Ysgol Y Castell

Wrth nodi'r diwrnod, dywedodd y Gweinidog Jack Sargeant:

"Mae heddiw yn garreg filltir arwyddocaol o safbwynt treftadaeth Cymru, wrth i ni ailagor Neuadd Fawr odidog Castell Caerffili. Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn o £8 miliwn nid yn unig wedi adfer y gofod canoloesol rhyfeddol hwn i'w hen ogoniant ond wedi gwneud ein hanes cyffredin yn fwy hygyrch a diddorol i bawb.

"Mae'r Neuadd Fawr, yr arddangosfeydd rhyngweithiol a hygyrchedd gwell yn dangos ein hymrwymiad i warchod treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru gan sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.

"Rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gallu gwneud ein safleoedd hanesyddol yn fwy cynhwysol, gan gynnwys y cynllun mynediad newydd gwerth £1 i bobl sy'n cael Credyd Cynhwysol.

"Mae sefyll yma gyda phlant Ysgol Y Castell, gan gladdu capsiwl amser sy'n pontio ein gorffennol â'n dyfodol yn ein hatgoffa nad dim ond adrodd hanes Cymru y mae'r waliau hynafol hyn – maen nhw'n rhan o'n stori genedlaethol barhaus sy'n perthyn i bob un ohonom."

Mae gwaith Cadw yng Nghastell Caerffili yn rhan o raglen ehangach Tref Caerffili 2035, partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru gyda'r nod o adfywio'r dref.  Mae prosiectau eraill yn cynnwys Ffos Caerffili, prosiect cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus, ac adfywio Neuadd y Gweithwyr Caerffili i greu canolfan ddiwylliannol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:

"Mae trawsnewidiad rhyfeddol Castell Caerffili yn dyst i ymroddiad y dref hon a'i phobl. Nid gwaith adfer cerrig hynafol yn unig yw hyn - mae'n golygu ailgysylltu cymunedau â'u treftadaeth a rhoi hwb i economïau lleol.

"Mae'r castell wedi bod yn gwarchod y dref ers dros 750 o flynyddoedd, a thrwy'r gwaith adfer sensitif hwn, rydym yn sicrhau ei fod yn parhau i fod wrth wraidd hunaniaeth y dref am genedlaethau i ddod.

"Mae gan Gaerffili weledigaeth gref ar gyfer dyfodol y dref ac mae'n bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni prosiectau allweddol a nodwyd yng Nghynllun Creu Lleoedd Gweledigaeth Caerffili 2035. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft o sut y gall adfywio meddylgar anrhydeddu ein gorffennol wrth adeiladu dyfodol mwy bywiog a ffyniannus i bawb."