Skip to main content
Castell Caerffili / Caerphilly Castle

Os hoffech wybod sut oedd un o gaerau cwbl wych Ewrop ganoloesol yn gweithio mewn gwirionedd, dewch i Gaerffili. Nid adfail darluniadwy yn unig mo hwn, ond hanes ar waith. 

Yma gallwch ryfeddu at y llynnoedd a ail-lenwyd a’r pedwar math o beiriant gwarchae, a’r dyblygiadau i gyd yn gweithio’n berffaith ac yn barod i danio. Gallwch gerdded ar hyd llwyfan yr argae lle byddai ymwanau a thwrnameintiau’n cael eu cynnal. Ac os ydych yn teimlo’n rhamantus dros ben, gallwch hyd yn oed briodi yn y neuadd fawr adferedig. 

Mae’n brofiad bythgofiadwy – ac mae’n parhau traddodiad o ailadeiladu dychmygus a sefydlwyd gan bedwerydd Ardalydd Bute, ac yntau’n graig o arian.    

O 1928 tan ddyfodiad yr Ail Ryfel Byd, bu’n adfer holl rannau’r castell a oedd wedi dymchwel ers yr Oesoedd Canol. Hwn oedd y prosiect mwyaf o’i fath a gynhaliwyd erioed ym Mhrydain, a hynny o ran maint, manylder a dilysrwydd. 

Yn rhannol, roedd Bute yn ymroi i’w frwdfrydedd dros adeiladau canoloesol, a etifeddwyd gan ei dad, mae’n siŵr, a oedd wedi adfer ac ailaddurno Castell Caerdydd a Chastell Coch. Ond, gan mwyaf, ymdeimlad o gyfiawnder cymdeithasol oedd yn ei sbarduno.   

Ei fwriad oedd cefnogi economi Caerffili, a oedd yn simsan ar ôl Streic Gyffredinol 1926 a’r Dirwasgiad Mawr. Am 12 mlynedd, cyflogodd nid llai na 15 o seiri maen amser llawn ynghyd â llawer iawn o lafurwyr a chontractwyr. 

Erbyn 1936 roedd wedi gwario dros £100,000 o’i boced ei hun – sef nifer o filiynau ym mhrisiau heddiw. Roedd wedi clirio iorwg, carthu ffosydd ac adfer pontydd, tyrau a phorthdai’n drylwyr, a’r cyfan fesul carreg. Ef sy’n gyfrifol am hanner yr hyn a welwn heddiw yng Nghaerffili.  

Ond nid pawb oedd yn llawn edmygedd. Roedd dull radicalaidd Bute yn gwbl groes i ddoethineb y pryd sef ‘cadw fel y canfuwyd’. Cadwraeth, nid ail-greu, oedd arfer yr oes. 

Dywedodd ei frawd, yr Arglwydd Colum Crichton-Stuart, fod ei feirniaid yn ddirywiaethwyr a drysorai ddadfeiliad ac a fyddai’n atal y gwaith o adfer y gaer orau yng Nghymru. 

Mae athroniaeth Bute wedi teyrnasu yng Nghaerffili dros y 60 mlynedd ddiwethaf. Yn fwyaf rhyfeddol, mae’r argaeau enfawr wedi’u hatgyweirio a’r llynnoedd wedi’u hail-lenwi. Mae gan borthdy mewnol y dwyrain lawr a tho newydd. Adferwyd ffenestri coeth y neuadd fawr i’w gogoniant blaenorol.

Heddiw, mae cerfddelw bren o’r ardalydd fel petai’n gwneud ei orau glas i gadw’r Tŵr Cam enwog yn ei le. Dyma deyrnged huawdl i’r dyn a achubodd Gastell Caerffili rhag mynd â’i ben iddo.