Ai Cymru yw prifddinas castell y byd?
Oherwydd ei hanes, mae tirwedd Cymru’n frith o fryngaerau o’r Oes Haearn, adfeilion Rhufeinig a chestyll tywysogion Canoloesol Cymru a brenhinoedd Lloegr.
Mae dros 600 o gestyll, felly ble bynnag ewch chi ar wyliau yng Nghymru, fyddwch chi ddim yn bell o safle hanesyddol. Os nad oes gennych amser i ymweld â phob un, dyma’r 10 uchaf i ymweld â nhw.
Castell Biwmares, Gogledd Cymru
Gellid ystyried Castell Biwmares yn Ynys Môn fel y castell mwyaf perffaith erioed i beidio â chael ei adeiladu! Er na chafodd ei gwblhau, y castell hwn, gyda’i gyfochredd perffaith bron, pedair cylch o furiau amddiffynnol a ffos yn llawn dŵr sy’n cynnwys cei i’r castell yn unig, yw’r mwyaf a’r olaf o gestyll Edward I yng Nghymru.
Castell Conwy, Gogledd Cymru
Ystyrir mai Castell Conwy yw un o gadarnleoedd canoloesol mwyaf mawreddog Ewrop. Mae gan y castell a’r 1.3km o furiau caerog, statws Treftadaeth y Byd.
Adeiladwyd y gaer ryfeddol hon mewn cyfnod anhygoel o fyr o bedair blynedd, rhwng 1283 a 1287, ac mae’n syndod o gyflawn hyd heddiw: yma y ceir yr ystafelloedd brenhinol canoloesol mwyaf cyflawn yng Nghymru. Os nad ydych chi’n cael y bendro, dringwch i ben un o wyth tŵr ysblennydd y castell i gael golygfeydd ysgubol o’r harbwr a strydoedd culion Conwy islaw.
Castell Caernarfon, Gogledd Cymru
Cadernid cyhyrog Castell Caernarfon yw un o’r golygfeydd mwyaf syfrdanol welwch chi fyth. Adeiladwyd y campwaith amlochrog hwn yn y 13eg ganrif ar ben cyn gaer Rufeinig, ac mae’n un o blith pedwar o gestyll Edward I, gyda Chonwy, Biwmares a Harlech, sy’n Safle Treftadaeth y Byd.
Tŵr yr Eryr, gyda’r tri thŵr bach a waliau 18 troedfedd o drwch yw’r uchafbwynt, a dyma ble byddai’r teulu brenhinol yn cysgu mewn ysblander urddasol.
Castell Dinbych, Gogledd Cymru
Fry ar fryn uwch y dref, nodwedd fwyaf arbennig Castell Dinbych yw’r porthdy tri-thŵr trawiadol. Arferai’r castell fod yn gartref brenhinol i Dafydd ap Gruffydd, a achosodd i frenin Lloegr, Edward I ymosod yn chwyrn ar Gymru drwy gipio castell Penarlâg gerllaw. Yn ystod eich ymweliad, cofiwch archwilio’r cyrchborth dirgel – drws cudd oedd yn galluogi amddiffynwyr i sleifio i mewn ac allan o’r castell. A gallwch chwarae ‘beth yw’r gwahaniaeth’ gyda’r tyrrau crwn ac amlochrog, a adeiladwyd mewn dau gyfnod gwahanol, yn 1282 a 1295. |
Castell Harlech, Gogledd Cymru
Ar gopa craig uchel, serth, â golygfa dros gopaon pell Eryri, lleolir Castell Harlech yn un o’r mannau mwyaf gogoneddus o holl gestyll Cymru.
Adeiladwyd hon rhwng 1282 a 1289, ynghyd â chestyll eraill Edward I, Conwy, Caernarfon a Biwmares, mae Harlech yn Safle Treftadaeth y Byd. Gall ymwelwyr fynd i’r cadarnle enfawr hwn ar yr arfordir drwy gyfrwng ‘pont droed grog’.
Castell Caerffili, De Cymru
Castell mwyaf Cymru, a’r ail fwyaf ym Mhrydain, yw Castell Caerffili. Fe’i diogelwyd gan amddiffynfeydd dŵr pan adeiladodd y Saeson ef yn y 13eg ganrif. Tu fas i’r castell, ymhlith rhyfeddodau eraill, gellir gweld pedair injan warchae, ac mae gan du fewn y castell deimlad cysegredig, mawreddog. Dringwch i ben to’r porthdy dwyreiniol enfawr, ble gallwch weld y cylchoedd o amddiffynfeydd carreg a dŵr a achosodd i Gaerffili fod mor drawiadol. Cadwch lygad am y tŵr de-ddwyreiniol – Tŵr Gogwyddol arbennig Cymru, ac yn fwy cam hyd yn oed nag un Pisa – dyma hoff nodwedd y Castell, siŵr o fod. |
Castell Cydweli, De Cymru
Mae gan Cydweli bopeth ddylai fod mewn castell: gwrthgloddiau serth, tyrrau uchel, waliau mawr a phorthdy sylweddol a gymerodd o leiaf ganrif i’w gwblhau. Gallwch fynd yn ôl drwy’r canrifoedd at y castell pridd a phren cyntaf a adeiladwyd yma gan y Normaniaid. Gallwch olrhain ei siâp hanner cylch drwy gerdded ar hyd y waliau cerrig a adeiladwyd bron i ganrif yn ddiweddarach. Peidiwch â gadael cyn archwilio’r porthdy na’r capel bach hardd sy’n edrych allan dros yr afon.
Castell Rhaglan, De Cymru
Castell Rhaglan oedd un o’r cestyll canoloesol olaf i gael ei adeiladu yng Nghymru a Lloegr – mae’n dal yn wydn ond fe’i cynlluniwyd i fod yn gysurus a moethus hefyd. Dringwch y Tŵr Mawr ar ynys a amgylchynir gan ffos ac archwiliwch y seleri o dan y castell sydd newydd gael eu hadnewyddu, ble arferid cadw rhai o winoedd gorau Ewrop i’w gweini ar y bwrdd uchaf i greu argraff ar westeion.
Gan gofio am enw da Rhaglan ar gyfer rhoi adloniant, bydd y castell yn cynnal digwyddiadau cyson gan gynnwys darllen barddoniaeth, dramâu, canu a dawnsio.