Castell Dinbych
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Castell grymus yn dwyn i gof ddrama rhyfela yn y canol oesoedd
Drama yw swm a sylwedd Castell Dinbych. Croeswch y bont godi i mewn i'r porthdy tri thŵr ac fe glywch y porthcwlis yn taranu i lawr, y cadwyni’n clecian a dwndwr ceffylau a milwyr yn gorymdeithio.
Peidiwch â chael gormod o ofn. Synwyryddion a rhyfeddodau’r dechnoleg fodern sy’n gyfrifol am hyn. Ond mae’n ffordd rymus i’n hatgoffa bod y gaer gadarn hon, sy'n goron ar y garreg frig greigiog uwchlaw Dyffryn Clwyd, wedi chwarae rhan hanfodol yn y rhyfeloedd fu’n gyfrwng i ffurfio Cymru.
Ar un adeg roedd y castell yn gartref brenhinol Dafydd ap Gruffudd ac yn dilyn cyrch ganddo ar Gastell Penarlâg gerllaw ysgogwyd Edward I, brenin Lloegr, yntau i drefnu ymosodiad ar raddfa fawr. Erbyn 1282 roedd Dinbych yn nwylo Cadlywydd y brenin, Henry de Lacy.
Bwriodd hwnnw ati’n syth i godi caer enfawr o garreg ynghyd â muriau tref eang yn union ar ben cadarnle Dafydd. Ond doedd y Cymry ddim am ildio. Ymosodwyd ar y castell oedd ar hanner ei godi ac fe’i cipiwyd ond, erbyn iddyn nhw ei adennill, roedd y Saeson wedi newid y glasbrint.
Codwyd y llenfuriau’n llawer uwch, ychwanegwyd y porthdy mawreddog a gosodwyd ‘cyrchborth’ dyfeisgar yn ei le – drws cyfrinachol diogel – fel y gallai unrhyw amddiffynwyr sleifio allan mewn argyfwng.
Prisiau a Thocynnau
Cyfleusterau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Mynediad drwy ffordd gul i faes parcio'r ystafell tua 100 metr o fynedfa'r castell. Mae ardal barcio ceir wedi'i graeanu gyferbyn â'r castell sy'n dal tua 15 o geir. Mae un lle parcio penodol i bobl anabl.
Gellir archebu'r man i bobl anabl cyn yr ymweliad.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Mae ardaloedd ar y safle yn hygyrch i bobl sy’n ei chael hi’n anodd symud o gwmpas.
3 bwrdd patio â rhannau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Mae lluniaeth ysgafn ar gael.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Mae toiledau wedi'u lleoli yn y ganolfan ymwelwyr.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Cyfarwyddiadau
Cod post LL16 3NB
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 01745 813385
E-bost
DenbighCastle@llyw.cymru
Castle Hill, Dinbych LL16 3NB