Skip to main content

Roedd Castell Dinbych yn dal heb ei gwblhau pan fu farw Henry de Lacy ym 1311. Mae'n bur debyg na chafodd y porthdy mawr fyth ei dyredau arfaethedig na'i lawr uchaf.

Efallai nad oedd ganddo'r galon i’r gwaith. Yn ôl traddodiad, lloriwyd yr iarll gan dristwch wedi i'w fab hynaf, Edmwnd, syrthio i’w dranc i lawr ffynnon y castell.

Anorffenedig efallai – ond daliodd y castell i ddenu digwyddiadau o bwys cenedlaethol. Yn 1400 cadwodd Henry Percy (Harry Hotspur y dramodydd Shakespeare) Owain Glyndŵr draw am fwy na dwy flynedd cyn iddo ef ei hun godi yn erbyn coron Lloegr.

Yn 1563 rhoddwyd y castell i'r ffefryn pwerus - Robert Dudley - cariad y Frenhines Elizabeth I, medd rhai. Gwnaed rhywfaint o fân atgyweiriadau i rannau preswyl y castell gan y Barwn Dinbych ac Iarll Caerlŷr newydd.

Ond neilltuodd y rhan fwyaf o'i egni i gynllun mawreddog, sef adeiladu eglwys ysblennydd, tebyg i gadeirlan, y tu mewn i furiau'r dref.

Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref, swydd ddiflas y Cyrnol William Salesbury oedd amddiffyn y castell ar ran y Brenhinwyr. Llwyddodd y dyn a elwid ganddynt yr ‘Hen Hosanau Gleision’, (‘Old Blue Stockings’), i wrthsefyll yn gadarn am chwe mis yn erbyn gwrthwynebiadau llethol.

Yn y pen draw, dan orchymyn y Brenin Siarl I i ildio, gorymdeithiodd Salesbury a'i ddynion allan o’r castell â’u baneri’n hedfan, drymiau'n curo ac utgyrn yn canu. Roedd hyd yn oed eu mysgedau wedi’u llwytho.