Castell Dinbych — Datganiad am Fynediad
Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:
Ebost: DenbighCastle@llyw.cymru Ffôn: 03000 252239
Mae gan gastell Dinbych faes parcio rhad ac am ddim gyda lle parcio hygyrch: Golwg Google maps
Mae wyneb y maes parcio yn wastad ac yn raeanog. Taith fer o oddeutu 50 metr yw'r ganolfan ymwelwyr ar hyd llwybr resin i fyny llethr gymedrol.
Rydych yn croesi pont bren lydan ac yn mynd i mewn i'r safle drwy ardal raeanog gwastad drwy'r porthdy. Does dim grisiau ar y daith hon. Wrth i chi fynd i mewn i'r porthdy cewch eich cyfarch gan effeithiau sain uchel sy'n darlunio seiniau castell canoloesol
Mae mynediad i'r ganolfan ymwelwyr drwy ddrws gyda phanel agor awtomatig (gyda ramp bach iawn)
Mae'r ganolfan ymwelwyr yn yr heneb, ac mae'n cynnwys desg dderbyn isel, drysau awtomatig, drysau llydan ac arwynebau gwastad, lefel.
Toiledau: mae gan gastell Dinbych doiledau hygyrch a chyfleusterau newid babanod o fewn y ganolfan ymwelwyr.
Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser a rhaid i gŵn nad ydynt yn gŵn cymorth aros ar y llawr gwaelod yn unig. Dŵr ar gael i gŵn.
Mae gan Gastell Dinbych ardal patio fechan gerllaw'r ganolfan ymwelwyr ac ardal laswelltog awr agored o fewn y safle, gyda rhywfaint o'r ardal hon yn wastad.
Gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd da o'r castell o'r ardaloedd hyn, gyda llawer o le i blant chwarae. Mae’r safle wedi’i gosod i laswellt a does dim llwybrau mewnol. Mae mynediad i lwybrau’r waliau drwy risiau serth hir, gyda grisiau anwastad. Mae arwyneb llwybrau’r waliau yn gymedrol anwastad hefyd.
Mae ardaloedd eraill o ddiddordeb o fewn y safle yn cynnwys nifer fach o risiau anwastad (ar i lawr wrth fynd i mewn) ac arwynebau, gan gynnwys y Cilborth a siambrau gwyrdd hefyd. Mae arwynebau o fewn yr ardaloedd hyn wedi'u graeanu. Does dim llawer o ardaloedd mewnol (e.e. coridorau) o fewn yr heneb.
Taith sain |
Nac oes Nac oes Oes Oes Nac oes Oes - cewch eich cyfarch gan effeithiau sain sy'n darlunio synau castell canoloesol. Oes – ar risg y perchennog. Oes – mae nifer fechan o fyrddau a chadeiriau ar ardal patio gwastad y tu allan i'r ganolfan ymwelwyr . Oes Nac oes |