Capel Hilari
Eglwys drefol syml yn croesawu cynulleidfa enwog
Wedi’i godi o fewn muriau trefol Dinbych tua dechrau’r 14eg ganrif, Capel Hilari oedd man addoli gwreiddiol y dref a chafodd ei ddefnyddio tan ddiwedd y 1800au. Ar ôl cael ei adael, aeth yr adeilad â’i ben iddo ac erbyn hyn dim ond y tŵr a darn byr o’r wal orllewinol sydd dros ben.
Yn ogystal â bodloni anghenion trigolion y dref, croesawodd yr eglwys rai ymwelwyr enwog yn ystod ei hanes. Ar 28 Medi 1645 yn ystod y Rhyfel Cartref, cynhaliwyd gwasanaeth yma a fynychwyd gan lawer o urddasolion gan gynnwys Brenin Siarl I ac Archesgob Caerefrog.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1 Ebrill – 31 Mawrth
|
Gellir ei weld o'r tu allan. |
---|---|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Cyfarwyddiadau
Google MapAm fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.