Muriau Tref Dinbych
Arolwg
Y llinell amddiffyn gyntaf i gastell canoloesol Dinbych
Y brigiad creigiog sy’n gartref i gastell Dinbych a’i muriau trefol oedd, ar un adeg, safle cadarnle yn eiddo i dywysog Cymru, Dafydd ap Gruffydd, er mai gwaith brenin Lloegr, Edward I, yw’r olion a saif heddiw. Wedi’i hadeiladu tua 1285, codwyd waliau Dinbych cyn y castell sy’n eistedd o’u mewn, a hynny yn ôl pob tebyg i amddiffyn y gweithlu rhag ymosodiadau gan luoedd brodorol. Estynnwyd y waliau yn y 14eg ganrif i gynnwys y Tŵr Coblyn trawiadol. Roedd hwn yn gartref i wal eilaidd o fewn amddiffynfeydd y dref, a fyddai’n helpu Dinbych yn y pen draw i oroesi gwarchaeau yn Rhyfel Cartref Lloegr yn yr 16eg ganrif.
Mae llawer o’r wal yn sefyll o hyd, ynghyd ag olion nifer o dyrau a dau borthdy. O’r rhain, Porth Burgess i’r gogledd sydd yn y cyflwr gorau.
Amseroedd agor
Mae'r allwedd ar gael o'r lleoliadau canlynol: Castell Dinbych
Mae'n rhaid talu blaendâl arian parod a gaiff ei ddychwelyd am yr allwedd.
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Mae'r allwedd ar gael o'r lleoliadau canlynol: Castell Dinbych
Mae'n rhaid talu blaendâl arian parod a gaiff ei ddychwelyd am yr allwedd.
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Cyfarwyddiadau
O gwmpas llethr islaw’r castell.