Gellir cyrraedd lefelau uchaf Porth y Brenin trwy lifft neu risiau serth, gan roi mynediad i rannau o'r castell nas gwelwyd yn agos ers canrifoedd. Ar hyn o bryd dim ond ar ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn y mae'r lifft yn weithredol.
Sylwer: Os bydd argyfwng, fel tân, dylech fod yn ymwybodol mai dim ond nifer cyfyngedig o unigolion sydd angen cymorth i adael ar frys all fod ym Mhorth y Brenin. Mae'r llwybr gwacáu yn golygu mynd i lawr grisiau troellog cul, anwastad. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol, rydym yn cynghori ymwelwyr a allai fod angen cymorth i adael ar frys i gysylltu â'r castell ymlaen llaw a sicrhau amser wedi’i neilltuo ar gyfer eich ymweliad.
Rhif cyswllt – 01286 677 617 / caernarfoncastle@llyw.cymru
O ganlyniad i effeithiau'r tywydd mae Castell Caernarfon ar gau heddiw.
Bydd yr siop dal ar agor
Caiff Castell Caernarfon ei gydnabod yn fyd-eang fel un o adeiladau mwyaf godidog y Canol Oesoedd
Dyma gawres o gaer ar lannau Afon Seiont sydd wedi’i grwpio gyda chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech i ffurfio Safle Treftadaeth y Byd. Ond ar sail ei faint anhygoel a’i bensaernïaeth ddramatig, mae Caernarfon yn sefyll ar ei ben ei hun.
Yma, aeth Edward a’i bensaer milwrol, Meistr James o St George ati i adeiladu castell, muriau tref a chei tua’r un pryd. Cymerodd y prosiect adeiladu enfawr hwn 47 o flynyddoedd, a chostiodd y cyfan £25,000, cryn ffortiwn ar y pryd.
Adeiladwyd y castell yn sgil y rhyfel chwerw gyda thywysogion Cymru. Felly roedd rhaid i’r waliau trwchus a Phorth y Brenin allu gwrthsefyll unrhyw ymosodiad. Ond roedd y tyrau polygon, yr eryrod cerrig a’r cerrig amryliw yn cyfleu neges fwy cynnil.
Roeddynt yn adleisio pensaernïaeth Rufeinig imperialaidd, ac yn enwedig muriau Constantinople. Roeddynt hefyd yn adleisio chwedl Macsen Wledig, a’i freuddwyd am gaer ysblennydd wrth aber afon — ‘y gaer odidocaf a welodd dyn erioed’.
Felly mae Caernarfon yn gastell o freuddwydion. Yn chwedl a ddaeth yn fyw. Ar ôl 700 mlynedd, mae’n dal i gyffroi’r dychymyg yn ei ffordd unigryw ei hun.
Sut i ymweld
• prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
• gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
• cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Prosiect Porth y Brenin Castell Caernarfon
Oherwydd gwyntoedd cryfion, mae Castell Caernarfon ar hyn o bryd ynghau. Rydym ar yr adeg hon yn monitro’r sefyllfa a byddwn yn eich diweddaru pan fydd y castell yn gallu ailagor.
Bob dydd 9.30am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 9.30am–6pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 9.30am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 10am–4pm
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi.
Facebook @CadwWales | Twitter @cadwcymru
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£13.70
|
Teulu* |
£43.70
|
Person Anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£9.60
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£13.00
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Mae tywysydd sain ar gael i’w brynu wrth gyrraedd y ganolfan ymwelwyr.
Mae nifer o feysydd parcio yn nhref Caernarfon ac o’i chwmpas, gan gynnwys maes parcio cyhoeddus arhosiad hir ar lannau’r afon, ger y castell.
Mae Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol yn y castell. Mae mynediad iddi’n rhan o bris mynediad y castell.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Mae amgueddfa ar y safle.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Yn newydd ar gyfer Ebrill 2023 – mae’r tîm bellach wedi agor caffi ym Mhorth y Brenin sydd wedi’i leoli yn y tŵr mawreddog sy’n cynnwys mynediad lifft i’r to lle gellir mwynhau golygfeydd o arfordir Cymru.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Mae ein cyflwyniad fideo ar hyn o bryd yn cael ei atgyweirio gan ein timau ac ni fydd ar gael yn ystod eich ymweliad. Byddwn yn adfer y dehongliad hwn cyn gynted â phosib.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Cod post LL55 2AY
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost
CaernarfonCastle@llyw.cymru