Castell Harlech

Y safle mwyaf ysblennydd o holl gaerau arfordirol cadarn Edward I
Castell Harlech sy’n coroni clegyr creigiog serth fry uwchben y twyni tywod – yn aros yn ofer i’r llanw droi ac i’r môr pell lepian wrth ei droed unwaith eto.
Nid oes angen rhagor o ddrama a dweud y gwir ond, rhag ofn, mae copaon garw Eryri yn codi y tu ôl iddo. Yn erbyn cystadleuaeth frwd gan Gonwy, Caernarfon a Biwmares, mae’n siŵr mai hwn yw’r safle mwyaf ysblennydd i unrhyw un o gestyll Edward I yng Ngogledd Cymru. Dynodwyd y pedwar i gyd yn Safle Treftadaeth y Byd.
Cwblhawyd Harlech o’r ddaear i’r bylchfuriau mewn saith mlynedd yn unig o dan arweiniad y pensaer dawnus James o San Siôr. Mae ei ddyluniad ‘waliau o fewn waliau’ clasurol yn gwneud y mwyaf o amddiffynfeydd naturiol brawychus.
Hyd yn oed pan gafodd ei ynysu’n llwyr gan wrthryfel Madog ap Llewelyn, ni ildiodd y castell – diolch i’r ‘Ffordd o’r Môr’. Roedd y llwybr hwn o 108 o risiau a ddringai’r graig serth yn golygu bod modd bwydo a dyfrio amddiffynwyr dan warchae o long.
Haws yw trechu Harlech erbyn hyn. Cewch gerdded ar hyd pompren ‘arnofiol’ anhygoel i mewn i’r castell gwych hwn yn ôl bwriad James y pensaer - am y tro cyntaf mewn 600 mlynedd.
Sut i ymweld
• prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd
• gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
• cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
Oriel
Expand image













Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am-5pm |
---|---|
1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am-6pm |
1st Medi - 31st Hydref | 9.30am-5pm |
1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am-4pm |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi. Facebook @CadwWales | Twitter @cadwwales |
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£9.50
|
Teulu* |
£30.40
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£6.70
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£8.80
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Lle i gadw beiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio Talu ac Arddangos
Mae maes parcio sy’n codi tâl ar gael.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Gorsaf Ail-lenwi â Dŵr
Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Llety gwyliau
Mae llety gwyliau Cadw ar gael i’w logi yn agos i’r safle hwn.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Lluniaeth
O frecwastau harti i brydau ysgafnach a the prynhawn, mae Caffi Castell wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cyflenwyr lleol gorau.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Harlech LL46 2YH
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01766 781339.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost HarlechCastle@llyw.cymru
Cod post LL46 2YH
what3words: ///coginio.tywysog.fflachiau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.