Skip to main content

Beth am droi ymweliad â’r safle Treftadaeth Byd hwn o’r drydedd ganrif ar ddeg yn wyliau bach moethus?

Mae pump fflat gwyliau hunan-ddarpar newydd wedi’u creu yn han o’r cynllun datblygu gwerth £5.9 miliwn yng Nghastell Harlech, a hynny o fewn llathenni i ddau dŵr porthdy dwyreiniol urddasol y castell.

Fflatiau Gwyliau / Harlech Apartments

Gyda golygfeydd godidog o Gastell Harlech ysblennydd, a’r môr a’r mynyddoedd yn y cefndir, mae’r fflatiau moethus hyn yn ddelfrydol ar gyfer ymwelwyr sydd eisiau lleoliad, golygfeydd, atyniadau cyfagos a rhywbeth bach arbennig o’u gwyliau! Mae pob un wedi’i addurno a’u dodrefnu i safon uchel, gyda deunyddiau wedi’u dewis yn ofalus a phersonoliaethau unigol, mae pob llety yn cynnig rhywbeth gwahanol.

Gall gwesteion ddisgwyl llenni a chlustogau cyfforddus, ystafelloedd byw agored o safon uchel, darnau diddorol o waith celf ac, wrth gwrs, golygfeydd gwych!

Mae pedwar o’r pump fflat yn edrych draw at y castell a dyfroedd Bae Ceredigion y tu hwnt.

Mae gan bob fflat le cysgu i ddau a man parcio iddo’i hun.

Fflatiau Gwyliau / Harlech Apartments

Archebwch rŵan gyda'r Cottage Company

Harlech Apartments — Efnisien 

Harlech Apartments — Matholwch

Harlech Apartments — Branwen

Harlech Apartments — Bendigeidfran

Harlech Apartments — Gwern