Skip to main content

O fewn tafliad carreg i safle hanesyddol y Castell Gwyn yn Sir Fynwy, gyda golygfeydd prydferth o fryniau’r ardal o un o’r llofftydd ac o’r castell a’i diroedd o ffenest y landin, mae Crown Cottage yn fan perffaith ar gyfer gwyliau teulu neu antur fach ramantus.

Gyda charthenni Cymreig, deunyddiau a phapurau wal prydferth a darluniau gan arlunwyr lleol, mae yma awyrgylch cyfforddus, llawn steil ac ystafelloedd llawn cymeriad. Er hynny, mae’r holl adnoddau modern yma hefyd i ddifyrru pawb gan gynnwys Wifi, setiau teledu (gyda Netflix) a chwaraewyr DVD, Playstation a radio DAB.

Bwthyn y Goron / Crown Cottage

Y tu allan hefyd, mae digon i’w wneud. Mae’r bwthyn rhwng Dyffryn Gwy a’r Mynydd Du, felly gallwch fynd y naill ffordd neu’r llall i gael golygfeydd gwych, pethau diddorol i’w gweld a gweithgareddau llawn hwyl.

Wrth gwrs, gallwch fwynhau’r Castell Gwyn a’r tir o’i amgylch ac mae Llwybr Clawdd Offa’n agos, gan olygu bod teithiau cerdded trawiadol o fewn cyrraedd hawdd.

Os ydych am archebu'r bwthyn, cysylltwch â’r Cottage Company trwy alw 01873 890190 / ewch i the-cottage-company.co.uk

Five white stars on red background