Mae cestyll Cymru’n enwog dros y byd i gyd. Yn ôl yr arbenigwyr, mae dros 600 ohonynt. Gallem ddadlau dros yr union nifer, ond prin y gellir gwadu mai cestyll Edward I – o ran pur rym a phensaernïaeth filwrol arloesol –sy’n teyrnasu.
Ond yn gyntaf, mae angen inni osod y sylfeini sy’n egluro pam y cawsant eu hadeiladu. Lle cythryblus oedd Cymru yn y 13eg ganrif. Roedd anghydfodau rhwng y tywysogion brodorol a choron Lloegr yn esgor ar densiwn mawr.
Daeth Llywelyn Fawr ag undod i deyrnasoedd tameidiog Cymru wrth ymladd yn ddiflino yn erbyn arglwyddi gororau Lloegr a oedd yn benderfynol o gipio tir. Wedyn daeth ei ŵyr Llywelyn y Llyw Olaf i rym, gan roi mwy byth yn y fantol.
I ddechrau, bu Llywelyn ar ei anterth. Daeth brenin Lloegr, Harri III, hyd yn oed i gydnabod teitl Llywelyn yn swyddogol yn Dywysog Cymru ym 1267. Ond ym 1272, bu farw Harri, gan adael yr orsedd i’w fab, a oedd yn awchu o’r newydd wedi dychwelyd o’r croesgadau.
Nemesis Llywelyn oedd brenin newydd Lloegr, Edward I (1272–1307). Pan wrthododd Llywelyn dalu gwrogaeth ar ôl nifer o anghydfodau â’r brenin, lansiodd Edward ymgyrch ffyrnig i yrru’r Cymry yn ôl i’w perfeddwlad yng Ngwynedd. Yn nannedd anfanteision, gorfodwyd Llywelyn i lofnodi cytundeb heddwch a’i hamddifadodd o lawer o’i rym a’i diriogaeth.
Roedd y cefndir yn barod bellach ar gyfer un o’r cyfnodau gorau mewn hanes o ran adeiladu cestyll. Pwysleisiodd Edward ei oruchafiaeth dro ar ôl tro drwy godi pedwar castell brenhinol newydd yn Aberystwyth, Llanfair-ym-muallt, y Fflint a Rhuddlan. Ond caiff ei gofio’n bennaf am ei ‘gylch haearn’ o amddiffynfeydd a godwyd mewn ymateb i wrthryfel pellach a hybwyd gan Llywelyn ym 1282. Roedd y rhain yn plismona mynyddoedd Eryri, sef llygad ffynnon gwrthsafiad y Cymry.
Erbyn 1282, roedd Llywelyn wedi marw, ac yntau wedi’i ladd nid mewn brwydr fawr ond yn un o’r mân ysgarmesau damweiniol hynny a ddigwydd yn aml yn sgil rhyfel. Bu farw’r gobaith am Gymru annibynnol gyda Llywelyn – a chyda cham nesaf Edward. Trodd y brenin bob carreg yn ei ymgyrch i ddarostwng Cymru unwaith ac am byth, gan ddechrau rhaglen ddigynsail o adeiladu cestyll, heb arbed unrhyw gost.
Gyda’i gilydd, roedd gan Edward ran mewn creu nid llai na 17 o gestyll yng Nghymru. Ei gampweithiau yw’r pedwarawd o amddiffynfeydd - Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech - sydd wedi’u dynodi bellach yn Safleoedd Treftadaeth y Byd. Wedi’u hadeiladu yn ôl dyluniad ‘waliau o fewn waliau’ consentrig a chyda mynediad arfordirol strategol, roeddent yn elwa ar sylw athrylith bensaernïol yr oes, y pensaer James o San Siôr. Ar wahân i Harlech, roeddent yn ganolfannau masnachol yn ogystal â rhai milwrol, a’u cymunedau tramor wedi’u gwarchod gan furiau trefol cadarn. Mae eu statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn cydnabod mai’r cestyll hyn a’u trefi amddiffynedig yw’r ‘enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol yn Ewrop o ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau’r 14eg ganrif, fel sy’n amlwg yn eu cyflawnrwydd (a’u) cyflwr dilychwyn…’
Mae cestyll Edward yn ffenestr i Gymru’r 13eg ganrif. Yn henebion canoloesol, datgelant rym a phenderfynoldeb y Saeson. Ond mae ochr arall sydd yr un mor ddadlennol. Mae eu cryfder hefyd yn adlewyrchu cryfder y gwrthsafiad a’r dygnwch y daeth Edward ar eu traws yng Nghymru.