Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Capel Non

Man geni honedig nawddsant Cymru mewn llecyn dyrchafol  

Er nad oes ond ychydig waliau brau’n weddill o Gapel Non, a’r rheini o ddyddiad ansicr, mae’n safle diwylliannol a sanctaidd arwyddocaol o hyd. Mae ei leoliad, ar ymyl Cymru ar hyd un o’r darnau mwyaf ysblennydd o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ychwanegu at egni ysbrydol y capel. Dywedir mai yma oedd man geni nawddsant Cymru, Dewi Sant, yn y 6ed ganrif, ac fe’i henwyd ar ôl ei fam, ac mae’n dal yn fan pererindod hyd heddiw.

Hwyrach bod y capel bach petryalog yn blaen a syml, ond mae’r safle uwchben bae creigiog Santes Non yn mynd â’ch gwynt. Ar y llwybr i fyny i’r capel, byddwch yn mynd heibio ffynnon sanctaidd â phwerau iachau, yn ôl y sôn, sef man poblogaidd arall i aros ymhlith y pererinion sy’n ymweld.   

Amseroedd agor a phrisiau

Amseroedd agor

1 Ebrill – 31 Mawrth

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Gwybodaeth i ymwelwyr

Cyfarwyddiadau

Google Map
Beic: RBC Llwybr Rhif 4 (0.7m/1.1km)