Skip to main content

Arolwg

Dynion crefyddol a dawn tyfu pethau ganddynt

Yn sgil cloddiadau a ddechreuwyd yn y 1980au, datgelwyd llawer o gyfrinachau cudd maith y priordy adfeiliedig hwn ar lannau Afon Cleddau ychydig y tu allan i furiau trefol Hwlffordd. Yn ôl pob tebyg, fe’i sylfaenwyd i ganonau Awstinaidd tua diwedd y 12fed ganrif neu ddechrau’r 13eg ganrif, a gellir gweld rhannau o’r eglwys (gan gynnwys safle’r brif allor), y cabidyldy a’r cloestr.

Ond nodwedd orau’r priordy yw ei ardd wedi’i adfer, yr unig ardd ganoloesol eglwysig sy’n weddill ym Mhrydain, wedi’i hailblannu i adlewyrchu ei golwg a’i phersawr yn yr oesoedd canol.

Roedd yr ‘ardd bleser’ glodwiw hon, lle i fwynhau yn ogystal â myfyrio, yn beth prin mewn cylchoedd mynachaidd, yn adlewyrchiad o gyfoeth hynod y priordy. Arddangosir arteffactau o’r cloddiadau yn Amgueddfa Tref Hwlffordd.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Beic
RBC Llwybr Rhif 4 (1m/1.6km)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50