Castell Cas-wis
Hysbysiad ymwelwyr
Wrth ymweld â'r castell, byddwch yn ymwybodol y gallai da byw fod yn y cae cyfagos, yn enwedig yn ystod y gwanwyn a'r haf.
Cadwch anifeiliaid anwes ar dennyn a mwynhewch y daith gerdded o bellter diogel; peidiwch ag agosáu at unrhyw anifeiliaid ar hyd y ffordd.
Tomen a beili mewn cyflwr da, ac iddynt hanes cythryblus
Yn ôl pob tebyg, adeiladwyd Cas-wis gan gyfaneddwr Ffleminaidd cynnar o’r enw anarferol Wizo, ac erbyn hyn hwn yw un o’r cestyll tomen a beili gorau o ran cyflwr yng Nghymru (bryn bach yw tomen, ag amddiffynfeydd fel arfer, wedi’i amgylchynu gan ardal agored, neu feili, y tu mewn i wal allanol).
Yn ymddangos yn gyntaf mewn dogfennau ym 1147 pan ymosododd y Cymry arno, cafodd Castell Cas-wis fywyd byr ond llawn cyffro. Ymosododd y Cymry eto ym 1193, y tro hwn dan arweiniad Hywel Sais (mab Arglwydd Rhys, llywodraethwr y rhan hon o Gymru), cyn i’r tywysog brodorol Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) orffen y gwaith a’i ddinistrio ym 1220.
Mae olion y gorthwr gwag o garreg – ychwanegiad diweddarach at y domen – yn dal i sefyll hyd at 13 troedfedd/4m o uchder mewn mannau, yn ddi-dor i raddau helaeth heblaw am ddarn i’r gogledd a chwalwyd efallai yn ystod ymosodiad Llywelyn.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am–4pm |
---|---|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Mae gwartheg cyfagos yn aml yn crwydro yn rhydd o amgylch Castell Cas-wis, a gallai hyn achosi anawsterau wrth geisio cerdded drwy'r safle, yn enwedig wrth y fynedfa.
Mae’r draenio’n wael yn nhiroedd y castell, gan olygu bod y llwybr mynediad yn gorsiog mewn mannau. Gall hyn ddatblygu i fod yn brofiad mwdlyd os ydych yn ymweld mewn tywydd gwlyb.
Cymerwch eich amser a chanfod eich ffordd yn ddiogel drwodd i'r castell.
Gan mai castell mwnt a beili ydyw, rhaid cerdded sawl gris cyn i chi gyrraedd y castell.
Mae rheilen law wedi'i darparu i chi, a dylech aros i unrhyw un sy'n dringo i fyny cyn i chi ddechrau mynd i lawr.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Steep and uneven steps
Cerrig yn disgyn
Cyfarwyddiadau
Google Mapwhat3words: ///syrthiais.adleoli.pweru
Dim maes parcio dynodedig.
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn