Llys yr Esgob Tyddewi

Palas canoloesol mawreddog yr un mor odidog â’i gadeirlan
Dim ond un swydd oedd ar y brig i glerigwr uchelgeisiol yng Nghymru ganoloesol, sef Esgob Tyddewi yn Sir Benfro.
Datganodd pab yn y 12fed ganrif fod dwy daith i Dyddewi gywerth ag un i Rufain – gan droi’r cyntaf yn ganolfan i bererinion o bob rhan o’r byd gorllewinol. Heidiodd pobl yn eu miloedd i weld cysegr Dewi Sant yn y gadeirlan newydd.
Ond ni allai cartref yr esgob gystadlu â’r gwychder hwn. Yna daeth Henry de Gower. Rhwng 1328 a 1347 trodd yntau adeilad nad oedd yn weddus ond i ‘weision ac anifeiliaid’ yn balas eang.
Yr adain ddwyreiniol oedd ei ardal breifat ef. Roedd yr adain ddeheuol ar gyfer rhodres a seremoni. Yma yn y neuadd fawr y byddai Esgob Henry yn gweinyddu cyfiawnder, yn cynnal gwleddoedd ac yn croesawu pererinion o fri.
Y Diwygiad oedd dechrau’r diwedd. A dweud y gwir, mae’n ddigon posibl fod William Barlow, Esgob Protestannaidd cyntaf Tyddewi, wedi tynnu’r plwm oddi am y to ei hun er mwyn sbarduno dirywiad araf. Ond hyn yn oed yn adfail, mae’r palas hwn yn lle syfrdanol wrth ymyl ei gadeirlan ogoneddus.
Sut i ymweld
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
- gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
- cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image











Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am-5pm |
---|---|
1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am-6pm |
1st Medi - 31st Hydref | 9.30am-5pm |
1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am-4pm |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£6.80
|
|
Teulu* |
£21.80
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£4.70
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£6.10
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£6.50
|
|
Teulu* |
£20.80
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£4.50
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£5.80
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Lle i gadw beiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio Talu ac Arddangos
Mae'r prif faes parcio (Merivale) o fewn pellter cerdded cyr ar hyd ffordd arwynebog gyda rhai llethrau (300 metr).
Mae lle i tua 100 o geir a sawl lle parcio i bobl anabl.
Nid yw parcio y tu allan i'r heneb yn gyfyngedig ond mae'n brysur iawn yn ystod gwyliau'r ysgol ac ar ddydd Sul. Fodd bynnag, gellir ei ddefnyddio fel man gollwng.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Gorsaf Ail-lenwi â Dŵr
Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Byrddau picnic
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Iechyd a Diogelwch
Argymhellir parcio yn y maes parcio dynodedig ger yr eglwys gadeiriol, ond, mae llwybr serth i lawr i'r palas.
Mae rhai lleoedd parcio y tu allan i'r palas ac mae lle i ollwng ymwelwyr sydd angen cymorth, ond mae’r nifer yn gyfyngedig, ac mae'r ffyrdd yn gul.
Mae nant fechan wrth ymyl y palas gyda phont fynediad ar gyfer cerddwyr.
Gall rhai rhannau o'r llawr gwaelod fod yn wlyb ac yn fwdlyd wrth ymweld mewn tywydd garw, ond, mae'r rhan fwyaf o'r safle yn cynnwys llwybrau graean.
Mae nifer o risiau yn arwain at loriau uchaf y palas, y rhan ddeheuol yw'r hawsaf i'w chyrraedd (gyferbyn â'r ganolfan ymwelwyr).
Gall y llawr fod yn anwastad wrth i chi symud o gwmpas y lloriau uchaf ac mae rhywfaint o beryglon baglu yno. Yn yr adain ddeheuol mae grisiau serth yn arwain at y llwybr bach ar hyd y wal/golygfan. Byddwch yn ofalus o bobl eraill sy'n defnyddio'r gofod hwn.
Mae tŵr bach serth ar loriau uchaf yr adain ddwyreiniol. Argymhellir bod un person yn mynd i mewn i'r fan hyn ar y tro.
Mae cyfres o gryptau o dan yr adain ddeheuol, gall y mynedfeydd fod yn isel a'r ardal yn dywyll oherwydd golau naturiol gwael. Cymerwch ofal wrth fynd i mewn i'r man hwn gan fod adar ac ystlumod yno weithiau. Mae ychydig o risiau’n arwain i’r lloriau uchaf o’r man hwn, cofiwch y gall y rhain fod yn wlyb mewn tywydd garw.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Cwymp sydyn
Steep and uneven steps
Golau gwael
Wyneb llithrig neu anwastad
Toeau Isel
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
The Close
Tyddewi
Sir Benfro SA62 6PE
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01437 720517
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
Cod post SA62 6PE
what3words: ///cysgodi.diffodd.balchach
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50