Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Llys yr Esgob Llandyfái

Diod i’r esgob

Ni allasai bywyd fod mor anodd â hynny i esgobion canoloesol Tyddewi. Byddai’r dynion bydol, cyfoethog, dylanwadol hyn yn mwynhau eu cysuron cartref — fel y gwelwch pan grwydrwch o gwmpas tiroedd gwych Llandyfái, a oedd yn bennaf yn ffrwyth gwaith y dynamig Henry de Gower, esgob Tyddewi o 1328 i 1347. Defnyddiai’r esgobion Landyfái yn encilfa wledig, yn ddihangfa rhag beichiau’r Eglwys a’r Wladwriaeth.

Er nad yw’n bell iawn o Dyddewi ei hun, roedd yn newid byd i fywyd syml, caeth ‘Dewi’r Yfwr Dŵr’, Dewi Sant, nawddsant Cymru, a fu fyw lawer o ganrifoedd ynghynt. Buasai’r preladiaid canoloesol yn byw bywydau breintiedig bonheddwyr gwledig, gan fwynhau moethau llety preifat, neuadd fawr grand, siambr llawr cyntaf, pyllau pysgod, perllannau ffrwythau, gerddi llysiau a pharc 144 erw / 58ha.

Amseroedd agor a phrisiau

Amseroedd agor

1 Ebrill – 31 Mawrth

Bob dydd 10am–4pm

Mae’r canolfan ynmwelwyr ar gau. Mynedfa i’r heneb trwy’r giât ochr.

Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Gwybodaeth i ymwelwyr

Cyfarwyddiadau

Google Map
Ffordd: A4139 o Benfro neu Ddinbych-y-pysgod.
Rheilffordd: Llandyfái 600m/660llath, llwybr Abertawe-Caerfyrddin/ Dinbych-y-pysgod/ Doc Penfro.
Bws: 600m/660llath, llwybr Rhif 349/359, Dinbych-y-pysgod-Llandyfái/ Penfro/Hwlffordd.
Beic: RBC Llwybr Rhif 4 (200m/219llath).

Cod post SA71 5NT

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50