Esgob brwd dros bensaernïaeth
Ni fodolai proffesiwn y pensaer fel y gwyddom amdano heddiw tan yr 17eg ganrif. Cododd adeiladau canoloesol mawreddog drwy sgyrsiau rhwng noddwyr dysgedig a’u meistri ar eu crefft.
Yn wir, roedd Henry de Gower yn un brwd dros bensaernïaeth. Astudiodd yng Ngholeg Merton, Rhydychen, pan oedd rhai o’r adeiladau gwychaf yn y dull Gothig Addurnedig yn cael eu hadeiladu.
Ac yntau’n hanner cant yn cael ei ethol yn esgob Tyddewi, cafodd y cyfle o’r diwedd i fynegi ei hun mewn carreg. Wrth reswm, cafodd ei ysbrydoli gan y cerfio coeth, y treswaith rhugl a’r lliwiau cryf a ddiffiniai’r bensaernïaeth Addurnedig.
Roedd yn uchelgeisiol iawn – ond cadwodd at gyllideb. Codwyd waliau ei balas mewn rwbel ac fe’u gorchuddiwyd â phlastr wedi’i beintio. Dim ond cerrig lleol a ddefnyddiodd, er bod lliw porffor gwych y tywodfaen Caerbwdi yn fantais.
Cadwyd addurniadau cerfiedig drud ar gyfer mannau lle caent yr effaith fwyaf - y drysau i mewn i neuadd yr esgob, y porth i’r neuadd fawr a'r tu mewn i’r capel mawr. Y peth mwyaf afradlon oll oedd y parapet bwaog gyda’i gorbelau carreg cerfiedig a’i batrymau sgwarog hardd mewn cwarts. Ond hyd yn oed yma cadwodd Esgob Henry y darnau gorau ar gyfer golygfeydd allweddol penodol.
Nid oedd creu ei balas ei hun yn ddigon i fodloni ei uchelgeisiau pensaernïol. Aeth yr esgob-adeiladwr hynod hwn ati hefyd i adlunio corff, côr a thŵr y gadeirlan drws nesaf. Aeth ati hyd yn oed i adeiladu ei le gorffwys ei hun – y groglofft fawreddog, neu sgrin garreg, a’i lunddelw llarpiog wrth ei hymyl hyd heddiw.