Llys yr Esgob Tyddewi — Datganiad am Fynediad
Croeso i’n tudalen fynediad sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:
Ebost: STDavidsBishopsPalace@llyw.cymru Ffôn: 03000 252239
Ffôn: 03000 252239
Mae parcio cyfyngedig y tu allan i’r palas. Mae maes parcio talu ac arddangos tua 300 medr i ffwrdd ar heol ag arwyneb sydd ag ychydig o lethrau mewn mannau.
Mae mynedfa i’r safle o'r stryd, ac mae mynedfa'r ganolfan ymwelwyr yn agos at y pwynt mynediad. Mae'r ganolfan ymwelwyr yn arwain yn syth i'r palas. Mae'r daith hon yn fflat a gwastad.
Mae'r toiledau ar y safle ar lefel y llawr gwaelod ac yn cynnwys ciwbicl hygyrch.
Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser a rhaid i gŵn nad ydynt yn gŵn cymorth aros ar y llawr gwaelod yn unig. Dŵr ar gael i gŵn.
Gellir mwynhau'r rhan fwyaf o'r safle ar lefel y ddaear. Mae'r tir yn wastad ac yn lefel gan amlaf gyda rhai llethrau graddol. Mae mynediad da drwy’r holl lawr gwaelod.
Mae arwyneb graean haenog ar y llwybrau o amgylch yr iard sy’n addas i gadeiriau olwyn a bygis.
Mae paneli gwybodaeth sain ar y llawr gwaelod a dehongliad ar lefel yr iard trwy'r claddgelloedd ar ffurf ciwbiau golau mawr wedi'u goleuo sy'n cynnwys gwybodaeth a darluniau ysgrifenedig.
Mae gan un effeithiau sain yn hytrach na gwybodaeth sain. Mae'r rhain wedi'u lleoli mewn claddgelloedd hygyrch.
Mae grisiau i lawr i rai o’r is-grofftydd/claddgelloedd. Mae mynediad i’r llawr cyntaf drwy resi o risiau gyda chanllawiau (gellir gweld y llawr cyntaf cyfan drwy fynd i fyny un rhes o risiau).
Taith sain Diffibriliwr Powlen i gŵn Canllawiau print bras Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri Cyfleusterau picnic Dolenni sain cludadwy Gorsaf ail-lenwi dŵr |
Nac oes Oes Oes Nac oes Nac oes Nac oes Oes Oes Oes |