Skip to main content

Trefnir digwyddiadau llogi masnachol yn ein henebion gan drydydd partïon yn unol â Thelerau ac Amodau Cadw a bydd Cadw yn codi ffi am logi'r lleoliad ac unrhyw gostau staffio ychwanegol. Gall y mathau hyn o ddigwyddiadau amrywio'n fawr o ran maint a chynnwys a gallant gynnwys:

  • heneb yn agor y tu allan i oriau agor arferol
  • llogi henebion unigryw
  • yr angen i gyfyngu mynediad i rannau penodol o'r safle
  • ddim ar gael i ymwelwyr safle, digwyddiad preifat
  • staff ychwanegol Cadw i fonitro digwyddiadau y tu allan i oriau
  • digwyddiadau sy'n gwerthu tocynnau ar gyfer masnach neu godi arian
  • digwyddiadau'n cael eu cynnal dros nifer o ddiwrnodau yn olynol
  • bydd yr holl ddigwyddiadau llogi masnachol yn codi ffi am logi lleoliad ynghyd â staff ychwanegol sydd eu hangen.

Enghreifftiau o ddigwyddiadau llogi masnachol:

  • perfformiadau â thocynnau (cyngherddau/digwyddiadau cerddoriaeth)
  • digwyddiadau chwaraeon – digwyddiadau rhedeg / marathon
  • digwyddiadau grwpiau diddordeb arbennig
  • sglefrio iâ
  • sinema dros dro (e.e. ffrwd fyw rygbi)
  • digwyddiadau bwyd a diod
  • digwyddiadau rali, clybiau perchnogion ceir ac ati
  • perfformiadau theatr sy’n gwerthu tocynnau
  • nosweithiau gala preifat.

Gall digwyddiadau nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiad hwn, lle na ellir talu ffi, gael eu dosbarthu fel digwyddiad llogi cymunedol a bydd angen eu cyflwyno drwy Ffurflen Gais Cadw ar gyfer Digwyddiadau Cymunedol.

Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob llogwr ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein i ofyn am ddefnyddio unrhyw heneb Cadw ar gyfer digwyddiad trydydd parti, a fydd yn galluogi'r tîm i benderfynu a yw'r digwyddiad yn briodol ar gyfer y safle dan sylw. Mae hyn hefyd yn rhoi gwybod i ni am unrhyw ofynion arbennig sydd gan yr ymgeisydd ac yn caniatáu i ni roi gwybod i'r grŵp cymunedol am unrhyw bryderon.

Dylid cyflwyno'r ffurflen o leiaf bum wythnos cyn y digwyddiad, ac yn gynharach os yn bosibl.

Bydd angen cyflwyno gyda'r cais gynllun digwyddiad arfaethedig, asesiad risg a chadarnhad y bydd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gael i gwmpasu'r digwyddiad.

Byddwn yn asesu digwyddiadau ar y meini prawf canlynol:

  • a yw'r digwyddiad yn addas ar gyfer y safle?
  • a fydd y digwyddiad yn ymyrryd â mwynhad ymwelwyr o'r safle?
  • a fydd y digwyddiad yn gwrthdaro ag archebion eraill?
  • a fydd yr amodau ar yr adeg o'r flwyddyn yn addas ar gyfer y digwyddiad?
  • a yw'r trefnydd wedi cysylltu â'r awdurdod lleol ynghylch unrhyw drwyddedau gofynnol?
  • os yw'r heneb yn safle rheoli ar y cyd, a yw'r trefnydd wedi cysylltu â'r tirfeddiannwr ynghylch caniatâd i ddefnyddio'r safle?
  • a yw'r trefniadau rheoli'n foddhaol?
  • a roddwyd digon o amser rhwng cyflwyno'r cais a'r digwyddiad i ddilyn y gweithdrefnau priodol?

Efallai y bydd angen i'r ymgeisydd ac aelod o Dîm Digwyddiadau Masnachol Cadw gyfarfod i drafod y digwyddiad, weithiau ar y safle neu ar-lein.

Y rheswm am hyn yw bod llawer o'n safleoedd yn Henebion Cofrestredig ac yn cael eu diogelu gan y gyfraith o dan y Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979. Cyn belled â bod y digwyddiad arfaethedig yn bodloni'r meini prawf uchod i raddau boddhaol, ni ddylai fod angen Caniatâd Heneb Gofrestredig, neu efallai y gellir ei olrhain yn gyflym.

Cytundeb

Bydd pob cais yn cael ei asesu gan ddilyn y meini prawf uchod. Yna, penderfynir a all y digwyddiad fynd yn ei flaen a/neu a fyddem am weld newidiadau i'r hyn a gynigir er mwyn gallu darparu cytundeb.

Heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod calendr cyn y digwyddiad, bydd angen i chi ddarparu:

Cynllun digwyddiad terfynol

Bydd hyn yn manylu ar yr hyn y bydd y digwyddiad yn ei olygu, y nifer arfaethedig o fynychwyr, y mesurau diogelwch arfaethedig, profiad blaenorol trefnwyr y digwyddiad wrth gynnal digwyddiadau tebyg ac unrhyw ganiatâd arall sydd ei angen. Dylai'r cynllun nodi'n glir yr hyn sydd i ddigwydd yn benodol ar y tir ym mherchnogaeth Cadw. Byddwn yn darparu canllawiau ar gwblhau'r cynllun digwyddiadau.

Asesiadau risg llawn a therfynol priodol

Mae asesiadau risg yn helpu i sicrhau diogelwch ymwelwyr â'r digwyddiad, ymwelwyr â'r safle a gwirfoddolwyr neu staff sy'n cynnal y digwyddiad, yn ogystal â chydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol.

Nid yw'n ofynnol iddo ddileu pob risg ond dylai'r trefnydd gymryd camau sy'n 'rhesymol ymarferol'. Rhaid cael tystiolaeth glir yn yr asesiad sy'n nodi systemau rheoli diogelwch da. Mae mwy o gyngor a thempledi safonol ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu'r Canllaw Porffor a byddwn yn rhoi arweiniad ar gwblhau asesiadau risg.

Os bernir bod yr asesiad risg yn foddhaol, rhoddir caniatâd i'r digwyddiad fynd yn ei flaen.

Prawf o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus priodol

Ar gyfer y mwyafrif helaeth o ddigwyddiadau sydd angen caniatâd, disgwylir y bydd gan y trefnydd PLI digonol am o leiaf £5 miliwn.

Rhaid i'r PLI ddarparu yswiriant ar gyfer anafiadau a ddioddefir gan aelodau o'r cyhoedd neu staff Cadw ac unrhyw ddifrod a wneir i'r eiddo sy'n codi oherwydd gweithgarwch digwyddiad neu ddiffyg diwydrwydd ar ran y trefnydd.

Mae'n bwysig cofio bod angen i'n gwasanaeth digwyddiadau llogi masnachol sicrhau nad yw digwyddiadau trydydd parti yn niweidio ein safleoedd hanesyddol mewn unrhyw ffordd (gweler Telerau ac Amodau ar y ffurflen gais) . Felly, nid yw rhai gweithgareddau a allai niweidio adeiladwaith ein safleoedd yn gymwys. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • tân gwyllt neu byrotechnegau
  • fflamau noeth (fel canhwyllau neu ffaglau)
  • Rhyddhau balŵns/llusernau

Weithiau, byddwn yn hwyluso gweithgareddau brenhinol, milwrol neu weinidogol ar safleoedd penodol. Fel corff cyhoeddus, ni allwn ddarparu ar gyfer ceisiadau am weithgareddau gwleidyddol fel ymgyrchu neu ganfasio.

Mae ein safleoedd Cadw yn henebion cofrestredig sy'n golygu y byddai angen caniatâd ychwanegol arnynt ar gyfer rhai gweithgareddau digwyddiadau.

Byddwn hefyd yn mynnu:

  • bod yr holl offer trydanol a ddygir ar y safle wedi'i gytuno ymlaen llaw a thystysgrif Prawf Offer Cludadwy (PAT) cyfredol, a gyhoeddir gan drydanwr cymwys.
  • bod gwaelodion rwber neu fatio priodol wedi’u gosod ar bob eitem galed i’w defnyddio ar loriau mewnol er mwyn atal difrod.
  • bod gan geblau pŵer orchudd cebl priodol drostynt a, lle mewn cysylltiad â ffabrig hanesyddol, oddi tano hefyd.
  • nid oes pegiau tenau yn cael eu taro i mewn i'r ddaear, ac ni chwblheir unrhyw dreiddio ar y ddaear heb ganiatâd priodol.

Er mwyn dechrau'r broses ymgeisio am ddigwyddiadau cymunedol, llenwch ein 

Ffurflen Gais ar gyfer Digwyddiadau Llogi Masnachol