Castell Talacharn llogi safle
Esiamplau o digwyddiadau ar y safle
- Ffeiriau bwyd
- Digwyddiadau cymunedol
- Digwyddiadau preifat
- Derbyniadau priodas
- Cynghereddau
- Arddangosiadau ffilm
Gwybodaeth meysydd parcio
Mae’r prif faes parcio di-dâl 300 metr islaw'r castell gyda 100 o fannau parcio i geir. Does dim mannau parcio wedi’u dynodi i bobl ag anabledd. Mae’r maes parcio hwn yn dioddef llifogydd yn ystod gorllanw uchel. Mae maes parcio preifat gyferbyn â mynedfa’r castell hefyd gyda nifer cyfyngedig o leoedd.
Mynediad i’r Safle
Does dim mynediad i gerbydau ar y safle
Mynediad i bobl sy’n chael yn anodd symud o gwmpas
Dylid gofalu wrth deithio o'r maes parcio gan fod y brif ffordd a'r palmant yn mynd yn gul ychydig yn is na mynedfa'r castell. Mae ychydig o lethr o'r maes parcio ac wrth fynedfa’r heneb. O'r Ganolfan Ymwelwyr, mae ramp bach yn arwain at lwybr gwastad a mynediad hawdd o amgylch y safle. Mae'r tŵr yn gyfyngedig i gerddwyr yn unig a mae yna cymysgedd o wynebau glasswellt a graean ar y safle.
Cyfleusterau
- Meinciau
- Dolen sain ar gael
- Mae toiledau cyhoeddus 90 metr y tu allan i'r castell
- Gweddol yw’r signal ffôn symudol
Trwydded ar y Safle?
Mae gan y castell drwydded safle. Mae gan y safle drwyddedau PRS a PPL hefyd
Mannau o dan do
Mae gasebo ar y safle sy’n mesur 8 x 8.
Trwydded ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Nac oes
Cynllun o’r safle
Oes
Power ar gael ar y safle
Oes – 2 x 32amp
Dwr ar gael ar y safle
Oes- dŵr o’r prif gyflenwad
Caniatad i osod pegiau yn y llawr
Oes – hyd at 110mm – 4 modfedd
Unrhyw fannau cyfnedig?
Oes – y tŵr yn y castell ac ardaloedd o fewn y safle yn ystod gwaith cadwraeth a gwaith cynnal a chadw.