Skip to main content

Cynllun Llawr — Castell Dinbych

Esiamplau o digwyddiadau ar y safle

  • Digwyddiadau cymunedol
  • Gwyliau
  • Digwyddiadau mewn pebyll mawr
  • Cynhyrchiadau cerddoriaeth a theatre awyr agored
  • Digwyddiadau Drysau Agored
  • Llwybr Calan Gaeaf

Gwybodaeth meysydd parcio

Ceir 15 o fannau parcio ar gael ar y safle, er bod modd trefnu rhagor, yn amodol ar eich gofynion a'r tywydd. Mae yna le parcio hefyd ar y ffordd ar gyfer tua 10 o geir yn gyfagos i fynedfa'r castell ac mae meysydd parcio cyhoeddus i geir/bysiau yng nghanol tref Dinbych sy'n cynnig cyfraddau arhosiad byr neu arhosiad hir.

Mynediad i’r Safle

Mae’n bosibl cael mynediad i gerbydau i'r safle ond cyfyngedig yw’r mynediad mewn bws oherwydd y ffyrdd cul. Does dim mynediad i gerbydau i ward fewnol y Castell. Mae modd gwthio ôl-gerbydau, trolïau ac ati i’r ward fewnol â llaw ond mae yna gyfyngiadau ar eu lled. Argymhellir trefnu arolwg o’r safle cyn y digwyddiad.

Mynediad i bobl sy’n chael yn anodd symud o gwmpas

Mae'r safle yn hygyrch i bob ymwelydd ond bydd angen i’r ymwelwyr fod yn ymwybodol o'r llwybr sy’n codi o'r maes parcio i'r ganolfan ymwelwyr. Mae tir y castell hefyd yn cynnwys rhai llwybrau glaswelltog ac anwastad. Mae yna fannau parcio dynodedig i bobl anabl, a gallwch archebu’r rhain ymlaen llaw cyn eich ymweliad.

Cyfleusterau

  • Mae tri bwrdd patio (addas i bob sy’n defnyddio cadeiriau olwynion) a deuddeg o gadeiriau patio ar gael
  • Mae toiledau ar gyfer dynion/menywod ar gael yn ogystal â chyfleusterau i’r rhai sy’n ei chael yn anodd symud o gwmpas
  • Mae cownteri isel, drysau cymorth, dolenni sain gosod a chyfleuster newid babanod ar gael hefyd
  • Mae cyflenwadau cegin cyfyngedig ar gael i logwyr, gan gynnwys popty microdon, tegell, oergell, a sinc gyda chyflenwad dŵr poeth ac oer

Trwydded ar y Safle?

Mae gan y safle drwyddedau PPL a PRS. Mae gan y castell drwydded safle hefyd (nid ar gyfer yfed).

Mannau o dan do

Canolfan Ymwelwyr sy’n mesur 12m (hyd) wrth 3m (lled) wrth 3.5m (uchder). Mae digon o le i 20 o bobl eistedd ac i 40 o bobl sefyll yn yr ystafell. Mae’r ddau ddrws i’r ystafell yn 1m o led ac yn cynnwys ramp isel.

Trwydded ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Nac oes

Cynllun  o’r safle

Oes

Power ar gael ar y safle

Oes – ar gael o’r ystafell offer o dan y Ganolfan Ymwelwyr gyda chyflenwad pŵer 32amp a 13amp

Dwr ar gael ar y safle

Oes- dŵr o’r prif gyflenwad

Caniatad i osod pegiau yn y llawr

Oes - hyd at 110mm – 4 modfedd o ddyfnder

Unrhyw fannau cyfnedig?

Mae mannau dan laswellt a than raean ar y safle sydd wedi’u cyfyngu a mae ardaloedd cyfyngedig ar y safle yn ystod gwaith cadwraeth neu gwaith cynnal a chadw.