Castell Conwy
Esiamplau o digwyddiadau ar y safle
- Hanes Byw
- Ail-greu digwyddiadau
- Adrodd stori
- Dramâu
- Son et Lumiere
Gwybodaeth meysydd parcio
Does dim lle parcio ar y safle ond mae maes parcio talu ac arddangos cyfnod byr ger y fynedfa. Mae maes parcio arhosiad hir 5 munud o daith gerdded ychydig y tu allan i furiau'r dref. Gall bysiau ollwng ymwelwyr ger y maes parcio arhosiad byr a pharcio yn y maes parcio arhosiad hir.
Mynediad i’r Safle
Does dim mynediad i gerbydau ar y safle
Mynediad i bobl sy’n chael yn anodd symud o gwmpas
Mae'r castell ar dir uchel gyda mynedfa o’r ganolfan ymwelwyr ar hyd pompren a ramp concrid serth a grisiau. O’r ganolfan ymwelwyr yn unig y gallwch gyrraedd mewn cadair olwynion oni bai mai dim ond yn rhannol y mae angen ichi ddefnyddio'r gadair olwynion, gan fod yna 15 o risiau i'r castell.
Cyfleusterau
- Byrbrydau ar gael i’w phrynu o'r siop anrhegion
- Ceir cyfleusterau toiled gwryw a benyw, gan gynnwys cyfleusterau i’r rhai sy’n ei chael yn anodd symud o gwmpas
- Mae dolenni sain cludadwy, cownteri isel a drysau cymorth ar gael hefyd
- Mae yna gyfleusterau newid babanod ar y safle
- Mae'r derbyniad i ffonau symudol ar draws y safle yn weddol
Trwydded ar y Safle?
Mae gan y castell drwydded safle (nid ar gyfer yfed). Mae gan y safle drwyddedau PRS a PPL hefyd.
Mannau o dan do
Y Capel yw’r fan fewnol sydd ar gael i’w defnyddio ac mae’n mesur 15x15m.
Trwydded ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Nac oes
Cynllun o’r safle
Oes
Power ar gael ar y safle
Oes – mae cyflenwad pŵer 13amp ar gael mewn mannau yn y castell
Dwr ar gael ar y safle
Nac oes
Caniatad i osod pegiau yn y llawr
Oes - hyd at chwech modfedd o ddyfnder
Unrhyw fannau cyfnedig?
Nac oes heblaw am yn ystod gwaith cadwraeth a gwaith cynnal a chadw