Plas Mawr llogi safle
Esiamplau o digwyddiadau ar y safle
- Ail-greadau
- Perfformiadau
- Digwyddiadau’r Cogydd Hanes
Gwybodaeth meysydd parcio
Does dim cyfleusterau parcio ar gael ar y safle ond y maes parcio agosaf yw Gerddi'r Ficerdy yn Rose Hill Street. Ceir nifer cyfyngedig o leoedd barcio ar y Stryd Fawr am gyfnod cyfyngedig. Does dim mannau parcio pwrpasol i bobl anabl.
Mynediad i’r Safle
Does dim mynediad i’r safle i gerbydau. Bydd rhaid defnyddio’r maes parcio uchod.
Mynediad i bobl sy’n chael yn anodd symud o gwmpas
Safle canol tref. Mae llawer o risiau i’w dringo ym mhob rhan o'r tŷ. Mynediad i gadeiriau olwynion i lawr gwaelod y prif dŷ yn unig ac y gellir ei chyrchu drwy'r fynedfa ochr gyda'r ceidwad safle .
Cyfleusterau
- Toiled unrhyw gyda mynediad i gadeiriau olwynion
- Taith sain ar gael gyda dolen sain
- Byrbrydau ar gael o'r siop anrhegion
- Mae hefyd nifer o feinciau ar y safle
- Mae'r signal ffôn symudol yn weddol
Trwydded ar y Safle?
Mae gan y castell drwydded safle (nid ar gyfer yfed). Mae gan y safle drwyddedau PRS a PPL hefyd
Mannau o dan do
Mae’r oriel yn 28 troedfedd o hyd a 17 troedfedd o led. Mae cilfach ar un ochr sy’n 5 troedfedd o hyd ac ychydig dros 3 troedfedd o led. Mae'r Oriel wedi'i lleoli ym mhen uchaf y Porthdy felly mae yna drawstiau to sy'n gostwng yr uchder ar y naill ochr a’r llall i'r ystafell. Mae yno doiled gwryw/benyw, pwyntiau pŵer a goleuadau o lampau sy’n wynebu i fyny. Mae gwyntyllau yn y llawr ar ddwy ochr yr ystafell sy'n darparu gwres/awyr oer.
Gellir llogi’r ystafell ar gyfer cyfanswm o 40 o bobl am y prisiau canlynol:
- diwrnod llawn: £72
- hanner diwrnod: £42
- noson: £48
Trwydded ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Oes – mae priodasau sifil yn cael eu cynnal yn y Siambr Fawr i hyd at 40 o bobl.
Cynllun o’r safle
Oes
Power ar gael ar y safle
Oes – pŵer 13 amp ar gael mewn amryw o fannau yn y tŷ
Dwr ar gael ar y safle
Oes - dŵr o’r prif gyflenwad
Caniatad i osod pegiau yn y llawr
Ni chaniateir pegiau yn y tir.
Unrhyw fannau cyfnedig?
Oes – mae ambell un o’r ystafelloedd ar gau i’r cyhoedd a rhai ardaloedd o'r safle yn ystod gwaith cadwraeth a gwaith cynnal a chadw.