Skip to main content

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r egwyddorion a’r cymwyseddau y dylai syrfewyr
a chontractwyr eu mabwysiadu i sicrhau arferion gorau wrth ymchwilio i broblemau sy’n gysylltiedig â lleithder mewn adeiladau traddodiadol. Aiff ymlaen i restru eitemau penodol y dylai syrfewyr a chontractwyr fod yn wybodus amdanynt a’u hystyried ym mhob cam o’r broses ymchwilio diagnostig a thrwsio.

Bwriad y ddogfen yw bod yn fframwaith y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ymchwiliadau lleithder mewn adeiladau o bob math ac oedran. Mae’n bwysig nodi bod y term ‘traddodiadol’ yn cyfeirio at adeiladau â waliau solet wedi’u hadeiladu o ddeunyddiau athraidd megis brics, carreg, pridd, pren a morter, plastr a rendrad calch. Mae adeiladwaith traddodiadol yn amsugno lleithder ond yn caniatáu iddo anweddu pan fydd yr amodau’n troi’n sychach. Mae hyn yn wahanol i adeiladwaith modern, sy’n dibynnu ar rwystrau anathraidd i atal lleithder rhag mynd i mewn i’r ffabrig.

Mae’r y ddogfen hon ar gyfer y rhai sy’n rhoi cyngor ymgynghorol neu’n cynnal arolygon i berchnogion a phrynwyr adeilad, ac mae’n tybio y bydd archwiliad nad yw’n ymyrrol yn cael ei gynnal yn y lle cyntaf, gydag archwiliad ymyrrol yn dilyn os ystyrir bod ei angen.

Mae’r ddogfen hon wedi’i hysgrifennu a’i chynhyrchu gan dimau o’r sefydliadau canlynol: Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS), Historic England a Property Care Association (PCA).
Mae’r ddogfen wedi’i mabwysiadu gan y sefydliadau canlynol hefyd: Cadw, Historic Environment Scotland, Is-adran Amgylchedd Hanesyddol – Gogledd Iwerddon, Sefydliad Adeiladau Hanesyddol (IHBC) a Chymdeithas Diogelu Adeiladau Hynafol (SPAB).