Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae llawer o resymau da dros ymgymryd â gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar adeiladau.

Gall eich helpu i:

  • gwella effeithlonrwydd ynni eich adeilad, gan leihau eich costau a’ch cyfraniad at newid hinsawdd
  • gwella gallu eich adeilad i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd, gan gynnwys stormydd a gwyntoedd eithafol 
  • gadw gwerth uchaf eich adeilad, yn arbennig pan fo nodweddion pensaernïol gwreiddiol wedi'u cadw
  • arbed arian drwy atgyweirio nodweddion, megis ffenestri, yn hytrach na phrynu rhai newydd
  •  atal problemau mwy difrifol, megis pydredd sych, ac osgoi cost ac anghyfleustra gwaith atgyweirio mawr
  • cynnal ymddangosiad eich adeilad a chyfrannu at ymdeimlad o falchder yn eich cymuned
  • hyrwyddo cynaliadwyedd drwy ddiogelu eich adeilad er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei ddefnyddio a'i fwynhau
  • cynllunio a chyllidebu ar gyfer gwaith cynnal a chadw drutach, megis ailaddurno allanol.

Beth yw Cynnal a Chadw?

Yn y bôn, mae cynnal a chadw yn golygu cynnal archwiliadau rheolaidd i sicrhau cyflwr eich adeilad a'i amgylchoedd, a gwneud gwaith atgyweirio amserol os caiff namau eu canfod. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i gynnal archwiliadau neu wneud gwaith atgyweirio syml. Os bydd problemau mwy difrifol yn codi neu os bydd adeilad yn fawr neu'n arbennig o gymhleth, efallai yr hoffech ymgynghori â syrfëwr neu bensaer cymwys. Ni fydd angen cymeradwyaeth ar gyfer gwaith cynnal a chadw syml fel arfer os yw eich adeilad yn rhestredig, ond os bydd angen gwneud gwaith atgyweirio mwy sylweddol, dylech gadarnhau hynny'n gyntaf â swyddog cadwraeth eich awdurdod lleol.

Mae'n debyg mai gwaith cynnal a chadw rheolaidd yw'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i ddiogelu eich adeilad hanesyddol. Drwy nodi problemau bach yn gynnar, gallwch atal difrod difrifol a'r angen am waith atgyweirio drud yn nes ymlaen.

Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd 

Cynnal a chadw rheolaidd yw’r cam cyntaf tuag at effeithlonrwydd ynni a gwrthsefyll newid hinsawdd. Yr adeilad mwyaf cynaliadwy yw’r un sydd eisoes yn bodoli, a bydd ei gadw mewn cyflwr da yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’r diben, gan leihau’r angen cyffredinol am ddeunyddiau adeiladu newydd. Bydd adeilad sych, sydd wedi’i gynnal a’i gadw’n dda, yn defnyddio llai o ynni i’w wresogi, ac mae sicrhau bod nodweddion awyru gwreiddiol mewn cyflwr da yn cyfrannu at lif aer iach, gan gadw’r adeilad yn oerach mewn tywydd poeth ac yn helpu i leihau effeithiau hinsawdd gynhesach a gwlypach. 

Deunyddiau a Gwaith Atgyweirio

Fel rheol, dylai unrhyw waith atgyweirio i'ch adeilad hanesyddol gael ei wneud gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau sy'n cyfateb i'r rhai a ddefnyddiwyd yn wreiddiol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod perfformiad ac ymddangosiad hen waith a gwaith newydd yn cyd-fynd â'i gilydd. Yn aml, gall defnyddio deunyddiau modern amhriodol achosi mwy o broblemau difrifol na'r problemau y bwriedir iddynt eu datrys. Er enghraifft, gall ail-bwyntio carreg feddal neu fricwaith gyda morter sment caled drapio lleithder a chyflymu'r broses bydru. Er bod angen i forteri a rendradau calch gael eu hatgyweirio neu eu hailosod yn gyfnodol, bydd morter calch meddal traddodiadol yn helpu adeilad i oddef rhywfaint o leithder a symudiad. Cyn i chi wneud unrhyw waith atgyweirio, sicrhewch eich bod wedi nodi unrhyw achosion sylfaenol a'ch bod wedi mynd i'r afael â hwy. Er enghraifft, mae trin achos o bydredd sych heb fynd i'r afael â threiddiad y lleithder yn ddibwrpas.

Materion Diogelwch i'w Hystyried

Mae angen i chi fod yn ymwybodol o faterion iechyd a diogelwch. Os byddwch yn gofyn i rywun arall wneud y gwaith, dylech ymgyfarwyddo â'r rheoliadau perthnasol. Byddwch yn ymwybodol o beryglon posibl, megis arwynebau llithrig, toeon bregus neu loriau atig heb estyll arnynt.

Wrth Ddefnyddio Ysgol:

  •  dylech sicrhau ei bod yn ddigon hir at y diben a'i bod wedi'i diogelu'n briodol ar y pen a'r gwaelod
  • dylech osgoi rhoi'r ysgol ar arwyneb meddal neu anwastad neu ei gosod ar gwteri
  • sicrhewch fod unigolyn ar y gwaelod i sefydlogi'r ysgol
  • cadwch o leiaf un llaw ar yr ysgol am gefnogaeth
  • peidiwch â gorestyn neu bwyso i ffwrdd o'r ysgol
  • peidiwch â'i defnyddio yn ystod tywydd gwlyb neu wyntog.

Cyfarpar ar Gyfer Archwiliadau Cynnal a Chadw

Mae'n debygol y bydd angen y canlynol arnoch o leiaf:

  • copi o'ch cynllun cynnal a chadw
  • tortsh
  • cyllell boced
  • ysbienddrych
  • camera 
  • llyfr nodiadau
  • ysgrifbin
  • pâr o fenig cryf
  • trywel i lanhau cwter

Efallai y bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • ysgol
  • sbectol diogelwch, os byddwch yn clirio sbwriel yn uwch nag uchder pen,
  •  a mwgwd wyneb, os byddwch yn clirio baw colomennod.