Skip to main content

Peidiwch ag anwybyddu eich to nes ei fod yn gollwng. Mae cadw eich to yn gadarn a sicrhau ei fod yn gallu dal dŵr yn hanfodol i gadw eich adeilad mewn cyflwr da. Gall gwneud mân atgyweiriadau pan fo angen arbed miloedd i chi yn ddiweddarach. Archwiliwch eich to yn rheolaidd y tu mewn a'r tu allan, ond yn enwedig cyn ac ar ôl y gaeaf ac ar ôl gwyntoedd mawr a allai fod wedi symud llechi neu deils. Byddwch yn gyfeillgar gyda'ch cymdogion, gan mai'r lle gorau i weld eich to yw drwy ffenestr ar lawr cyntaf adeilad cyfagos yn aml iawn. Os byddwch yn dod o hyd i broblem, peidiwch â'i hatgyweirio eich hun oni bai bod yr offer cywir gennych a'ch bod yn gwybod sut i'w defnyddio'n ddiogel. Cyflogwch gontractwr yn hytrach na mentro'ch bywyd mewn damwain ddifrifol.

Dim ond yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daeth llechi'n gyffredin ar doeon Cymru. Cyn i lechi toeon gael eu swmpgynhyrchu a'u dosbarthu yn eang, roedd cryn amrywiaeth rhanbarthol, ac mae elfennau o'r amrywiaeth hwn yn goroesi o hyd: mae toeon â theils cerrig yn dal yn weddol gyffredin mewn rhannau o Sir Fynwy a Bannau Brycheiniog yn ogystal ag ar dai hŷn yng Nghymoedd De Cymru, er enghraifft, tra bod toeon gwellt i'w gweld o hyd mewn rhannau o orllewin Cymru a Morgannwg. Roedd toeon gwellt yn draddodiad lleol iawn, ac roedd gan ardaloedd gwahanol eu technegau eu hunain ar gyfer gosod y toeon gwellt a'u gorffennu. Gwellt hir a chyrs gwenith cribedig oedd y deunyddiau traddodiadol, ac roedd y tan-doi yn amrywio o fatiau gwellt ym Morgannwg, i raffau gwellt yng ngogledd Sir Benfro a Cheredigion, a grug, eithin neu frigau wedi'u plethu mewn mannau eraill.

Er bod llechi yn gyffredin mewn llawer o rannau o Gymru, nid yw toeon llechi yn unffurf o gwbl. Roedd chwareli gwahanol yn cynhyrchu llechi o liwiau ac ansawdd hollol wahanol ac, hefyd, dim ond o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daeth llechi wedi'u torri'n unffurf â pheiriant yn gyffredin. Defnyddiwyd llechi o faint amrywiol wedi'u torri â llaw ar doeon llechi cynnar ac fe'u gosodwyd mewn haenau gyda'r llechi mwyaf eu maint a mwyaf trwchus tuag at waelod y to. Roedd dulliau gosod hefyd yn amrywio, ac mewn toeon cynharach, câi llechi eu hongian ar estyll pren gan ddefnyddio pegiau pren mewn un twll ar ben y llechen. Câi dau dwll eu hoelio yn y canol ar doeon diweddarach.

Mae toeon o lechi bach wedi'u gosod mewn morter calch yn nodweddiadol o'r arfordir gorllewinol. Weithiau câi'r toeon hyn eu growtio â morter calch (a sment yn hwyrach) fel dull atgyweirio. Mewn rhai ardaloedd, mewn gwrthgyferbyniad, gwelir toeon o lechi mawr iawn. Roedd amrywiadau lleol yn adlewyrchu'r hyn y gallai adeiladwr ei fforddio, ac maent yn parhau i ychwanegu ymdeimlad o le o hyd.

Gwelir gwahaniaethau pwysig eraill ym manylion y gorffeniad. Amrywiai'r ffordd y triniwyd y cafnau yn y to, a'r ffordd y triniwyd y grib hefyd. Defnyddiwyd teils crib pleth yn aml ar doeon teils cerrig, a defnyddiwyd y dechneg â llechi weithiau. Defnyddiwyd cribau wedi'u plastro â morter hefyd, ond, o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, masgynhyrchwyd teils crib clai wedi'u tanio ac roeddent ar gael yn eang. Cynhyrchwyd teils clai plaen ar gyfer corff y to hefyd, ond ni ddefnyddiwyd y rhain yn eang yng Nghymru tan yr ugeinfed ganrif.

Cynnyrch arall o'r chwyldro diwydiannol oedd haearn gwrymiog. Dechreuwyd ei ddefnyddio yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ymddangosodd mewn adeiladau domestig yn bennaf yn lle toeon gwellt a oedd yn dirywio. Prin iawn y defnyddiwyd haearn gwrymiog fel y deunydd to (a waliau) gwreiddiol. Efallai y gellir ei ystyried fel deunydd adeiladu traddodiadol, ac mae ei ddosbarthiad hyd yn oed wedi'i gyfyngu i rai rhanbarthau i ryw raddau.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Pantiau ac arwyddion eraill o symud yn strwythur sylfaenol y to.

Camau i'w cymryd:

Nid yw tonnau hirsefydlog mewn to o reidrwydd yn broblem, ond dylai unrhyw donnau newydd neu unrhyw rai sy'n datblygu gael eu harchwilio gan beiriannydd strwythurol.

Mae pantiau yng ngoleddf y to yn awgrymu bod problemau, o bosibl, gyda'r strwythur sylfaenol, er enghraifft bod trawstiau rhy fach wedi'u defnyddio. Fodd bynnag, gellir priodoli hyn, o bosibl, i broses symud naturiol a ddigwyddodd wrth i drawstiau'r to sychu ar ôl codi'r adeilad. Mae pantiau yn ychwanegu cymeriad i adeilad, felly dylech osgoi pacio'r trawstiau i sicrhau arwyneb gwastad at ddibenion ail-doi – oni bai bod problem strwythurol y mae angen rhoi sylw iddi neu fod y tonnau mor sylweddol fel eu bod yn ei gwneud yn bosibl i ddŵr fynd drwy'r to.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Llechi wedi’u hoelio wedi llithro, torri neu ddadlaminadu

Camau i'w cymryd:

Llechi wedi'u hoelio — symudwch lechi sydd wedi llithro, llechi sydd ar goll neu lechi sydd wedi'u difrodi a rhowch ‘tingles’ — stribedi un fodfedd (25mm) o gopr, plwm neu ddur galfanedig — neu glipiau priodol yn eu lle dros dro.

Gellir symud llechen a ddifrodwyd gan ddefnyddio offeryn a elwir yn ‘rhwygwr llechi’ i dorri'r hoelion. Er mwyn defnyddio 'tingle' i roi llechen newydd yn lle un sydd wedi llithro neu un a ddifrodwyd, hoeliwch ben y 'tingle' wrth yr estyllen lechi rhwng llechi'r haen oddi tani. Dylech lithro'r llechen newydd i'w lle a phlygu ymyl waelod y 'tingle' yn dynn dros ymyl isaf y llechen i'w dal yn ei lle. Gellir defnyddio clipiau priodol ar do estyll fel dull amgen disylw. Maent yn debyg i 'tingles', ond maent yn cael eu gosod drwy dyllau'r hoelion yn y llechen.

Un o achosion cyffredin llechi sy'n llithro yw bod yr hoelion a ddefnyddir i'w gosod yn rhydu. Gelwir hyn yn ‘salwch hoelion’. Os oes llawer o lechi ar goll, ystyriwch ail-doi gan ddefnyddio hoelion toi copr neu ddur di-staen o hyd addas.

-------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Llechi wedi’u pegio neu deils carreg wedi llithro, torri neu ddadlaminadu.

Camau i'w cymryd:

Llechi neu deils cerrig wedi'u pegio — Adnewyddwch lechi neu deils sydd wedi llithro, llechi neu deils sydd ar goll neu lechi neu deils a ddifrodwyd ar ôl nodi'r rheswm pam mae hynny wedi digwydd.

Mae diffygion mewn mannau penodol i'w briodoli fel arfer i'r ffaith bod y pegiau a ddefnyddiwyd i osod y llechi neu'r teils wedi dirywio, neu fod yr estyll eu hunain wedi pydru. Os bydd y pegiau wedi treulio, dylid rhoi darn o bren derw hollt sydd wedi'i naddu i'r maint cywir yn eu lle.

Er mwyn rhoi llechen neu deilsen newydd yn lle un sydd ar goll pan fo'r estyllen mewn cyflwr da, gallwch ddefnyddio peg derw newydd os oes angen. Codwch neu gwthiwch y llechi neu'r teils o'i hamgylch i'r ochr a llithrwch yr un rhydd, neu lechen neu deilsen newydd debyg, yn ôl i'w lle. Sicrhewch fod y peg wedi'i fachu dros yr estyllen.

Os oes llawer o lechi neu deils ar goll, yn arbennig am fod yr estyllen wedi pydru, ystyriwch ail-doi.

Gellir torri teils cerrig a ddifrodwyd yn rhai llai o faint a'u hailnaddu i'w defnyddio rywle ar y to. Os oes angen gosod teils newydd, mae'n bwysig cofio y gellir gwneud teils cerrig o unrhyw garreg holltadwy addas, gan gynnwys tywodfaen neu galchfaen. Mae'n hanfodol bod y teils newydd yn cydweddu'n dda â'r rhai presennol. Ceir rhagor o gyngor ar ffynonellau addas gan y Gymdeithas Toeon Cerrig (www.stoneroof.org.uk).

-------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Teils clai sydd wedi llitho, yn eisiau, neu yn ddifrodedig.

Camau i'w cymryd:

Adnewyddwch deils sydd wedi llithro, teils sydd ar goll neu deils a ddifrodwyd gan ddefnyddio dulliau gosod priodol.

Gall teils clai fod yn blaen neu'n amlinellog. Mae teils clai i'w cael ledled Cymru ac yn aml fe'u gwelir ar doeon eglwysi sy'n dyddio o oes Fictoria. Mae teils amlinellog yn rhai cyffredin ac maent yn dueddol o fod yn fwy nodweddiadol o dde-ddwyrain Cymru.

Gosodir teils clai cyffredin yn eu lle gan ddefnyddio naill ai pegiau derw, wedi'u bachu dros estyll teils, neu hoelion. Mae gan deils â nib dalpiau bach o glai wrth yr ymyl uchaf, y gellir eu bachu dros estyll fel pegiau. Mae ganddynt dyllau hefyd fel y gellir eu hoelio wrth yr estyll mewn lleoliadau agored.

Er mwyn rhoi teilsen newydd yn lle teilsen wedi'i phegio neu deilsen â nib sydd ar goll, codwch neu gwthiwch y teils o'i hamgylch yn ofalus i'r ochr a llithrwch yr un rhydd, neu'r deilsen newydd debyg, yn ôl i'w lle. Sicrhewch fod pegiau neu nibiau'r holl deils a symudwyd wedi'u bachu'n sownd dros yr estyll. Os oes angen pegiau newydd, dylid rhoi darn o bren derw hollt sydd wedi'i naddu i'r maint cywir yn eu lle.

Adnewyddwch deils wedi'u hoelio yn yr un ffordd â llechi wedi'u hoelio, gan ddefnyddio clipiau neu 'tingles'.

Peidiwch â rhoi teils a wnaed gan beiriant yn lle teils a wnaed â llaw am nad ydynt yn debygol o gydweddu â'i gilydd. Os oes llawer o deils ar goll, ystyriwch ail-doi.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Toeon llechi growtiedig – gwaith growtio â chraciau ynddo, sy'n rhydd neu sydd ar goll

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch gyflwr y gwaith growtio yn fewnol ac yn allanol ar gyfer craciau.

Defnyddiwyd gwaith growtio yn hanesyddol i atgyweirio toeon a oedd yn diffygio. Rhoddwyd haen o forter calch ar y tu allan i do llechi wedi'u hoelio neu wedi'u pegio i atal y llechi rhag codi ac atal glaw ac eira a chwythwyd gan y gwynt rhag mynd i mewn. Yng Nghymru, mae wedi'i gyfyngu i'r arfordir gorllewinol yn bennaf ac mae'n nodwedd amlwg mewn rhannau o Sir Benfro. Heddiw, defnyddir haen slyri o sment yn aml, ond gall gracio, gan ei gwneud yn bosibl i leithder fynd drwyddo.

Os yw'r to mewn cyflwr da ym mhob ffordd arall, gellir atgyweirio gwaith growtio â chraciau ynddo neu waith growtio sy'n dirywio drwy ailgotio'r to â chymysgedd gwlyb o sment neu forter calch.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Gwellt – deunydd rhydd neu arwyddion o ddirywio, yn enwedig o amgylch y crib

Camau i'w cymryd:

Dylech geisio cyngor gan döwr profiadol sy'n gyfarwydd â thraddodiadau lleol.

Gwellt hir a chyrs gwenith cribedig yw'r deunyddiau toi traddodiadol yn y rhan fwyaf o Gymru. Yn achos y naill a'r llall gellir atgyweirio darnau ohonynt sydd wedi dirywio gan ddefnyddio clytiau neu gellir rhoi haen allanol o wellt newydd ar y to. Ni ddylid byth dynnu'r deunyddiau toi hyn a rhoi cyrs dŵr yn eu lle, am ei bod yn bosibl bod yr haenau isaf yn dyddio mor bell yn ôl â'r cyfnod canoloesol. Efallai y bydd angen rhwydi o wifrau galfanedig i amddiffyn y gwellt rhag y gwynt, adar a chnofilod. Sicrhewch nad yw'r bachau mor sownd fel y byddant yn atal y gwellt rhag cael ei dynnu oddi ar y to yn gyflym os bydd tân.

Mae'n bwysig bod traddodiadau toi, cynlluniau a deunyddiau toi rhanbarthol yn cael eu cadw. Er enghraifft, mae angen adnewyddu cribau yn eithaf rheolaidd. Dim ond ers y 1960au y mae'r crib bloc â phatrymau cain, sy'n arferol bellach, wedi bod yn gyffredin yng Nghymru. Yn draddodiadol, roedd cribau yn fwy plaen ac roeddent yn wastad â goleddf y to.

Dim ond töwr profiadol a ddylai ymgymryd â gwaith atgyweirio. Dylech geisio dod o hyd i rywun â gwybodaeth weithredol dda o'r deunyddiau a'r traddodiadau sy'n perthyn i'ch ardal leol.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Haearn gwrymiog – dalennau rhydd, dalennau sy'n rhydu neu ddalennau â thyllau ynddynt

Camau i'w cymryd:

Dylech ailosod dalennau rhydd, cael gwared â ffynonellau lleithder a all achosi rhwd ac adnewyddu haenau amddiffynnol os oes angen.

Mae haearn gwrymiog yn ddeunydd traddodiadol ac amlddefnydd sydd wedi bod yn cael ei gynhyrchu ers bron i 200 o flynyddoedd. Ni roddir y pwys priodol arno yn aml am ei fod yn gyffredin ac yn cael ei ddefnyddio ar adeiladau brodorol yn bennaf - sef y rhai a adeiladwyd yn yr arddull leol draddodiadol – neu adeiladau amaethyddol. Fe'i defnyddir i orchuddio toeon a waliau. At hynny fe'i defnyddir weithiau yn lle toeon gwellt cynharach neu i orchuddio toeon gwellt — mae nifer o enghreifftiau i'w gweld o hyd yng Ngheredigion.

Mae gorffeniad galfanedig haearn gwrymiog yn dueddol o ddirywio drwy ddod i gysylltiad â lleithder, gan adael arwyneb rhydlyd. Peidiwch â gadael i lystyfiant a sbwriel gronni am eu bod yn dal lleithder yn erbyn y dalennau. Archwiliwch fannau lle mae haearn gwrymiog yn cyfarfod â deunyddiau eraill yn rheolaidd am ei bod yn anodd sicrhau eu bod yn gwbl ddwrglos. Gall dŵr glaw ffo o ddalennau gwrymiog rhydlyd staenio deunyddiau eraill. Gall cyddwysiad hefyd achosi i arwyneb isaf dalennau rydu felly sicrhewch fod awyriad digonol.

Yn draddodiadol, fel arfer roedd gan haearn gwrymiog haen allanol o baent plwm coch, bitwmen neu dar i'w amddiffyn rhag rhwd, a oedd yn gyfrifol am y lliwiau coch neu ddu sydd mor nodweddiadol o doeon haearn gwrymiog. Mae'r deunyddiau hyn ar gael i'w defnyddio o hyd, a dylid eu hadnewyddu os bydd haen sy'n bodoli eisoes wedi hindreulio neu gracio.

Os oes angen adnewyddu dalennau, dylai'r rhai newydd fod o'r un maint a phroffil â'r rhai gwreiddiol. Dylid eu hoelio yn eu lle gan ddefnyddio hoelion a wasieri galfanedig pwrpasol i sicrhau eu bod yn gwbl ddwrglos.

-------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Awyryddion to wedi'u blocio neu ddŵr yn gollwng o amgylch ffenestri to a llusernau

Camau i'w cymryd:

Cliriwch ddail a sbwriel o awyryddion ac o amgylch ffenestri to a llusernau.

Dylid cadw awyryddion to yn glir bob amser; os oes angen dylech osod rhwydi y tu mewn i awyryddion i atal adar rhag mynd i mewn. Os gellir eu cyrraedd yn ddiogel, cliriwch unrhyw ddail a sbwriel sydd wedi cronni, a sicrhewch fod y caeadau plwm o amgylch nodweddion mewn cyflwr da. Archwiliwch unrhyw ddarnau pren ar gyfer arwyddion o ddirywio a rhowch rai tebyg yn eu lle os oes angen.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Llechi neu deils crib a slip — sy'n rhydd, wedi'u difrodi neu ar goll

Camau i'w cymryd:

Adnewyddwch lechi neu deils gan ddefnyddio morter calch hydrolig.

Yn aml mae gan doeon ar oleddf adeiladau hanesyddol lechi, cerrig neu deils clai onglog i ffurfio'r capan amddiffynnol ar y crib (sef pwynt uchaf y to) ac ymylon main (yr uniadau rhwng dau arwyneb ar oleddf). Mae ganddynt uniadau bôn fel arfer, ac maent wedi'u gosod a'u pwyntio gan ddefnyddio morter calch hydrolig. Anaml y mae teils talcen a slip modern o glai coch llachar a wnaed gan beiriant yn addas ar adeiladau hanesyddol. Mae'n well defnyddio teils llai llachar o glai coch neu laslwyd. Weithiau mae gan doeon â theils plaen deils slip ar ffurf bonet. Mae'r teils hyn yn gorgyffwrdd y teil oddi tanynt ychydig ac mae'r bwlch rhyngddynt wedi'i bwyntio â morter calch.

Cynhyrchodd pobl oes Fictoria lawer o batrymau addurnol iawn o deils crib, yn enwedig teils o glai. Er bod colli patrymau addurnol ar deils crib yn annhebygol o effeithio ar berfformiad y crib, gall fod yn ddymunol adnewyddu teils a ddifrodwyd am resymau esthetig, cyhyd ag y gellir dod o hyd i deils sy'n cyfateb iddynt. Os na ellir dod o hyd i deils newydd addas i lenwi bylchau ar y prif grib neu mewn lleoliadau amlwg eraill, gall fod yn dderbyniol symud teils o rannau llai amlwg o'r to. Er i bobl oes Fictoria gyflwyno teilsen grib orgyffyrddol a oedd wedi'i phlastro â morter, nid yw'r teils crib a slip pleth sych (heb eu plastro â morter) a gynhyrchir yn awr yn addas i'w defnyddio ar adeiladau hanesyddol.

---------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Cribau ac ymylon main plwm — ymylon sydd wedi codi, tyllau, rhwygiadau ac arwyddion o bantio neu gyrydu.

Camau i'w cymryd:

Defnyddiwch ysbienddrych i archwilio plwm yn drylwyr ar gyfer ymylon sydd wedi codi, rhwygiadau, tyllau a chyrydu.

Weithiau mae cribau ac ymylon main wedi'u ffurfio gan ddefnyddio rholiau plwm wedi'u lapio o amgylch craidd pren.

Os yw ymylon rhydd rholiau slip a chrib plwm yn codi, ond bod y plwm fel arall mewn cyflwr da, gellir eu pwyso yn ôl yn eu lle. Os oes angen, defnyddiwch glipiau copr tun neu ddur di-staen ternblat i 'w gosod yn sownd. Mae'r rhain yn cynnwys stribedi metel, sy'n cael eu llithro o dan y ddalen blwm a'u cysylltu â'r estyllen oddi tanynt gan ddefnyddio hoelion copr neu ddur di-staen. Mae ymyl isaf y clip yn cael ei phlygu dros ymyl y ddalen blwm gan ganiatáu o leiaf fodfedd (25mm) o orgyffwrdd. Dylai fod bwlch o 12 i 20 modfedd (300-500mm) rhwng clipiau, gan ddibynnu ar ba mor agored yw'r to.

Plymwr neu döwr plwm a ddylai atgyweirio plwm wedi'i ddifrodi neu roi plwm newydd yn ei le. Nid yw tâp a mastig atgyweirio yn ddeunyddiau sy'n para a dim ond ar gyfer gwaith atgyweirio brys dros dro y maent yn addas.

Dylid paentio gwaith plwm newydd ag olew patiniad yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr. Mae hyn yn atal carbonad plwm gwyn rhag ffurfio, a all edrych yn hyll a staenio'r deunyddiau o dan y gwaith plwm. Ni fydd angen ailadrodd y driniaeth hon.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Ffiledau morter ar ymylon main — sy'n rhydd neu sydd wedi colli morter

Camau i'w cymryd:

Defnyddiwch ysbienddrych i archwilio ffiledau morter ar ymylon main toeon â llechi wedi'u pegio a theils cerrig ac atgyweiriwch hwy os oes angen.

Mae'n bosibl bod yr ymylon main ar doeon â llechi wedi'u pegio a theils cerrig wedi'u ffurfio gan ddefnyddio ffiledau morter calch neu sment. Dylid archwilio eu cyflwr yn rheolaidd am fod ffiledau yn dueddol iawn o gael eu difrodi, sy'n ei gwneud yn bosibl i ddŵr dreiddio i drawstiau'r to oddi tanynt. Gall cyflwyno dalennau plwm ('soakers') – dalennau plwm a osodir o dan y teils wrth uniad – ddarparu mesur amddiffyn ychwanegol rhag y tywydd.

Gellir adnewyddu ffiledau morter sydd ar goll neu ffiledau morter diffygiol gan ddefnyddio morter calch hydrolig.

-------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Topwaith neu grogaddurnau pren — a ddifrodwyd, sydd wedi dirywio neu sydd ar goll

Camau i'w cymryd:

Defnyddiwch ysbienddrych i'w harchwilio ac ailbaentiwch neu atgyweiriwch hwy os oes angen.

Yn aml mae gan gribau adeiladau sy'n dyddio o oes Fictoria, yn arbennig, dopwaith sy'n bargodi uwchben y talcenni neu lle mae'r crib yn cyfarfod â'r ymyl fain. Weithiau maent wedi'u gwneud o glai, yn arbennig ar doeon slip, ond ar doeon talcennog yn amlach na pheidio maent wedi'u gwneud o bren wedi'i sgwario neu wedi'i droi. Weithiau mae topwaith pren ar dalcenni yn ymestyn i lawr a gelwir y rhan isaf yn ‘grogaddurn.’

Mae topwaith a chrogaddurnau pren yn agored i'r tywydd ac yn dueddol o bydru. Ar y cyd â gwaith coed allanol arall, dylid eu paentio o leiaf bob tair i bedair blynedd.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Cafnau plwm — dail neu sbwriel sydd wedi cronni; plwm sydd wedi llithro, a ddifrodwyd neu sydd wedi cyrydu

Camau i'w cymryd:

Dylech glirio dail neu sbwriel gan ddefnyddio offer pren neu blastig i atal y plwm rhag cael ei ddifrodi. Trefnwch i'r plwm a ddifrodwyd gael ei atgyweirio neu ei adnewyddu.

Dylai gwaith atgyweirio ar gafnau plwm gael ei wneud gan blymwr neu döwr plwm. Nid yw tâp a mastig atgyweirio yn ddeunyddiau sy'n para a dim ond ar gyfer gwaith atgyweirio brys dros dro y maent yn addas.

Dylid paentio gwaith plwm newydd ag olew patiniad yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr. Mae hyn yn atal carbonad plwm gwyn rhag ffurfio, a all edrych yn hyll a staenio'r deunyddiau o dan y gwaith plwm. Ni fydd angen ailadrodd y driniaeth hon.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Mannau lle mae toeon a waliau yn cyfarfod — ffiledau morter a ddifrodwyd neu sydd ar goll

Camau i'w cymryd:

Adnewyddwch ffiledau morter a ddifrodwyd neu sydd ar goll gan ddefnyddio morter calch hydrolig.

Gall dŵr fynd i mewn i adeiladau yn y man lle mae to a waliau sy'n codi, a elwir yn ‘gyfosodiad’. Mae caeadau plwm yn nodweddion hindreulio llawer mwy effeithiol na ffiledau calch neu sment, a all gracio a dirywio. Fodd bynnag, dim ond yn y ddeunawfed ganrif y cyflwynwyd caeadau plwm. Ar adeiladau hŷn, lle y gall fod angen cadw ffiledau morter am resymau esthetig, ac ar doeon teils cerrig, bydd dalennau plwm wedi'u gosod o dan gladin y to yn darparu mesur amddiffyn ychwanegol disylw.

-----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Mannau lle mae toeon a waliau yn cyfarfod — caeadau plwm sy'n rhydd neu a ddifrodwyd

Camau i'w cymryd:

Ailosodwch gaeadau plwm rhydd a phwyntiwch hwy â morter calch hydrolig.

Gellir atgyweirio caeadau plwm sydd wedi dod yn rhydd lle maent wedi'u gosod yn y wal gan ddefnyddio dalen o blwm sy'n fodfedd (20-25mm) o led. Dylid plygu'r dalennau hyn drosodd sawl gwaith i greu lletem sy'n addas i drwch uniad y gwaith cerrig.

Dylid plygu'r caead plwm yn dynn i mewn i'r uniad i ddyfnder o fodfedd (25mm) a churo'r lletem i mewn i'w ddal yn ei le gan ddefnyddio morthwyl a chŷn plygio. Ni ddylai fod bwlch o fwy na 18 modfedd (450mm) rhwng y lletemau. Ar gaeadau plwm grisiog, mae un lletem wedi'i gosod yn y canol ar bob gris yn ddigon fel arfer. Dylid pwyntio'r uniad yn y gwaith cerrig neu frics wedyn â morter calch.

Os oes angen gwaith plwm newydd, dylid ei baentio ag olew patiniad yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr. Mae hyn yn atal carbonad plwm gwyn rhag ffurfio, a all edrych yn hyll a staenio'r deunyddiau o dan y gwaith plwm. Ni fydd angen ailadrodd y driniaeth hon.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Bargodion — gwaith pwyntio neu lechi sy'n rhydd neu sydd ar goll

Camau i'w cymryd:

Adnewyddwch waith pwyntio sy'n rhydd neu ar goll gan ddefnyddio morter calch hydrolig ac atgynhyrchwch y patrymau gwreiddiol wrth ailosod llechi.

Gelwir ymyl to ar oleddf lle mae'n ymestyn allan dros wal dalcen yn ‘fargod.’ Ceir nifer o wahanol orffeniadau hanesyddol ar gyfer bargodion.

Yr un symlaf yw pan fydd ymyl y llechen neu'r deilsen yn bargodi dros ben y wal. Mae'r bwlch rhwng cladin y to a'r wal wedi'i bwyntio dros is-haen o lechi neu deils. Adnewyddwch waith pwyntio ar fargodion sy'n rhydd neu ar goll gan ddefnyddio cymysgedd morter calch hydrolig.

Mae bargodion llechi yn ddull mwy cadarn o ddiogelu'r adeilad rhag tywydd garw, a gwelir y dechneg fel arfer ar adeiladau brodorol. Yma mae'r nodweddion yn debyg, ond bod darnau bach ychwanegol o lechi wedi'u hoelio'n fertigol i'r trawstiau ym mhen y wal. Weithio mae'r llechi wedi'u gosod yn bargodi ychydig dros flaenau'r tulathau – sef y trawstiau llorweddol sy'n rhedeg ar hyd y to – i amddiffyn graen pen y pren. Adnewyddwch ddarnau o lechi sy'n rhydd neu ar goll gan ddefnyddio hoelion copr neu ddur di-staen. Sicrhewch fod y nodweddion addurnol gwreiddiol yn cael eu hatgynhyrchu.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Bargodion — ymylon bondo hindreuliedig, sydd wedi pydru neu a ddifrodwyd

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch y bargodion ar gyfer arwyddion o bydru. Torrwch bren pwdr neu bren a ddifrodwyd allan a rhowch ddarnau newydd o bren yn ei le. Ailaddurnwch os oes angen.

Defnyddiwyd ymylon bondo pren fel arfer i orffen bargodion ar adeiladau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif a gallant fod yn nodweddion addurnol iawn. Fodd bynnag, ni ddylid eu defnyddio yn lle dulliau mwy traddodiadol, eraill o drin bargodion am y gall eu hychwanegu at adeilad newid ei olwg yn sylweddol.

Dylid archwilio ymylon bondo yn rheolaidd ar gyfer arwyddion o bydru. Dylid torri pren pwdr allan a rhoi darnau o bren meddal wedi'i drin yn ei le. Sicrhewch fod y mesuriadau a'r mowldinau yn union yr un peth. Dylid ailaddurno unrhyw waith coed wedi'i baentio bob tair i bedair blynedd.

--------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Bondo agored - giardiau fermin sydd ar goll neu a ddifrodwyd

Camau i'w cymryd:

Adnewyddwch giardiau fermin sydd ar goll neu a ddifrodwyd.

Mae'r bondo yn rhedeg ar hyd gwaelod to ar oleddf. Mae'n bosibl bod y tu isaf wedi’i adael yn agored heb orchuddio'r trawstiau. Mewn achosion o'r fath, gall adar fynd i mewn i'r gofod to yn hawdd a dylid gosod giardiau fermin i'w hatal rhag gwneud hynny.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Soffitiau ac estyll ffasia — sydd ar goll neu a ddifrodwyd

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch y bargodion ar gyfer arwyddion o bydru. Torrwch bren pwdr neu bren a ddifrodwyd allan a rhowch ddarnau newydd o bren yn ei le. Ailaddurnwch yr ymylon bondo os oes angen.

Gall y bondo fod yn ‘gaeedig,’ hynny yw ei fod wedi'i fewnlenwi ag estyll pren neu blethwaith a phlastr, i ffurfio ‘soffit’. Defnyddir estyll ffasia wedi'u gosod yn fertigol ym mhennau'r trawstiau fel mesur ychwanegol i amddiffyn y bondo caeedig. Peidiwch â gosod estyll ffasia na soffitiau caeedig lle buont yn agored cyn hynny am y bydd hynny yn newid golwg adeilad yn sylweddol.

Adnewyddwch unrhyw bren pwdr a sicrhewch fod estyll ffasia a soffitiau estyllog yn cael eu haddurno bob tair i bedair blynedd.

Os oes angen awyriad ychwanegol mewn gofod to, o ganlyniad i'w inswleiddio efallai, dylech osgoi awyryddion soffit a defnyddio dull llai amlwg. Lle y ceir estyll ffasia, yn aml mae'n bosibl gosod systemau awyru pwrpasol ('over fascia ventilators') na ellir eu gweld o'r ddaear. 

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Toeon gwastad a gwteri blwch — dail a sbwriel yn cronni; dŵr glaw yn cronni

Camau i'w cymryd:

Cliriwch ddail a sbwriel yn rheolaidd, gan ofalu peidio â difrodi arwyneb y to.

Cliriwch ddail a sbwriel arall o doeon a gwteri, yn arbennig yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Cliriwch eira trwchus hefyd. Defnyddiwch offer pren neu blastig i osgoi difrodi'r to.

Gall ystyllod wella mynediad, ond gallant hefyd ddal dail a sbwriel.

Os bydd dŵr glaw yn parhau i gronni ar ôl clirio dail a sbwriel, efallai nad yw goleddf y gwter neu'r to yn ddigon serth neu efallai ei fod yn anwastad a bod hyn yn atal dŵr rhag draenio i ffwrdd yn effeithiol. Dylech ymgynghori â phensaer neu syrfëwr.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Toeon plwm — dŵr yn gollwng, rhwygiadau ac arwyddion eraill o ddirywio

Camau i'w cymryd:

Trefnwch i blwm a ddifrodwyd gael ei atgyweirio neu ei adnewyddu.

Yn naturiol mae dalen blwm yn symud cryn dipyn o ganlyniad i brosesau ehangu a chywasgu thermol. Ar adeiladau hanesyddol ceir yn aml fod darnau rhy fawr o blwm wedi'u defnyddio. Mae'r rhain yn dueddol o hollti am na allant addasu i'r symud hwn.

Nid yw tâp a mastig atgyweirio yn ddeunyddiau sy'n para a dim ond ar gyfer gwaith atgyweirio brys dros dro y maent yn addas. Fodd bynnag, gellir atgyweirio rhwygiadau bach a thyllau pinnau gan ddefnyddio plwm. Bydd angen adnewyddu gwaith plwm sydd wedi'i ddifrodi'n fwy difrifol neu doeon plwm a gwteri sy'n draenio'n wael yn unol â'r canllawiau manwl a ddarperir gan y Gymdeithas Dalennau Plwm yn ei chyhoeddiad, Rolled Lead Sheet: The Complete Manual. Dylai unrhyw waith atgyweirio gael ei wneud gan blymwr neu döwr plwm profiadol. Mae angen bod yn arbennig o ofalus wrth wneud gwaith weldio am y gallai achosi tân.

Dylid paentio unrhyw waith plwm newydd ag olew patiniad yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr. Mae hyn yn atal carbonad plwm gwyn rhag ffurfio, a all edrych yn hyll a staenio'r deunyddiau o dan y gwaith plwm. Ni fydd angen ailadrodd y driniaeth hon.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Toeon bitwmen — dŵr yn gollwng, rhwygiadau ac arwyddion eraill o ddirywio

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch y to ar gyfer arwyddion o rwygo, craciau, pothelli neu graciau mân ac atgyweiriwch ddiffygion bach gan ddefnyddio clytiau.

Mae muriau canllaw, gwteri, 'upstands', ffitiadau ac agoriadau yn agored iawn i gael eu difrodi, felly archwiliwch hwy yn ofalus i weld a ydynt yn gollwng dŵr. Gall nifer o ffactorau achosi i doeon bitwmen ddirywio, gan gynnwys symud a achosir gan effeithiau thermol, y ffaith nad yw'r bitwmen yn glynu wrth y deunydd oddi tano, dirywiad yr is-strwythur ategol neu waith gwael pan adeiladwyd y to bitwmen. Gellir atgyweirio darnau bach drwy glytio, ond mae'n debyg y bydd angen ail-doi'r strwythur os oes problemau mwy difrifol.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

'Torching' — â chraciau ynddo, sy'n rhydd neu ar goll

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch y tu mewn i'r to ac atgyweiriwch neu adnewyddwch 'torching' diffygiol gan ddefnyddio morter calch hydrolig sy'n cynnwys blew.

Yn aml ar adeiladau hŷn ceir bod morter calch wedi'i roi rhwng yr estyll ar du isaf toeon llechi neu deils. Gelwir y dechneg yn 'torching'. Diben 'torching' yw atal y cladin rhag codi ac atal glaw ac eira a chwythir gan y gwynt rhag mynd i mewn i'r adeilad. Gall dŵr sy'n treiddio a symud achosi i 'torching' gracio neu gwympo oddi ar y to, felly archwiliwch gyflwr y morter, yn enwedig ar ôl gwyntoedd mawr.

Dylid adnewyddu unrhyw 'torching' diffygiol gan ddefnyddio morter calch sy'n cynnwys blew, y gellir ei brynu wedi'i gymysgu'n barod. Gellir defnyddio'r dechneg 'torching' mewn ffyrdd ychydig yn wahanol, felly sicrhewch fod y dechneg wreiddiol yn cael ei hatgynhyrchu i sicrhau'r un olwg orffenedig.

Dylech osgoi unrhyw gynhyrchion rydych yn eu chwistrellu sy'n honni eu bod yn inswleiddio'r to ac yn atal dŵr rhag mynd i mewn. Gallant selio gwagleoedd yn y to, gan atal aer rhag cylchredeg a'i gwneud yn anodd wedyn i nodi ble mae'r to yn gollwng dŵr. At hynny mae'n anodd iawn eu symud, felly, pan fydd angen ail-doi'r adeilad, bydd bron yn amhosibl ailddefnyddio'r llechi neu'r teils. Mae'r un peth yn wir am haenau allanol o fitwmen.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Ffelt toi — Isffelt sydd wedi torri neu sy'n rhydd

Camau i'w cymryd:

Sicrhewch fod digon o'r isffelt yn ymestyn i mewn i gwteri ac archwiliwch ef ar gyfer tyllau.

Mae ffelt toi yn ddeunydd cymharol fodern y bwriedir iddo ei gwneud yn bosibl i unrhyw ddŵr sy'n mynd drwy'r cladin allanol ddraenio'n ddiogel i'r system gwaredu dŵr glaw.

Gellir ei ddifrodi'n ddamweiniol, ond efallai y bydd modd clytio tyllau bach.

Os oes angen adnewyddu'r ffelt, dylech ddefnyddio deunydd sy'n gallu anadlu a fydd yn helpu i sicrhau bod digon o aer yn cylchredeg yn y gofod to. Dylech geisio cyngor gan bensaer neu syrfëwr cadwraeth sy'n gyfarwydd ag adeiladau hanesyddol.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Trawstiau toi — staenau lleithder ar drawstiau a nenfydau; arwyddion o feddalwch neu bydredd, tyfiant ffyngaidd, arogl llwydni neu orffeniad paent ystumiedig

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch drawstiau yn ofalus, yn enwedig lle maent yn cyffwrdd â gwaith cerrig, a cheisiwch gyngor gan syrfëwr pren os gwelwch unrhyw arwyddion o bydredd neu dyfiant ffyngaidd.

Teimlwch drawstiau i sicrhau eu bod yn sych, yn enwedig lle maent yn cyffwrdd â waliau allanol neu lle maent wedi'u hadeiladu i mewn iddynt. Gwthiwch flaen cyllell boced neu offeryn tebyg i mewn i'r pren i sicrhau bod y trawst yn gadarn.

Fel arfer mae trawstiau sydd wedi'u duo gan fwg yn awgrymu bod yr adeilad yn dŷ neuadd canoloesol yn wreiddiol lle roedd y neuadd yn agored i drawstiau'r to. Dihangai mwg o'r aelwyd agored ganolog lle y gallai drwy orchudd y to. Nid yw'r staen du hwn yn amharu ar y trawst. Mae'n dystiolaeth bwysig o hanes adeilad ac ni ddylid byth gael gwared ag ef. Yn yr un modd, mae'r defnydd a wneir o ddriliau microgalibr i brofi cyfanrwydd strwythurol trawstiau yn golygu mai anaml y gellir cyfiawnhau ‘dadffrasio’ - sef cael gwared â'r deunydd powdrog ar yr arwyneb. Gall 'dadffrasio' achosi niwed difrifol i bren wedi'i fowldio a dylid ei osgoi.

Edrychwch am arwyddion o dyfiant ffyngaidd, megis edefynnau neu fyseliwm sy'n debyg i wlân cotwm a chyrff hadol. Nid yw llwydni yn gwneud fawr ddim difrod i bren, ac eithrio i arwynebau, ond mae ei bresenoldeb yn awgrymu bod lefelau lleithder yn uchel ac y dylid darparu awyriad ychwanegol. Fodd bynnag, ceir nifer o rywogaethau o ffyngau a all achosi pydredd difrifol. Yr hyn sy'n peri dryswch yw eu bod yn cael eu dosbarthu'n aml fel ‘gwlyb-bydredd’ neu ‘sych-bydredd’, er bod y ddau yn gofyn am gynnwys lleithder eithaf uchel i ymsefydlu. Mae sych-bydredd, yn arbennig, yn ffynnu mewn amgylchiadau cynnes a llonydd lle y ceir awyriad gwael.

Gall fod yn anodd adnabod y gwahanol fathau o ffyngau a gall fod yn anodd asesu eu galluoedd dinistriol. Felly mae'n bwysig sicrhau bod gwahanol fathau o bydredd yn cael eu nodi'n gywir i osgoi dinistrio adeiladwaith hanesyddol.

Fel arfer mae gwlyb-bydredd yn llai dinistriol na sych-bydredd. Gellir torri allan ddarnau bach o bren y gellir eu cyrraedd a sbleisio pren newydd wedi'i drin i mewn i'r trawstiau.

Yn ogystal ag achosion o ffyngau yn ymosod ar bren, mae'n rhaid mynd i'r afael â ffynonellau'r lleithder sy'n creu'r amgylchiadau amgylcheddol cywir sy'n ei gwneud yn bosibl i ffyngau dyfu'n gyflym. Fel arfer mae newid yr amgylchiadau amgylcheddol yn ddigon i ladd gwlyb-bydredd, er y gall y broses sychu gymryd misoedd neu flynyddoedd hyd yn oed. Mae'n anos dileu sych-bydredd ac er na all oroesi mewn amgylchiadau sych, mae'r broses o'i drin yn aml yn cynnwys cael gwared ag unrhyw ddeunydd heintiedig a defnyddio cemegion.

Os gwelir arwyddion o bydredd neu dyfiant ffyngaidd, dylech geisio cyngor gan syrfëwr pren arbenigol, yn hytrach na chwmni trin pren. Fel hyn gallwch sicrhau bod y cyngor a roddir i chi yn gyngor annibynnol a diduedd.

-----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Trawstiau toi — pla chwilod gweithredol (tyllau hedfan newydd a llwch pren mân, a elwir yn ‘ffras,’ ar arwynebau cyfagos).

Camau i'w cymryd:

Dylech archwilio trawstiau yn ofalus a cheisio cyngor gan syrfëwr pren os gwelir unrhyw arwyddion o bla chwilod.

Mae ffwng yn dadelfennu cemegion mewn pren a gall hyn ddenu nifer fawr o chwilod. Felly dylid ystyried y posibilrwydd bod y ddwy broblem i'w cael.

Mae sawl math o drychfilod coed-dyllol y gellir eu cael mewn adeiladau. Y rhai mwyaf cyffredin yw'r chwilen gelfi gyffredin, neu bryf pren, a'r chwilen angau. Mae'r larfau yn achosi'r difrod drwy durio drwy'r pren a dim ond pan fyddant yn eu llawn dwf y maent yn dod i'r arwyneb.

Weithiau ceir chwilod celfi a chwilod angau llawndwf, yn enwedig pan fo pla yn un difrifol. Gall chwilod angau hefyd greu sŵn nodweddiadol drwy dapio eu pennau ar bren wrth garu. Fodd bynnag, fel arfer gweld tyllau hedfan newydd a llwch tyllu sy'n peri i bobl sylweddoli bod pla o chwilod yn y to. Fel arfer mae chwilod celfi yn ymosod ar haen allanol, neu wynnin, rhywogaethau coed meddal megis llarwydd.

Mae chwilod llawndwf yn ymddangos rhwng diwedd mis Mai a mis Awst drwy dyllau hedfan crwn rhwng 1/16 ac 1/8 modfedd (1-2mm) ar eu traws.Mae chwilod angau yn ymosod ar rywogaethau pren caled, gan gynnwys coed derw, castanwydd a choed llwyfen. Mae chwilod llawndwf yn ymddangos rhwng canol mis Ebrill a chanol mis Mehefin ac mae eu tyllau hedfan tua 3/16 modfedd (3mm) ar eu traws.

Er mwyn cwblhau eu cylch oes yn llwyddiannus mae angen pren sy'n cynnwys lefel gymharol uchel o leithder ar chwilod celfi a chwilod angau. Er mwyn helpu i atal plâu, mae'n hanfodol y cedwir gofodau to yn sych a'u bod wedi'u hawyru'n dda.

Os gwelir arwyddion o bla o chwilod, dylech geisio cyngor gan syrfëwr pren arbenigol, yn hytrach na chwmni trin pren. Fel hyn gallwch sicrhau bod y cyngor a roddir i chi yn gyngor annibynnol a diduedd. Ni fydd y cyngor hwn o reidrwydd yn ddrud, ond gallai arbed cryn dipyn o arian ac aflonyddwch i chi. Er enghraifft, mae talu am driniaeth bren gyfanwerth yn ddi-fudd os cafodd y difrod a welwyd ei achosi gan bla o chwilod a fu farw yn naturiol flynyddoedd lawer yn ôl. Oni bai bod y pla yn un bach, bydd angen i'r pren gael ei drin gan gontractwr arbenigol.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Trawstiau toi — trawstiau sydd wedi symud neu hollti ac uniadau sydd wedi agor ers yr archwiliad diwethaf

Camau i'w cymryd:

Os gwelir arwyddion bod trawstiau wedi symud, dylech ymgynghori â phensaer, syrfëwr neu beiriannydd strwythurol â phrofiad o adeiladau hanesyddol.

Gall y newidiadau hyn fod yn arwydd o symud strwythurol. Dylech ymgynghori â phensaer, syrfëwr neu beiriannydd strwythurol â phrofiad o adeiladau hanesyddol. Byddwch yn ymwybodol o newidiadau a wnaed yn y gorffennol a allai wanhau'r to. Er enghraifft, mae'n bosibl bod y gwaith o osod ffenestri dormer wedi cynnwys tynnu allan rannau o'r trawslathau. Neu mae'n bosibl i'r ceibrennau sy'n helpu i atal cyplau rhag symud tuag allan gael eu tynnu allan neu eu haddasu i greu digon o le i'r pen i bobl allu symud rhwng y baeau.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Gofodau to — Sbwriel sydd wedi cronni a nythod adar, baw llygod neu lygod mawr, ceblau trydan sydd wedi'u cnoi neu arwyddion eraill o blâu

Camau i'w cymryd:

Dylech flocio mannau mynediad a ddefnyddir gan adar a fermin a chael gwared ar sbwriel.

Sicrhewch fod rhwyllau wedi'u gosod yn ddiogel dros lwfrau ac agoriadau eraill i atal adar rhag mynd i mewn. Dylech flocio mannau mynediad a ddefnyddir gan fermin a thrin plâu. Trefnwch i drydanwr cymwys ailosod ceblau sydd wedi'u cnoi ar unwaith. Dylech gael gwared ar sbwriel, ond osgowch aflonyddu ar adar sy'n nythu. Ceisiwch gyngor cyn gwneud unrhyw waith, megis defnyddio cemegion, pan fo rhywogaeth a warchodir, gan gynnwys ystlumod a thylluanod, yn bresennol.

-------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Gofodau to — baw a staeniau wrin ystlumod sy'n awgrymu bod ystlumod yn clwydo yn y to

Camau i'w cymryd:

Os ydych yn amau bod eich adeilad yn cael ei ddefnyddio gan ystlumod i glwydo, dylech geisio cyngor cyn gwneud unrhyw waith a allai darfu ar yr ystlumod.

Defnyddir llawer o hen adeiladau gan ystlumod i glwydo. Maent yn arbennig o hoff o glwydo mewn talcenni, uwchben soffitiau, ar ben waliau ceudod gerllaw simneiau neu y tu ôl i ymylon bondo ac estyll ffasia. Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn rhoi diogelwch llawn i ystlumod. O dan y Ddeddf mae'n anghyfreithlon lladd, anafu neu drafod unrhyw ystlum yn fwriadol neu ddifrodi, dinistrio neu gau mynedfa i unrhyw fan a ddefnyddir gan ystlum fel lloches neu amddiffynfa. Mae'r Ddeddf yn caniatáu i waith adeiladu ac atgyweirio gael ei wneud gyda gofal. Fodd bynnag, mae rhai cemegion wedi'u gwahardd am eu bod yn niweidiol i ystlumod.

Os gallwch gyrraedd y gofod to, edrychwch am faw ystlumod, yn enwedig wrth y talcen ac ar hyd y bondo. Maent yn tueddu i gronni o dan safleoedd clwydo neu fynedfeydd. Mae baw ystlumod yn frown tywyll neu'n ddu ac maent rhwng 1/8 a 5/16 modfedd (4-8mm) o hyd gan ddibynnu ar y rhywogaeth. Fodd bynnag, gellir eu cymysgu â baw llygod, felly os ydych yn amau bod ystlumod yn clwydo yn y to edrychwch y tu allan am faw ar siliau ffenestri neu waliau. Edrychwch yn arbennig o dan big y talcen lle y gall ystlumod fod yn mynd i mewn i'r gofod to. Gwelir ystlumod amlaf yn hedfan pan fo'n nosi ar ddiwrnodau cynnes rhwng mis Mehefin a mis Medi pan ellir eu gweld yn dod allan o'r adeilad.

Os ydych yn amau bod eich adeilad yn cael ei ddefnyddio gan ystlumod dylech geisio cyngor cyn defnyddio unrhyw driniaeth bren, lladdwyr pryfed neu gemegion eraill. Dylech amddiffyn tecstilau ac arwynebau pren caboledig a all gael eu difrodi gan wrin ystlumod.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Gofodau to - deunydd inswleiddio a osodwyd yn anghywir neu ddeunydd inswleiddio annigonol

Camau i'w cymryd:

Edrychwch am arwyddion o gyddwysiad neu awyriad annigonol.

Ar ddechrau pob gaeaf sicrhewch fod deunydd inswleiddio llofftydd wedi'i osod yn gywir i orchuddio pennau waliau. Yn ystod cyfnodau o dywydd oer edrychwch am arwyddion o gyddwysiad yn y gofod to, megis llwydni yn tyfu ar ffelt toi. Edrychwch i weld a yw unrhyw ddyfeisiau awyru wedi'u blocio. Sicrhewch fod unrhyw fylchau o amgylch pibellau a cheblau sy'n mynd i mewn i'r gofod to oddi isod wedi'u selio, yn enwedig dros geginau ac ystafelloedd ymolchi lle mae'r rhan fwyaf o anwedd dŵr yn cael ei greu.

Er ein bod yn cael ein hannog i osod mesurau arbed ynni, mewn adeiladau hanesyddol mae'n arbennig o bwysig sicrhau'r cydbwysedd iawn rhwng gwresogi, inswleiddio ac awyru. Mae adeiladau a adeiladwyd gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau traddodiadol yn tueddu i fod yn fwy llaith. Mae perfformiad y deunyddiau yn dibynnu'n fawr ar eu gallu i anadlu. Er enghraifft, bydd wal gerrig solet a adeiladwyd gan ddefnyddio morter calch yn amsugno curlaw ac yn ei ryddhau'n araf yn ôl i'r atmosffer drwy'r broses anweddu. Bydd trwch y wal yn helpu i atal lefelau lleithder mewnol rhag codi'n ormodol. Yn yr un modd, bydd y deunydd a ddefnyddiwyd i adeiladu'r wal yn amsugno lleithder a grëir o'r tu mewn i'r adeilad drwy orffeniadau mandyllog, megis gwyngalch neu ddistemper. Mae'r lefel uchel o awyriad a geir fel arfer mewn adeiladau hŷn a'r defnydd a wneir o danau agored yn helpu i reoli lefelau lleithder a hwyluso'r broses anweddu.

Ar y llaw arall, mae technegau adeiladu modern yn dibynnu ar ddefnyddio atalfeydd anwedd a sylweddau selio gyda rhywfaint o awyriad yn cael ei ddarparu gan ffaniau echdynnu neu awyrellau diferu. Gall y defnydd o'r cyfryw dechnegau mewn adeiladau hŷn ddal lleithder a bydd hyn yn cael effeithiau trychinebus. Oni ddarperir awyriad digonol, gall mesurau i leihau'r gwres a gollir greu problemau yn gysylltiedig â chyddwysiad, llwydni a thyfiant ffyngaidd, a all greu problemau iechyd. Mae cyddwysiad yn aml yn cael ei gamgymryd am leithder codi neu leithder treiddiol.

Defnyddir sawl math o ddeunydd i inswleiddio llofftydd, yn amrywio o wlân dafad i wydr ffeibr. Maent ar gael mewn rholiau neu fatiau ac maent yn hawdd eu gosod yn y gofod to dros ddistiau nenfwd y llawr uchaf. Dylid gosod cwiltiau o dan geblau trydan i osgoi unrhyw bosibilrwydd y bydd gwres yn cronni. Peidiwch â rhoi deunydd inswleiddio o dan danciau dŵr am fod angen yr ychydig o wres sy'n codi oddi isod arnynt i'w hatal rhag rhewi, ond mae'n rhaid inswleiddio'r ochrau a'r rhan uchaf hefyd.

Caiff ‘pont thermol’ – llwybr gwrthsafiad lleiaf y trosglwyddir gwres ar ei hyd – ei chreu os na osodir y deunydd inswleiddio dros bennau'r waliau. Wrth i ddŵr gyddwyso ar yr arwyneb oeraf, bydd creu pont thermol yn crynhoi'r lleithder yn y fan hon. Os na ellir nodi manylion y gwaith inswleiddio yn fanwl gywir ac os na ellir sicrhau awyriad ychwanegol i wneud iawn amdano, yn enwedig lle mae ffelt toi wedi'i ddefnyddio, efallai y byddai'n well peidio ag inswleiddio'r gofod to o gwbl.

Am fod deunydd inswleiddio yn tueddu i leihau'r tymheredd yn y gofod to, mae mwy o risg y ceir cyddwysiad. Felly dylid rheoli lleithder o'r tu mewn i'r adeilad a selio unrhyw fannau lle gall fynd i mewn i'r gofod to, megis tyllau o amgylch pibellau a cheblau.

Os ydych yn ystyried gosod deunydd inswleiddio sy'n dilyn llinell y ceibrennau, megis mewn atig sy'n cynnwys ystafelloedd y gellir byw ynddynt, mae'r broses o osod y deunydd inswleiddio yn un gymhleth. Bydd yn gofyn am lwybr awyru o dan gladin y to, y deunydd inswleiddio ei hun, haen rheoli anwedd barhaus a leinin mewnol. Mae'n rhaid i'r manylion fod yn gywir a dylid ceisio cyngor arbenigol i sicrhau bod y cynllun yn briodol i'ch adeilad.

Dylech osgoi unrhyw gynhyrchion inswleiddio rydych yn eu chwistrellu. Maent yn lleihau awyriad a gallant ddal lleithder yn y ceibrennau a'r estyll. Gallant hefyd atal llechi rhag cael eu hailddefnyddio pan fydd angen adnewyddu cladin y to.