Skip to main content

Mae simneiau a photiau simnai yn rhoi cymeriad i adeiladau hanesyddol ac maent yn nodweddion hanfodol ar nenlinellau trefi a phentrefi Cymru. Ond, yn rhy aml o lawer, maent yn cael eu hesgeuluso ac mewn cyflwr gwael. P'un a chânt eu defnyddio ai peidio, talwch sylw gofalus i gyflwr eich simneiau, gan y gallant ddioddef o ystod o broblemau a achosir gan hindreuliad, gwresogi ac oeri a hyd yn oed adweithiau cemegol gyda nwyon poeth. Un o'r ffyrdd mwyaf cyffredin i ddŵr fynd i mewn i'ch cartref drwy gaeadau plwm gwael neu wedi dirywio o amgylch simneiau. Gan fod simneiau fel arfer ar lefel uchel, ystyriwch gyflogi contractwr os oes angen gwneud unrhyw waith.

 

 

Câi tai neuadd canoloesol eu cynhesu gan dân canolog ar aelwyd agored. Codai'r mwg o'r tân hyd at y nenfwd gan orchuddio trawstiau'r to â huddygl cyn dianc drwy'r crib. Mewn tai â statws uchel, dechreuodd lleoedd tân caeëdig a simneiau ddisodli aelwydydd agored o tua chanol y bymthegfed ganrif. Fe'u defnyddiwyd yn eang erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Amrywiai adeiladwaith y lle tân yn unol â thraddodiadau adeiladu rhanbarthau gwahanol. Cerrig oedd y deunydd mwyaf cyffredin, ond mewn rhannau o orllewin Cymru yn enwedig, gwnaed cyflau a chyrn simnai weithiau o fangorwaith wedi'i blastro â chlai. Mewn ardaloedd lle'r oedd fframiau pren yn gyffredin, gellir dod o hyd i leoedd tân wedi'u gwneud yn rhannol o bren.

Daeth simneiau yn symbolau statws amlwg iawn yn gyflym. Ysgogodd hyn berchenogion tai mwy cefnog i fynd ati i ddatblygu cynlluniau mwy cywrain fyth yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Er enghraifft, mewn ardaloedd iseldirol ar hyd y ffin â Lloegr lle y câi brics eu defnyddio fel deunydd adeiladu, ceir clystyrau o gyrn simnai ar ffurf seren wedi'u gwneud o frics wedi'u mowldio, gyda phob un yn gwasanaethu lle tân ar wahân. Yn y gorllewin, roedd siafftiau unigol tal yn fwy cyffredin. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn bythynnod llai o faint, arweiniodd arwyddocâd y simnai fel symbol statws at adeiladu simneiau ffug lle nad oedd lle tân weithiau.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif cafwyd cyrn simnai o gynllun symlach, a dechreuwyd defnyddio potiau simnai terracotta ar raddfa eang. Câi'r potiau simnai symlaf eu ffurfio â llaw neu ar droell y crochenydd. Fodd bynnag, datblygodd pobl oes Fictoria lawer o gynlluniau addurnol iawn gan ddefnyddio mowldiau a'i gwnaeth yn bosibl i swmpgynhyrchu potiau simnai yn gyflym iawn.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

 Potiau simnai â chraciau ynddynt neu botiau simnai wedi'u difrodi

Camau i'w cymryd:

Defnyddiwch ysbienddrych i archwilio'r potiau ar gyfer difrod. Atgyweiriwch botiau â chraciau ynddynt, symudwch botiau sydd wedi torri a rhowch union gopïau ohonynt yn eu lle.

Ni ddylid byth symud potiau simnai yn barhaol o adeiladau sy'n dyddio o'r ddeunawfed ganrif neu gyfnod diweddarach, lle roeddent yn nodwedd wreiddiol – hyd yn oed os nad yw'r corn simnai yn cael ei ddefnyddio.

Fodd bynnag, efallai y bydd angen symud pot dros dro er mwyn ei atgyweirio. Gellir atgyweirio craciau gan ddefnyddio gludiau epocsi-resin, ac atgyfnerthu'r pot ymhellach drwy ei rwymo â gwifrau dur di-staen main. Gall ailosod potiau hindreuliedig i droi'r ochr sydd wedi'i difrodi i'w chysgodi rhag effeithiau gwaethaf y tywydd ymestyn eu bywyd.

Gellir ychwanegu terfyniadau neu fewnosodiadau disylw i helpu i atal dŵr glaw rhag mynd i mewn i'r corn simnai. Gellir gosod giardiau adar hefyd.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Capanau simnai â chraciau ynddynt neu gapanau simnai wedi'u difrodi

Camau i'w cymryd:

Defnyddiwch ysbienddrych i archwilio capanau simnai; os oes angen, atgyweiriwch hwy neu adnewyddwch hwy gan ddefnyddio morter calch..

Delir y pot simnai yn ei le ar ben y corn simnai gan gapan sment neu galch. Yn aml mae'n anodd asesu cyflwr capan y simnai o lefel y ddaear, felly ceisiwch edrych arno o adeilad arall neu dir uwch. Os gallwch gyrraedd y to yn ddiogel, archwiliwch y capan yn ofalus ar gyfer craciau neu arwyddion eraill o ddirywiad.

Defnyddiwch forter calch i atgyweirio neu adnewyddu capan y simnai, gan sicrhau bod arwyneb y capan ar oleddf fel y bydd dŵr yn llifo i ffwrdd. Os oes angen symud hen gapanau simnai, gofalwch nad ydych yn difrodi'r potiau simnai.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Llystyfiant yn tyfu ar y corn simnai

Camau i'w cymryd:

Dylech gael gwared â llystyfiant cyn gynted â phosibl.

Gall llystyfiant, yn enwedig llwyni, coed ifanc neu iorwg sydd wedi'u hau eu hunain, achosi difrod difrifol os gadewir iddynt dyfu yn ddirwystr. Dylid trin tyfiant ymledol na ellir cael gwared ag ef â llaw heb ddifrodi'r uniadau morter â chwynladdwr systemig a'i adael i farw a chwympo.

Mae twf llystyfiant yn aml yn arwydd bod angen ailbwyntio i lenwi craciau a thyllau lle y gall hadau fynd yn sownd.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Corn simnai ar ogwydd neu gorn simnai wedi hollti

Camau i'w cymryd:

Defnyddiwch ysbienddrych i archwilio'r simnai ar gyfer craciau neu arwyddion eraill o ddirywiad. Os bu newidiadau ers yr archwiliadau diwethaf, ystyriwch sefydlogi neu adeiladu'r corn simnai.

Gall y pwysau eithafol sy'n effeithio ar simneiau, y tu mewn a'r tu allan iddynt, achosi iddynt hollti neu ogwyddo. Mae simneiau yn gogwyddo fel arfer pan fydd morter ar yr ochr sy'n agored i'r tywydd yn erydu gan achosi i'r gwaith brics neu'r gwaith cerrig sadio, tra bydd y broses o grisialu halwynau ar yr ochr arall, sy'n sychu'n arafach, yn achosi i'r uniadau morter ehangu.

Er nad yw simneiau cerrig ar lawer o adeiladau hanesyddol yn hollol syth, cyhyd â'u bod yn strwythur cadarn ni ddylid eu symud. Gall hefyd fod yn bosibl osgoi symud cyrn simnai brics bach â mân graciau ynddynt drwy eu rhwymo â gwifrau i'w hatgyfnerthu. Dylech grafu'r morter o uniadau llorweddol yn y gwaith brics, rhoi gwifrau rhwymo dur di-staen i mewn ac ailbwyntio’r uniadau â morter calch.

Mae'n debyg y bydd angen dymchwel simnai sydd wedi cracio'n ddifrifol neu sy'n ansefydlog ac adeiladu un tebyg yn ei lle. Dylid cofnodi'r simnai cyn ei dymchwel yn ofalus fel y gellir atgynhyrchu'r dull adeiladu, nifer yr haenau o frics neu gerrig a nodweddion eraill. Dylid ailddefnyddio cymaint o'r cerrig neu frics gwreiddiol â phosibl a'u gosod mewn morter calch.

Yr ychydig haenau ar ben y simnai yw'r rhai sydd fwyaf agored i'r tywydd a'r rhai sydd fwyaf tueddol o ddirywio. Mae'n demtasiwn eu symud, ond ni ddylid lleihau uchder simneiau am y gall hyn arwain at ddrafft i lawr, gan achosi i fwg chwythu'n ôl i mewn i'r ystafell. Mae'n arbennig o bwysig adfer y corbelau – y llinell fargodol o gerrig neu frics – ym mhen y corn simnai am fod iddynt swyddogaeth ymarferol. Maent yn helpu i atal dŵr glaw rhag rhedeg i lawr wyneb y corn simnai, a fyddai'n golchi uniadau morter allan yn gyflym, gan wanhau'r strwythur.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch sefydlogrwydd simnai dylech ymgynghori â pheiriannydd strwythurol.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Cyrn simnai brics neu gerrig - cerrig neu frics â chraciau ynddynt neu sydd wedi erydu, gwaith pwyntio wedi'i ddifrodi

Camau i'w cymryd:

Defnyddiwch ysbienddrych i archwilio'r corn simnai ar gyfer brics neu gerrig sydd wedi treulio a gwaith pwyntio diffygiol. Os oes angen, adnewyddwch frics a cherrig unigol ac ailbwyntiwch hwy.

Gall glaw, y gwynt a rhew achosi i frics a cherrig dreulio. Gall gwaith pwyntio sment wneud y broblem yn waeth drwy ddal lleithder yn y strwythur.

Os mai dim ond brics neu gerrig unigol sydd wedi treulio, gellir eu torri allan yn ofalus a gosod rhai newydd yn eu lle. Dylech sicrhau bod y brics neu gerrig newydd yr un mor gryf â'r rhai gwreiddiol ac yn edrych yn debyg iddynt.

Dylid defnyddio morter calch i'w hailbwyntio.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Cyrn simnai wedi'u rendro - rendr â chraciau ynddo, rendr gwag neu rendr sydd ar goll

Camau i'w cymryd:

Dylech archwilio'r corn simnai yn rheolaidd ar gyfer craciau neu chwyddau yn y rendr; atgyweiriwch neu adnewyddwch rendr gan ddefnyddio deunyddiau addas.

Yn hanesyddol rhoddwyd haen amddiffynnol allanol o rendr ar lawer o simneiau cerrig. Defnyddiwyd rendr calch fel arfer, nes i smentiau cynnar ddechrau gael eu defnyddio ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y smentiau cynnar yn fwy meddal a hydraidd na sment Portland modern, a all ddal lleithder yn y gwaith cerrig neu'r gwaith brics.

Dylid monitro craciau bach mewn rendr calch, ond mae'n annhebygol y bydd angen rhoi sylw iddynt ar unwaith. Gall haen o wyngalch helpu i atgyweirio craciau bach am ei fod yn deillio o galchfaen, fel y calch yn y rendr.

Gall craciau mwy o faint awgrymu bod problem gyda'r strwythur sylfaenol, a dylid ymchwilio iddynt. Unwaith y byddwch yn sicr nad oes problem gyda'r strwythur sylfaenol, gellir llenwi craciau mwy o faint neu ddarnau o rendr sydd ar goll â morter calch.

Dylid ymdrin â chraciau o unrhyw faint mewn rendr sment yn gynnar am y gall dŵr gael ei dynnu i mewn i'r deunydd sylfaenol drwyddynt. Am fod sment yn hydraidd iawn, ni fydd dŵr sy'n treiddio i waith cerrig mandyllog y simnai yn gallu anweddu. Gall hyn achosi i leithder ymddangos y tu mewn i'r adeilad ymhellach i lawr brest y simnai. Gall hefyd achosi i waith cerrig y corn simnai ei hun ddirywio ac i'r rendr ddirywio ymhellach.

Dylid cael gwared â rendr sment wedi'i ddifrodi yn llwyr, os yw hynny'n ymarferol, a rhoi rendr calch yn ei le.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Cyrn simnai wedi'u gwyngalchu - gwyngalch sy'n fflawio neu wyngalch hindreuliedig

Camau i'w cymryd:

Dylid adnewyddu gwyngalch yn rheolaidd.

Yn y rhan fwyaf o Gymru, cafodd adeiladau cerrig, gan gynnwys eu simneiau, eu gwyngalchu'n draddodiadol am resymau ymarferol yn ogystal â rhesymau esthetig. Mae gwyngalch yn darparu haen amddiffynnol effeithiol, sy'n atal lleithder rhag treiddio i'r strwythur, tra'n caniatáu i unrhyw ddŵr sydd ynddo anweddu drwy'r arwyneb.

Dylid gwyngalchu'r corn simnai yn rheolaidd, bob blwyddyn yn ddelfrydol, er mwyn i'r gwyngalch fod yn effeithiol.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Cyrn simnai wedi'u paentio – paent sy'n fflawio, paent llawn pothelli neu baent hindreuliedig

Camau i'w cymryd:

Ailbaentiwch y corn simnai â phaent microfandyllog silicad, neu, os yw haen o baent anhydraidd yn achosi iddo ddirywio, ystyriwch y posibilrwydd o'i symud.

Bydd paentiau silicad microfandyllog yn ei gwneud yn bosibl i adeilad anadlu a gellir eu defnyddio mewn sefyllfaoedd lle y gall fod yn anodd defnyddio gwyngalch. Dylid ailbaentio arwynebau bob tair i bedair blynedd.