Skip to main content

Efallai eich bod wedi archwilio strwythur eich adeilad o'r pen i'r gwaelod, y tu mewn a'r tu allan, ond mae mwy i'w wneud eto. Gall pibell sy'n gollwng neu gyfarpar trydan diffygiol gael effaith ddifrifol, a thrychinebus hyd yn oed, felly sicrhewch eich bod yn archwilio eich cyfleustodau a'ch cyfarpar yn rheolaidd wrth wneud eich archwiliadau cynnal a chadw. Bydd hyn yn eich helpu i ddiogelu eich eiddo rhag difrod damweiniol, ond gall hefyd dynnu sylw at ardaloedd lle y gallwch ddefnyddio llai o ynni a dŵr ac arbed arian i chi eich hun.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Gollyngiadau a rhannau llaith

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch silindrau dŵr poeth, pibellau, gwresogyddion a falfiau am ollyngiadau, yn enwedig o gwmpas yr uniadau a'r cysylltiadau. Ar gyfer problemau mwy difrifol neu barhaus, ffoniwch blymer.

Os oes gennych system dŵr poeth dan wasgedd, fel bwyler cyfunol, darllenwch y mesurydd pwysedd yn rheolaidd. Os bydd y pwysedd yn gostwng yn is na'r pwysedd gweithredu arferol - un bar fel arfer - gall hyn awgrymu bod y system yn gollwng rhywle, a dylid chwilio am y gollyngiad hwn a'i atgyweirio cyn gynted â phosibl.

Os yw falf gwresogydd yn gollwng, tynhewch y nyten rywfaint, ond gofalwch beidio â'i thynhau ormod. Os na allwch ddod o hyd i'r gollyngiad neu os yw mewn man lletchwith sy'n anodd ei gyrraedd, gall deunydd selio sydd wedi'i gynllunio ar gyfer systemau gwres canolog gwlyb helpu, ar yr amod nad yw'n ollyngiad mawr. Ychwanegir y deunydd hwn at y dŵr sy'n cylchredeg yn y system. Ffoniwch blymer os yw'r gollyngiad yn ddifrifol neu os cewch broblemau parhaus.

Inswleiddiwch danciau dŵr poeth a phibellau dŵr poeth er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni.

-------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Gwresogyddion diffygiol

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch bob gwresogydd i weld a yw'r rhan uchaf yn oerach na'r rhan waelod. Tynnwch yr aer o'r rhai hynny.

Aer yn y system yw'r rheswm mwyaf cyffredin pam nad yw gwresogyddion unigol yn cynhesu fel y dylent. Mae hon yn broblem hawdd i'w datrys mewn system ddisgyrchiant arferol â thanc uchel. Mewn systemau o'r fath, mae'r tanc wedi'i osod yn uwch na'r silindr dŵr poeth, a hynny'n aml yn y to neu'r atig.

Er mwyn tynnu aer o wresogydd, diffoddwch y pwmp. Rhowch allwedd ollwng yn falf ollwng y gwresogydd dan sylw; mae hon i'w gweld fel arfer ar ben y gwresogydd ar un pen. Trowch yr allwedd yn wrthglocwedd am hanner tro. Gwnewch yn siŵr bod lliain gennych wrth law i ddal y dŵr a fydd yn diferu unwaith y bydd yr aer wedi'i ollwng. Ar ôl i hyn ddigwydd, trowch yr allwedd yn ôl yn glocwedd, gan ofalu peidio â thynhau'r falf yn ormodol.

Yn achos system bwysedd, gan gynnwys unrhyw system sy'n gweithredu â bwyler cyfunol, efallai y bydd angen newid pwysedd y dŵr ar ôl tynnu'r aer o'r gwresogydd. Gwiriwch y pwysedd a chynyddwch y pwysedd os oes angen, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd. Ceisiwch gyngor gan beiriannydd gwresogi os oes gennych unrhyw amheuon.

Os yw aer yn y gwresogyddion yn broblem sy'n codi yn rheolaidd, archwiliwch y system yn ofalus am ollyngiadau.

--------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Bwyleri aneffeithlon neu ddiffygiol

Camau i'w cymryd:

Trefnwch fod y bwyler yn cael ei wasanaethu bob blwyddyn neu'n gynt na hynny os oes unrhyw broblemau.

Dim ond contractwr cymwys ddylai osod, gwasanaethu ac atgyweirio bwyleri, hynny yw, peiriannydd sydd ar y Gofrestr Nwy Diogel; trydanwr sydd wedi'i gofrestru â NICEIC, neu dechnegydd sydd wedi'i gofrestru ag OFTEC yn achos gosodiadau olew.

Gosodwch synwyryddion carbon monocsid.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Tapiau sy'n diferu

Camau i'w cymryd:

Atgyweiriwch dapiau sy'n diferu cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi gwastraffu dŵr.

Wasier ddiffygiol yw'r rheswm mwyaf cyffredin pam fod tapiau yn diferu. Mae'n gymharol hawdd gosod wasieri newydd yn y rhan fwyaf o dapiau cyffredin, ond ffoniwch blymer os oes gennych unrhyw amheuon.

Yn gyntaf, trowch y stopfalf yn wrthglocwedd i ddiffodd y cyflenwad dŵr poeth neu oer - yn dibynnu p'un ai tap dŵr poeth neu dap dŵr oer sy'n diferu - a throwch y tap ymlaen i ddraenio'r system. Yn achos tapiau dŵr oer, mae'n debyg y bydd y stopfalf o dan sinc y gegin. Fel arfer, bydd y stopfalf dŵr poeth gerllaw'r silindr dŵr poeth yn y cwpwrdd crasu. Os yw'r stopfalf yn sownd, peidiwch â bod yn rhy lawdrwm. Yn lle hynny, chwistrellwch olew treiddiol i'w hiro, arhoswch ychydig funudau a rhowch gynnig arall arni.

Er mwyn gosod wasier newydd mewn tap piler syml, llaciwch nyten y brif falf, sef y nyten fwyaf o'r ddwy sydd rhwng corff y tap a'r handlen. I wneud hyn, rhowch ddarn o liain tenau rhwng y nyten a'r sbaner i atal y nyten rhag cael ei chrafu. Daliwch geg y tap yn dynn i'w atal rhag symud a throwch y nyten yn wrthglocwedd. Codwch allan ran fewnol y tap er mwyn gweld y wasier sy'n sownd yn y rhan isaf. Tynnwch yr hen wasier i ffwrdd, gan ryddhau'r nyten sy'n ei chadw yn ei lle yn gyntaf (os oes un ar gael), a gosodwch wasier newydd.

Cyn ei ailosod, edrychwch yng nghorff y tap i archwilio cyflwr bonyn y falf. Dylai fod yn lân heb unrhyw grafiadau. Os yw wedi'i grafu a bod y tap yn parhau i ddiferu ar ôl i wasier newydd gael ei gosod, bydd angen i blymer lyfnu bonyn y falf fel ei fod yn darparu sêl dda unwaith eto.

Os yw nyten y falf wedi'i lleoli yng nghorff y tap, tynnwch y caead plastig bach ar ben y tap er mwyn gweld y sgriw, sy'n cysylltu'r bwlyn â'r echel. Tynnwch y sgriw a chodwch y bwlyn i weld y nyten oddi tano. Rhyddhewch y nyten â sbaner, gan ddal ceg y tap yn dynn fel o'r blaen a dilyn y cyfarwyddiadau a roddwyd uchod.

Ar ôl ailosod y tap, trowch y stopfalf ymlaen unwaith eto ac archwiliwch y pibellau o dan y tap yn ofalus am ollyngiadau.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Sinc, baddon neu arllwysfa cawod wedi'u blocio, draeniau drewllyd

Camau i'w cymryd:

Cliriwch arllwysfeydd sinciau, baddonau a chawodydd, a defnyddiwch lanhäwr draeniau i helpu i gadw'r pibellau yn glir.

Os yw dŵr gwastraff yn draenio i ffwrdd yn araf neu os nad yw'n draenio i ffwrdd o gwbl, defnyddiwch gliriwr sinc i helpu i ryddhau'r hyn sy'n blocio'r sinc, a chofiwch orchuddio'r gorlif â lliain. Rhowch y cliriwr sinc dros dwll y plwg a llenwch y sinc, y baddon neu waelod y gawod â digon o ddŵr i orchuddio'r cwpan rwber. Pwmpiwch y cliriwr i fyny ac i lawr sawl gwaith nes bod y dŵr yn llifo i ffwrdd yn hawdd. Glanhewch yr ardal ar ôl hynny â diheintydd.

Os na lwyddwch i ryddhau'r blociad, rhowch fwced o dan yr arllwysfa a dadsgriwich y trap. Defnyddiwch ddarn o weiren, fel cambren côt wedi'i blygu, i dynnu unrhyw ddeunydd ystyfnig o'r bibell wastraff. Pan fydd y bibell yn glir, glanhewch dwll y plwg â rhywfaint o ddŵr a diheintydd. Gorchuddiwch edau sgriw y trap â thâp atgyweirio plymwaith er mwyn atal unrhyw ddŵr rhag gollwng pan fydd y system wedi'i thynnu ar led, gan osod y tâp yn yr un cyfeiriad â'r edau. Sgriwiwch y trap yn ôl at ei gilydd a golchwch ef yn drylwyr â dŵr i chwilio am ollyngiadau.

Defnyddiwch lanhäwr draeniau neu ddiheintydd i gael gwared ar ddrewdod o'r draen allanol y mae dŵr gwastraff yn arllwys i mewn iddi. Os na fydd hyn yn gweithio, gwisgwch fenig rwber, codwch y rhwyll a thynnwch unrhyw rwystrau sydd o fewn cyrraedd. Os yw'r broblem yn parhau, siaradwch â phlymer.

--------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Pibell orlif sy'n diferu neu staeniau dŵr a mwsogl yn tyfu ar waliau o dan yr arllwysfa

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch bob pibell orlif. Os gwelir bod pibell yn diferu, symudwch y bêl-falf yn y seston neu'r tanc dŵr i ddiogelu'r wal islaw rhag difrod dŵr.

Mae sestonau a thanciau dŵr sydd wedi'u cysylltu â'r brif bibell ddŵr yn cynnwys pêl-falf i ddiffodd y cyflenwad pan fo'r tanc yn llawn. Os na fydd hyn yn digwydd, caiff unrhyw ddŵr sydd dros ben ei arllwys i ffwrdd o'r adeilad drwy bibell orlif, sy'n bargodi y tu hwnt i wyneb allanol wal allanol gyfagos. Os yw dŵr yn diferu neu os yw'r wal o dan y bibell yn llaith neu wedi'i staenio, edrychwch i weld a yw'r bêl-falf yn y seston neu'r tanc dŵr yn gweithio'n effeithiol. Dylai ddiffodd y cyflenwad dŵr pan fo'r lefel yn cyrraedd tua 1" (25mm) islaw lefel arllwysfa'r gorlif. Symudwch fraich y fflôt os oes angen.

Fel arall, gall y falf ei hun fod yn ddiffygiol. Gall falfiau hŷn gael eu gorchuddio â chen ac mae'n well gadael i blymer osod rhai newydd yn eu lle.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Pibellau dŵr sy'n gollwng

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch y pibellau cyflenwi dŵr a'r pibellau dŵr gwastraff, yn enwedig o gwmpas yr uniadau a'r cysylltiadau. Ffoniwch blymer i atgyweirio unrhyw ollyngiadau cyn gynted â phosibl.

Er mwyn helpu i gyfyngu ar y difrod cyn i'r gwaith atgyweirio gael ei wneud, os mai'r system gyflenwi sy'n gollwng, diffoddwch y stopfalf os yw'n bosibl a throwch dap ymlaen i ddraenio'r dŵr o'r system. Os yw pibell dŵr gwastraff yn gollwng, peidiwch â defnyddio unrhyw sinc, baddon na chawod sydd wedi'u cysylltu â hi.

Cyn i'r gaeaf ddod, gwnewch yn siŵr eich bod yn lagio unrhyw dapiau dŵr oer, pibellau a thanciau dŵr sydd heb eu gorchuddio er mwyn atal dŵr rhag rhewi a byrstio'r pibellau. Os bydd yr adeilad yn wag am unrhyw gyfnod sylweddol, diffoddwch y cyflenwad dŵr a draeniwch y system.

Inswleiddiwch danciau dŵr poeth a phibellau dŵr poeth er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni.

--------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Toiled wedi'i flocio

Camau i'w cymryd:

Ar ôl fflysio'r toiled, os bydd lefel y dŵr yn y pan yn aros yn uwch neu'n is na'r cyffredin, mae blociad wedi digwydd y mae'n rhaid cael gwared arno.

Mae'r rhan fwyaf o flociadau yn digwydd yn y trap y tu ôl i'r toiled ac fe'u hachosir fel arfer gan ormod o bapur. Ymhlith achosion cyffredin eraill mae ffyn bach cotwm (cotton buds), gwlân cotwm, tywelion papur, leininau cewynnau tafladwy neu eitemau glanweithdra personol i ferched. Ni ddylid byth fflysio'r rhain i lawr y toiled oherwydd gallant fynd yn sownd yn y system, gan wneud i ddeunydd gronni y tu ôl iddynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych danc carthion, canolfan drin fach neu doiled mwydo.

Os nad yw'r toiled yn clirio yn gyflym, ond nad yw wedi'i flocio yn llwyr, gall ailfflysio helpu i ryddhau'r deunydd weithiau. Fodd bynnag, mae perygl y bydd y dŵr yn gorlifo dros y pan.

Gellir cael gwared ar flociadau mwy difrifol mewn toiled cyffredin drwy ddefnyddio cliriwr. Peidiwch byth â gwneud hyn gyda thoiled mwydo oherwydd gallwch ddifrodi'r offer. Gwisgwch fenig rwber a rhowch y cliriwr yng ngwaelod y pan. Daliwch y cliriwr yn dynn a gwasgwch ef i lawr yn galed sawl gwaith i orfodi'r dŵr i mewn i'r trap, gan ofalu eich bod yn osgoi cael eich gwlychu.

Os na fydd hyn yn llwyddo ac os oes sinc neu arllwysfa gyfagos sy'n gysylltiedig â'r un bibell, trowch y tap ymlaen i weld a yw'r dŵr yn draenio i ffwrdd fel arfer. Os nad yw'n draenio i ffwrdd, mae'r blociad wedi digwydd mewn rhan is o'r system. Oni bai bod gennych rodenni draen a'ch bod yn teimlo'n hyderus i'w defnyddio, ffoniwch blymer.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Arogl nwy

Camau i'w cymryd:

Agorwch ddrysau a ffenestri, diffoddwch y cyflenwad nwy, a ffoniwch Linell Argyfwng Nwy y Grid Cenedlaethol am ddim ar 0800 111 999.

Os byddwch yn clywed gwynt nwy, agorwch y ffenestri a'r drysau, ac edrychwch i weld a oes cyfarpar wedi'i adael ymlaen heb ei gynnau. Os nad oes, diffoddwch y cyflenwad nwy. Yn achos nwy naturiol, bydd y falf ddiffodd ym mlwch y mesurydd nwy. Fel arfer, blwch gwyn yw hwn sydd ar flaen eich adeilad. Os yw blwch y mesurydd y tu allan, bydd angen i chi ddefnyddio allwedd i'w agor, felly cadwch yr allwedd mewn man cyfleus.

Yn achos LPG, caewch y falf wagio ar y tanc er mwyn diffodd y llif nwy. Bydd eich cyflenwr yn rhoi rhif cyswllt 24 awr i chi i'w ddefnyddio mewn argyfwng.

Os byddwch yn clywed gwynt nwy, peidiwch ag ysmygu na defnyddio switshis golau, offer trydanol eraill na ffonau symudol, a allai achosi gwreichionen. Diffoddwch unrhyw fflamau agored.

Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch nwy gweler www.gassaferegister.co.uk a www.hse.gov.uk.

-----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Fflamau peilot sy'n diffodd yn aml, fentiau aer wedi'u blocio, arwyddion o huddygl neu staeniau.

Camau i'w cymryd:

Gwnewch yn siŵr bod fentiau aer a chyrn simnai yn cael eu cadw'n glir bob amser. Edrychwch am arwyddion o huddygl neu staeniau o gwmpas y cyfarpar, ac edrychwch i weld a yw'r fflamau a'r fflamau peilot yn llosgi fel arfer. Trefnwch fod y cyfarpar yn cael ei wasanaethu bob blwyddyn.

Trefnwch fod cyfarpar nwy yn cael ei wasanaethu o leiaf unwaith y flwyddyn gan osodwr sydd ar y Gofrestr Nwy Diogel. Trefnwch fod hynny'n digwydd ynghynt os gwelwch huddygl neu staeniau o gwmpas cyfarpar, os bydd fflamau a fflamau peilot yn llosgi'n felyn yn hytrach na glas, os bydd fflamau peilot yn diffodd yn rheolaidd, neu os bydd synwyryddion carbon monocsid yn dangos darlleniadau uchel. Gall yr arwyddion hyn awgrymu bod corn y simnai wedi'i flocio.

Ceisiwch ofal meddygol ar unwaith os bydd gennych unrhyw rai o'r chwe phrif symptom o wenwyn carbon monocsid - cur pen, pendro, cyfog, diffyg anadl, llewyg neu fynd yn anymwybodol.

Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch nwy gweler www.gassaferegister.co.uk a www.hse.gov.uk.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Ceblau sy'n rhydd neu wedi'u difrodi, goleuadau sy'n fflachio, gwreichion neu offer â diffygion eraill

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch wifrau, gosodiadau ac offer symudol am geblau a phlygiau sydd wedi'u difrodi neu sy'n rhydd, ac arwyddion o orgynhesu. Gwnewch yn siŵr bod plygiau'n cynnwys y ffiws gywir ar gyfer y math o gyfarpar.

Peidiwch â defnyddio offer sydd wedi'u difrodi neu sy'n dangos arwyddion o draul, a pheidiwch byth â defnyddio cyfarpar â phlygiau mewn amgylchedd llychlyd neu laith.

Os bydd ffiws yn chwythu mewn plwg, gosodwch un arall yn ei lle sydd â'r radd gywir ar gyfer yr offer o dan sylw. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gyfer y cyfarpar neu cysylltwch â'r gweithgynhyrchydd am gyngor. Fel arfer, defnyddir ffiws 3 amp ar gyfer cyfarpar hyd at 720 watt a ffiws 13 amp ar gyfer cyfarpar rhwng 720 a 3000 watt.

Mae ffiws wedi chwythu neu switsh wedi tripio yn eich blwch ffiwsiau yn arwydd bod problem â'r cylched trydanol y maent wedi'u cysylltu ag ef. Ceisiwch ddod o hyd i wraidd y broblem bob amser, fel gorlwytho neu gyfarpar diffygiol, cyn gosod ffiws newydd neu ailosod y switsh tripio.

Mae Sefydliad y Peirianwyr Trydanol yn argymell y dylai cyfarpar trydanol cludadwy gael ei brofi gan berson cymwys ar sail gylchol rhwng tri mis a phedair blynedd, yn dibynnu ar y math o gyfarpar.

Trefnwch fod gwifrau yn cael eu profi o leiaf unwaith bob pum mlynedd a defnyddiwch drydanwr wedi'i gofrestru â NICEIC i wneud unrhyw atgyweiriadau trydanol.