Skip to main content

Y tro nesaf y bydd hi'n bwrw glaw yn drwm, gafaelwch mewn ymbarél ac ewch i sefyll yn y glaw. Efallai y byddwch yn gwlychu, ond dyma'r amser gorau i archwilio eich cafnau a draeniau. Yn aml byddwch yn canfod y caiff lleithder mewn tŷ ei achosi gan rywbeth syml fel cafn wedi'i flocio. Mae cadw eich system gwaredu dŵr glaw yn glir a sicrhau ei bod yn llifo'n rhydd yn un o'r tasgau cynnal a chadw rheolaidd pwysicaf, ond mae hefyd yn un o'r rhai hawddaf. Yn aml yr unig beth sydd angen ei wneud yw gwisgo pâr cryf o fenig i glirio dail yr hydref a sbwriel o ddraeniau a chafnau. Os yw eich cafnau yn uchel neu'n anodd eu cyrraedd, dylai dyn cynnal a chadw lleol allu eich helpu.

Mae gwaredu dŵr glaw yn gyflym ac yn effeithlon yn hollbwysig i les pob adeilad, ond mae'n arbennig o bwysig i'r rhai ag adeiladwaith traddodiadol. Fodd bynnag, ni chynlluniwyd pob adeilad â chafnau a phibellau dŵr. Mae toeon gwellt, er enghraifft, ar oleddf serth gyda bondo bargodol dwfn er mwyn helpu i daflu'r dŵr i ffwrdd oddi wrth y waliau.

Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, daeth cafnau plwm a phibellau dŵr plwm yn gyffredin mewn tai mwy o faint. Roedd defnyddio plwm, sy'n ddeunydd hyblyg, yn golygu bod modd llunio addurniadau. Weithiau câi dalwyr dŵr, sef cynwysyddion sgwâr neu gynwysyddion siâp twndish ar ben pibellau dŵr, eu haddurno â blaenlythrennau enw'r unigolyn yr adeiladwyd y tŷ ar ei gyfer a'r dyddiad adeiladu. Mae dalwyr dŵr a phibellau dŵr plwm o ddiddordeb hanesyddol sylweddol; lle bo hynny'n bosibl dylid eu hatgyweirio, yn hytrach na gosod rhai newydd yn eu lle. Weithiau, mae adeiladau Sioraidd yn cynnwys cafnau mewnol, a adeiladwyd gan ddefnyddio llithrfeydd pren â leinin plwm, sy'n rhedeg drwy'r gofod yn y to er mwyn arllwys y dŵr drwy wal allanol. Ar y pryd, roedd cynllun toeon tai â statws uwch yn aml yn gymhleth ac roedd angen cafnau mewnol i dynnu dŵr glaw o gafnau mewnol a thoeon gwastad.

Defnyddiwyd haearn bwrw yn lle plwm o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth mewn tai llai o faint. Roedd gan gafnau haearn bwrw cynnar adran hanner crwn ac roeddent wedi'u gosod ar fracedi hir pigog a oedd yn sownd yn y wal neu ymhob pen o'r trawstiau. Ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth cafnau pigfain yn boblogaidd, ond cafnau hanner crwn oedd fwyaf cyffredin o hyd ar adeiladau mwy gwerinol. Mae gan gafnau pigfain gefn gwastad ac fe'u hategir gan fondo bargodol o frics neu gerrig, neu caiff y cafnau eu sgriwio'n uniongyrchol i'r wal neu astell dywydd o bren. Caiff pibellau dŵr eu gosod yn sownd yn y wal gan ddefnyddio clustiau, a gaiff eu mowldio i mewn i rannau o'r bibell, neu glipiau ar wahân a elwir yn Saesneg yn 'holder bats'.

Roedd y broses gastio wedi galluogi pobl oes Fictoria yn arbennig i ddatblygu llawer o batrymau addurnol dros ben. Roedd gan gafnau ar ganopïau gwydr gribau addurnol yn aml iawn, a gall dyluniad pibellau dŵr amrywio o blethau barlys i fotiffau boglynnog. Roedd dalwyr dŵr o haearn bwrw yn tueddu i fod yn addurnol iawn hefyd. Amrywiai'r manylder yn ôl maint a math y tŷ, ac roedd nwyddau dŵr glaw symlach yn fwy cyffredin ar adeiladau llai.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Cafnau a dalwyr dŵr sy'n gorlifo.

Camau i'w cymryd:

Cliriwch blanhigion, dail a sbwriel o gafnau, yn arbennig yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Gwnewch yn siŵr bod cafnau yn arllwys dŵr i'r pibellau dŵr heb i ddŵr gronni.

Gall cafnau a dalwyr dŵr sy'n gorlifo arwain at waliau llaith a phydredd, a dylid canfod y broblem a cheisio ei datrys ar unwaith. Yn ffodus, caiff y rhan fwyaf o broblemau eu hachosi gan flociadau o lystyfiant, dail neu sbwriel y gellir eu clirio'n hawdd â llaw. Cyn gwneud unrhyw waith ar uchder, fodd bynnag, ystyriwch y risgiau a gwnewch yn siŵr y byddwch yn gweithio'n ddiogel.

Os yw eich cafnau yn uchel iawn neu'n anodd eu cyrraedd, efallai yr hoffech logi tŵr sgaffold neu lifft symudol neu gyflogi contractwr.

Gwnewch yn siŵr nad yw'r cafnau yn sigo a'u bod wedi'u halinio'n gywir i arllwys dŵr i mewn i'r bibell ddŵr heb i ddŵr gronni.Mae hon yn broblem gyffredin gydag UPVC, sef y deunydd mwyaf byrhoedlog ar gyfer cafnau fel arfer.

Os oes gennych gafnau mewnol yn rhedeg drwy'r gofod yn y to, archwiliwch hwy yn rheolaidd i weld a oes unrhyw flociadau neu unrhyw ddirywiad yn y leinin plwm neu'r llithrfeydd pren. Trefnwch fod gwaith atgyweirio angenrheidiol yn cael ei wneud ar unwaith. Mae cafnau mewnol yn effeithiol, ond rhaid eu cynnal a'u cadw yn ofalus iawn oherwydd gall methu â gwneud hynny achosi difrod sylweddol iawn yn gyflym i nenfydau a dodrefn yr ystafelloedd islaw.

Os yw cafnau a dalwyr dŵr yn gorlifo, ond na ellir canfod pam, mae'n bosibl bod y system yn rhy fach i ymdopi â chyfaint y dŵr a arllwysir pan fydd yn glawio'n drwm. Fodd bynnag, os oes gwerth hanesyddol i'r system bresennol - er enghraifft, system â dalwyr dŵr a phibellau dŵr addurnol o blwm - efallai na fydd yn dderbyniol gosod unedau mwy o faint yn ei lle. Gall gosod pibell ddŵr ychwanegol ac addasu aliniad y cafn fod yn ddewis amgen addas.

Mae gan rai adeiladau gafnau blwch plwm y tu ôl i waliau parapet. Os nad yw'r arllwysfa yn ddigon mawr, gall lefel y dŵr godi yn y cafn, a'r perygl yw y bydd y dŵr yn treiddio i drawstiau oddi tano a phen y wal. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gellir addasu'r system i gyflwyno arllwysfa gorlif arall a llithrfa. Mantais y system hon yw ei bod yn taflu unrhyw ddŵr i ffwrdd o'r wal a hefyd yn dangos yn glir pryd y bydd angen bod yn fwy gwyliadwrus. Ceisiwch gyngor gan bensaer neu syrfëwr cyn gwneud unrhyw addasiadau er mwyn sicrhau eu bod yn gywir. Os nad yw eich adeilad yn un rhestredig, efallai y bydd angen caniatâd arnoch ar gyfer y gwaith hwn.

--------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Cafnau a phibellau dŵr o haearn bwrw - uniadau sy'n gollwng a phibellau hollt; pibellau dŵr sy'n llac neu wedi dod yn rhydd.

Camau i'w cymryd:

Edrychwch am arwyddion o ollyngiadau a lle bo hynny'n bosibl, glanhewch ac ailseliwch uniadau sy'n gollwng. Os byddwch yn gosod pibellau newydd yn lle rhai sydd wedi hollti neu wedi rhydu'n ddifrifol, ceisiwch ddod o hyd i rai sy'n union yr un fath â'r gwreiddiol.

Os caiff ei gynnal a'i gadw'n dda, mae haearn bwrw yn ddeunydd hynod o gadarn, ond os caiff ei daro'n galed mae'n fregus a bydd yn torri. Gall dŵr sy'n methu â dianc rewi a gwneud i bibellau hollti, felly gosodwch rwystrau dail ar ben arllwysfeydd dŵr glaw er mwyn helpu i atal pibellau dŵr rhag cael eu blocio.

Gall fod yn anodd dod o hyd i dyllau yng nghefn pibellau dŵr, yn enwedig yn achos pibellau â rhannau hirsgwar, felly edrychwch am arwyddion o ddŵr ar y wal gyferbyn, gan gynnwys rhwd a staeniau dŵr, uniadau cerrig llwydaidd, a mwsogl ac algâu. Os na wnewch rywbeth am y gollyngiad, gall difrod dŵr ymddangos ar wyneb mewnol y wal a gall hyn greu amodau delfrydol i bydredd gwlyb a sych ddatblygu.

Gellir defnyddio seliau silicon i wneud atgyweiriadau dros dro, ond dylid tynnu uniadau sy'n gollwng mewn cafnau a phibellau dŵr o haearn bwrw, eu glanhau, cael gwared ar unrhyw rwd sydd arnynt, eu hailosod a'u selio gan ddefnyddio pyti olew had llin traddodiadol. Os oes rhannau wedi rhydu neu hollti'n ddifrifol, dylid gosod rhannau newydd sy'n union yr un fath â'r gwreiddiol. Peidiwch â chymysgu deunyddiau gan y bydd yn anodd creu uniad cadarn rhyngddynt. Nid yw nwyddau dŵr glaw alwminiwm ac UPVC allwthiol yn addas i'w defnyddio yn lle haearn bwrw ar adeiladau hanesyddol, ond gall alwminiwm bwrw fod yn dderbyniol mewn sefyllfaoedd eithriadol lle byddai'n anodd gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd.

Wrth adnewyddu neu ailosod pibellau dŵr, gosodwch ddarnau gwahanu pren y tu ôl i'r bracedi neu'r 'clustiau' fel y gall aer gylchredeg yn well ac fel ei bod yn haws ailaddurno.

---------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Problemau draenio o gwmpas canopïau a balconïau gyda cholofnau haearn bwrw gwag.

Camau i'w cymryd:

Dadflociwch arllwysfeydd unrhyw golofnau ategol gwag sy'n gweithredu fel pibellau dŵr.

Mae'r colofnau haearn bwrw gwag ar falconïau a chanopïau o oes Fictoria yn aml yn gweithredu fel pibellau dŵr, ac yn ategu'r strwythur. Mae dŵr glaw yn arllwys naill ai'n uniongyrchol i'r ddaear neu i ffos neu bibell ddraenio. Mae'n hynod o bwysig bod dŵr yn gallu draenio i ffwrdd o waelod y colofnau cyn gynted â phosibl. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw arllwysfa agored ar waelod y golofn wedi'i blocio ac nad yw lefel y ddaear yn uwch na'r arllwysfa honno. Os cynlluniwyd yr arllwysfa i fod o dan y ddaear, mae'n debyg y bydd wedi'i chysylltu â phibell ddraenio a fydd yn cludo'r dŵr i garthffos neu ffos gerrig gyfagos. Dylech fod yn ymwybodol o unrhyw bibellau tanddaearol wrth wneud unrhyw waith gerllaw'r colofnau.

---------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Paent pothellog a rhwd ar systemau dŵr glaw o haearn bwrw, yn enwedig mewn holltau ac uniadau.

Camau i'w cymryd:

Ailaddurnwch gan ddefnyddio paent ag olew ynddo.

Tynnwch unrhyw rwd ac ailaddurnwch bob tair i bedair blynedd, ond gwnewch hynny'n fwy rheolaidd os dewch o hyd i rwd. Os nad yw'r tywydd yn addas, rhowch haen o olew had llin i amddiffyn unrhyw fetel noeth. Dylid osgoi defnyddio cynhyrchion anhraddodiadol sy'n creu bondiau cemegol gyda'r haearn gan eu bod yn tolcio'n hawdd ac ni ellir cael gwared arnynt na phaentio drostynt gan ddefnyddio paent mwy traddodiadol. Paentiwch y tu mewn i gafnau gan ddefnyddio paent bitwmastig.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Draeniau a ffosydd wedi'u blocio.

Camau i'w cymryd:

Cliriwch ddail a sbwriel yn rheolaidd, yn arbennig yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Gwnewch yn siŵr bod rhwyllau a gorchuddion rhwyllog yn eu lle ac nad ydynt wedi torri.

Gwisgwch fenig cryf bob amser wrth lanhau dail a sbwriel o ddraeniau a ffosydd er mwyn diogelu eich dwylo rhag gwrthrychau miniog. Defnyddiwch rodenni i glirio draeniau os ydynt wedi blocio.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Uniadau agored, craciau neu ddifrod i sianeli a llwybrau dŵr o amgylch waliau terfyn

Camau i'w cymryd:

Atgyweiriwch graciau neu ddifrod i sianeli neu lwybrau dŵr concrid.

Gwnewch yn siŵr bod sianeli a llwybrau concrid o amgylch waliau terfyn yn gyflawn a bod y dŵr yn cael ei gyfeirio i ffwrdd oddi wrth waelod y waliau. Bydd unrhyw ddŵr sy'n mynd drwy graciau yn cael ei ddal i gyd mewn un man, a gall hyn danseilio sylfeini'r adeilad neu achosi lleithder codi yn y pen draw. Seliwch graciau gan ddefnyddio deunydd selio concrid yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

Lle bo hynny'n bosibl, ceisiwch osod llwybrau graean neu lwybrau o ddeunydd arall sy'n draenio yn hawdd yn lle llwybrau concrid.

-------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Lleithder ar wyneb mewnol waliau allanol.

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch lefelau gwelyau a borderi o gwmpas yr adeilad. Os oes angen, ceisiwch wella'r system ddraenio o gwmpas perimedr yr adeilad.

Os bydd lleithder yn ymddangos ar wyneb mewnol waliau allanol, archwiliwch lefel unrhyw waliau a borderi o gwmpas yr adeilad. Gwnewch yn siŵr nad oes pridd wedi codi uwchlaw lefel y llawr mewnol neu lefel unrhyw gyrsiau gwrthsefyll lleithder neu frics aer. Camddehonglir y rheswm dros yr achosion hyn o dreiddiad lleithder yn aml iawn ac argymhellir cyrsiau gwrthsefyll lleithder neu systemau tancio, sy'n aml yn aneffeithiol ac yn ddiangen.

Mae'n bwysig bod dŵr yn cael ei gludo ymaith o waelod waliau cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn achos adeiladau heb gyfarpar dŵr glaw, sy'n dibynnu yn lle hynny ar fondo bargodol dwfn i daflu dŵr i ffwrdd oddi wrth yr adeilad. Gellir gwella systemau draenio o amgylch adeilad yn fawr drwy wneud lefel y ddaear yn is, gan ofalu peidio â thanseilio sylfeini'r adeilad.

Os oes angen mwy o gyfleusterau draenio am fod y pridd o amgylch yr adeilad yn cynnwys llawer iawn o glai, er enghraifft, gall draen Ffrengig fod yn ateb effeithiol a rhad iawn. Mae hyn yn golygu cloddio ffos gyferbyn â'r wal a'i leinio â philen geodecstil. Yna gosodir draen ddaear o bibellau clai ar ei phen gyda goleddf da er mwyn sicrhau y caiff y dŵr a gesglir ei gludo ymaith i ffwrdd oddi wrth yr adeilad i ffos gerrig ar wahân. Yna caiff y ffos ei hôl-lenwi i'r brig bron â cherrig mân cywasgedig a gosodir pilen geodecstil arall drosti. Mae'r bilen hon yn atal gronynnau pridd bach rhag mynd i mewn i'r draen a'i blocio. Yna caiff y ffos ei llenwi hyd at y lefel orffenedig â graean neu uwchbridd. Gwnewch yn siŵr nad yw'r ffos yn tanseilio sylfeini'r adeilad nac yn amharu ar unrhyw weddillion archeolegol. Gall sylfeini adeiladau canoloesol, er enghraifft, fod yn hynod o fas, felly efallai y bydd angen cloddio'r ffos ychydig bellter o'r adeilad. Fodd bynnag, mae'n debygol na fydd y ddraen Ffrengig mor effeithiol os gwnewch hynny. Os ydych yn ansicr, ceisiwch gyngor gan bensaer neu syrfëwr. Gall gymryd sawl mis i wal llawn dŵr sychu, felly efallai na fydd manteision y ddraen yn amlwg ar unwaith.

Mae isloriau yn aml yn llaith a gall fod yn anodd cael gwared ar hyn heb osod tanciau a system ddraenio fewnol. Fodd bynnag, dim ond os yw'r islawr yn cynnwys ystafelloedd i fyw ynddynt y mae angen gwneud hyn fel arfer. Mewn achosion eraill, bydd awyru'r ystafelloedd yn fwy yn ddigon fel arfer i osgoi problemau mwy difrifol, fel ffyngoedd, rhag codi.