Skip to main content

Mae llawer o resymau da dros ymgymryd â gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar adeiladau.

Gall eich helpu i:

  • gadw gwerth uchaf eich adeilad, yn arbennig pan fo nodweddion pensaernïol gwreiddiol wedi'u cadw
  • arbed arian drwy atgyweirio nodweddion, megis ffenestri, yn hytrach na phrynu rhai newydd
  •  atal problemau mwy difrifol, megis pydredd sych, ac osgoi cost ac anghyfleustra gwaith atgyweirio mawr
  • cynnal ymddangosiad eich adeilad a chyfrannu at ymdeimlad o falchder yn eich cymuned
  • hyrwyddo cynaliadwyedd drwy ddiogelu eich adeilad er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei ddefnyddio a'i fwynhau
  • cynllunio a chyllidebu ar gyfer gwaith cynnal a chadw drutach, megis ailaddurno allanol.

Beth yw Cynnal a Chadw?

Yn y bôn, mae cynnal a chadw yn golygu cynnal archwiliadau rheolaidd i sicrhau cyflwr eich adeilad a'i amgylchoedd, a gwneud gwaith atgyweirio amserol os caiff namau eu canfod. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i gynnal archwiliadau neu wneud gwaith atgyweirio syml. Os bydd problemau mwy difrifol yn codi neu os bydd adeilad yn fawr neu'n arbennig o gymhleth, efallai yr hoffech ymgynghori â syrfëwr neu bensaer cymwys. Ni fydd angen cymeradwyaeth ar gyfer gwaith cynnal a chadw syml fel arfer os yw eich adeilad yn rhestredig, ond os bydd angen gwneud gwaith atgyweirio mwy sylweddol, dylech gadarnhau hynny'n gyntaf â swyddog cadwraeth eich awdurdod lleol.

Mae'n debyg mai gwaith cynnal a chadw rheolaidd yw'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i ddiogelu eich adeilad hanesyddol. Drwy nodi problemau bach yn gynnar, gallwch atal difrod difrifol a'r angen am waith atgyweirio drud yn nes ymlaen.

Deunyddiau a Gwaith Atgyweirio

Fel rheol, dylai unrhyw waith atgyweirio i'ch adeilad hanesyddol gael ei wneud gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau sy'n cyfateb i'r rhai a ddefnyddiwyd yn wreiddiol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod perfformiad ac ymddangosiad hen waith a gwaith newydd yn cyd-fynd â'i gilydd. Yn aml, gall defnyddio deunyddiau modern amhriodol achosi mwy o broblemau difrifol na'r problemau y bwriedir iddynt eu datrys. Er enghraifft, gall ail-bwyntio carreg feddal neu fricwaith gyda morter sment caled drapio lleithder a chyflymu'r broses bydru. Er bod angen i forteri a rendradau calch gael eu hatgyweirio neu eu hailosod yn gyfnodol, bydd morter calch meddal traddodiadol yn helpu adeilad i oddef rhywfaint o leithder a symudiad. Cyn i chi wneud unrhyw waith atgyweirio, sicrhewch eich bod wedi nodi unrhyw achosion sylfaenol a'ch bod wedi mynd i'r afael â hwy. Er enghraifft, mae trin achos o bydredd sych heb fynd i'r afael â threiddiad y lleithder yn ddibwrpas.

Materion Diogelwch i'w Hystyried

Mae angen i chi fod yn ymwybodol o faterion iechyd a diogelwch. Os byddwch yn gofyn i rywun arall wneud y gwaith, dylech ymgyfarwyddo â'r rheoliadau perthnasol. Byddwch yn ymwybodol o beryglon posibl, megis arwynebau llithrig, toeon bregus neu loriau atig heb estyll arnynt.

Wrth Ddefnyddio Ysgol:

  •  dylech sicrhau ei bod yn ddigon hir at y diben a'i bod wedi'i diogelu'n briodol ar y pen a'r gwaelod
  • dylech osgoi rhoi'r ysgol ar arwyneb meddal neu anwastad neu ei gosod ar gwteri
  • sicrhewch fod unigolyn ar y gwaelod i sefydlogi'r ysgol
  • cadwch o leiaf un llaw ar yr ysgol am gefnogaeth
  • peidiwch â gorestyn neu bwyso i ffwrdd o'r ysgol
  • peidiwch â'i defnyddio yn ystod tywydd gwlyb neu wyntog.

Cyfarpar ar Gyfer Archwiliadau Cynnal a Chadw

Mae'n debygol y bydd angen y canlynol arnoch o leiaf:

  • copi o'ch cynllun cynnal a chadw
  • tortsh
  • cyllell boced
  • ysbienddrych
  • camera 
  • llyfr nodiadau
  • ysgrifbin
  • pâr o fenig cryf
  • trywel i lanhau cwter

Efallai y bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • ysgol
  • sbectol diogelwch, os byddwch yn clirio sbwriel yn uwch nag uchder pen,
  •  a mwgwd wyneb, os byddwch yn clirio baw colomennod.