Skip to main content

Mae ffenestri a drysau gwreiddiol yn cyfrannu at gymeriad adeilad hanesyddol ac, os rydych yn ddigon ffodus i'w cael, gwnewch bob ymdrech i'w diogelu. Os cânt eu cynnal a'u cadw'n gywir, gallant barhau am ganrifoedd - llawer hirach na drysau a ffenestri plastig (uPVC) y gallwch eu gosod yn eu lle. Mae ymchwil diweddar ar ffenestri codi pren wedi dangos hefyd bod cymryd camau syml, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw da, yn gallu gwella eu perfformiad thermol gystal â llawer o unedau gwydr dwbl. Ystyriwch osod llen ar draws y drws i gadw gwres i mewn yn ystod y gaeaf, ac os oes gennych gloriau ffenestri, adnewyddwch hwy fel y gallwch eu defnyddio unwaith eto. Peidiwch ag aros tan y gaeaf i dalu sylw i'ch drysau a ffenestri - gall diwrnodau cynnes y gwanwyn a'r haf ei wneud yn waith pleserus.

Tan y ddeunawfed ganrif, roedd drysau fel arfer yn blaen ac wedi'u gneud o estyll derw fertigol wedi'u hoelio i ysgafelloedd llorweddol. Defnyddiwyd drysau panel, lle y gosodir paneli tenau ar fframwaith o reiliau ac estyll, ar gyfer drysau mewnol i ddechrau, a cheir enghreifftiau sydd wedi goroesi o'r ail ganrif ar bymtheg. Erbyn y ddeunawfed ganrif, roedd drysau panel yn fwy cyffredin, ac roedd ganddynt ddau banel ar y cychwyn, ond daeth pedwar a chwe phanel yn gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd ffenestri croeslathog neu ffenestri linter mwy addurnol yn nodwedd o'r traddodiad clasurol Sioraidd a oedd yn amlwg o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg o leiaf. Ar yr un pryf hefyd, daeth fframiau drws addurnol i'r amlwg, o dan ddylanwad clasuriaeth. Mewn adeiladau gwledig, roedd hen draddodiadau'n parhau, ac roedd drysau astell mewn fframiau syml yn parhau'n gyffredin.

Cyflwynwyd gwydr fforddiadwy yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac arweiniodd hyn at ddefnydd eang o ffenestri myliynog, a oedd fel arfer â phaenau siâp diemwnt neu hirsgwar. Câi'r paenau eu dal gyda'i gilydd gan stribedi plwm mewn casmentau pren neu haearn, a osodwyd rhwng pyst cerrig neu bren. Roedd y ffenestri hyn wedi'u gosod yn llorweddol, ond o'r ddeunawfed ganrif roedd nenfydau uwch a ffenestri codi newydd yn golygu y câi ffenestri eu gosod yn fertigol. Drwy gymorth penseiri fel John Nash a llyfrau patrymau lledaenodd dylanwad clasuriaeth ledled Cymru gan sicrhau bod yr arddull newydd hwn yn cael ei ddefnyddio'n helaeth.

Mewn tai gwledig traddodiadol, parhawyd i ddefnyddio ffenestri llorweddol tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hynny'n bennaf ar ffurf ffenestri casment ac, weithiau, ffenestri codi a oedd yn symud yn llorweddol. Mae'r ffenestri yn symud i'r ochr ar hyd rhigolau ar dop a gwaelod y ffrâm. Yng Nghymru, fe'u defnyddir weithiau yn yr agoriadau llai o faint ar loriau uchaf adeiladau Sioraidd, ond fe'u defnyddir yn fwyaf cyffredin yn lle ffenestri casment cynharach.

Mewn ffenestri codi cynnar sy'n symud yn fertigol mae'r ffenestr uchaf yn aros yn ei hunfan. Gellir symud y ffenestr waelod i fyny a chaiff ei dal ar agor gan letemau neu begiau a roddir mewn tyllau yn leinin y ffenestr. Parhawyd i ddefnyddio'r dyluniad hwn am ei fod yn rhad, ond daeth amrywiadau ar y ffenestri crog dwbl, lle mae'r ddwy ffenestr yn gallu agor, yn gyffredin yn gyflym iawn. Caiff y ffenestri eu hongian ar gordiau neu gadwyni sydd â phwysau plwm neu haearn bwrw yn sownd ynddynt. Mae'r rhain yn gwrthbwyso pwysau'r ffenestri i'w cadw ar agor neu ar gau. Yn aml iawn mewn tai â statws uwch, yn lle llenni, roedd gan ffenestri codi gloriau wedi'u gwneud o baneli pren a oedd yn plygu'n ôl i mewn i flychau cloriau ar bob ochr o'r ffenestr. Yn anffodus, er gwaethaf ymarferoldeb a cheinder y dyluniad hwn, cafwyd gwared ar lawer ohonynt yn ddiweddarach.

Mae gan ffenestri Sioraidd baenau bach a daeth y mowldiadau yn fwy cain a chywrain ymhen amser. Ar ôl tua 1840 daeth dalennau mwy o wydr silindr ac yna gwydr plât ar gael yn ehangach, a arweiniodd at ffenestri codi â llai o baenau. Oherwydd bod y gwydr yn drymach roedd angen mwy o gynhaliaeth ar ffrâm y ffenestr godi, a gosodwyd cyrn bach o dan yr uniad ar bob ochr i'r ffenestr godi. Ymysg yr amrywiadau ar y patrwm gwydro mae ffenestri ymylol a rhaniad tridarn yn y brif ffrâm.

Tuag at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, am fod gwydr lliw ar gael i'w ddefnyddio mewn pensaernïaeth ddomestig cafwyd adfywiad mawr mewn ffenestri plwm. Mae siapiau llyfn a dyluniadau lliwgar sy'n seiliedig ar ffurfiau naturiol yn nodweddiadol o'r arddull Art Nouveau ac mae llawer o enghreifftiau yn goroesi mewn ffenestri linter, ffenestri a phaneli drysau yn Llandrindod.

Mae ffenestri metel o ddiddordeb hanesyddol sylweddol a dylid eu hatgyweirio ac nid gosod ffenestri newydd yn eu lle. Defnyddiwyd casmentau haearn gyr wedi'u hongian ar eu hochrau a'u cynnal ar binnau haearn, a elwid yn 'warbinnau' neu'n 'bowltiau', mewn pensaernïaeth ddomestig o'r unfed ganrif ar bymtheg. Roeddent wedi'u gwydro â ffenestri plwm ac yn aml roedd ganddynt ategion neu fachau casment crom o haearn gyr i ddal y ffenestr ar agor. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, defnyddiwyd casmentau haearn bwrw yn gyffredin ledled Cymru mewn adeiladau diwydiannol ac amaethyddol, eglwysi a bythynnod.

Yn ddiweddarach, roedd gan ffenestri dur gyrru poeth, a dynnir o adeiladau yn aml heb feddwl ddwywaith, ran hollbwysig i'w chwarae yn nyluniadau trawiadol adeiladau Art Deco a Modernaidd y 1930au hyd at y 1950au. Yn anffodus, prin yw'r adeiladau o'r cyfnod hwn yng Nghymru sydd wedi goroesi gyda'u nodweddion gwreiddiol. Yn hytrach na hongian ar eu hochr, mae ffenestri haearn bwrw a dur weithiau'n agor drwy droi o gwmpas y pwynt fertigol canolog neu mae ganddynt golyn ar y gwaelod, sy'n golygu bod y ffenestr yn agor tuag at i mewn.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Pyti sydd ar goll a phaenau wedi torri

Camau i'w cymryd:

Llenwch unrhyw byti sydd ar goll ar unwaith. Os oes angen, gosodwch wydr cyfatebol yn lle paenau sydd wedi torri.

Nid yw craciau yng nghorneli gwydr hanesyddol yn broblem fel arfer, ond dylech lenwi unrhyw byti sydd ar goll cyn gynted â phosibl er mwyn atal dŵr rhag treiddio i mewn i'r pren.

Defnyddiwch byti olew had llin yn lle unrhyw byti sydd ar goll neu hen byti. Byddwch yn ofalus wrth dynnu hen byti o baenau sydd heb dorri gan y bydd wedi sychu a bydd yn hynod o galed. Gallwch ei feddalu drwy ddefnyddio toddydd tynnu paent cyn ceisio ei symud.

Er mwyn gosod paen newydd yn lle un sydd wedi torri, tynnwch y gwydr sydd wedi torri a'r pyti yn ofalus, gan ddefnyddio gaing neu gyllell byti. Glanhewch y rabed cyn preimio'r pren. Ar ôl i'r paent preimio sychu, mowldiwch belen o byti olew had llin hyd nes ei fod yn llyfn gan greu stribyn tenau a gwasgwch hwn o amgylch ymyl yr agoriad. Gosodwch y paen newydd o wydr ar y pyti. Dylai'r gwydr fod yr un fath â'r gwreiddiol o ran math a thrwch a dylai fod fymryn bach yn llai na maint yr agoriad. Gosodwch y paen yn ei le gan ddefnyddio hoelion gwydro, a elwir yn 'sbarblis'. Gwasgwch fwy o byti i mewn i'r uniad rhwng y gwydr a'r ffrâm a'i wasgu ar ffurf befel gan ddefnyddio cyllell byti, a rhowch y gyllell mewn dŵr bob hyn a hyn i'w hatal rhag glynu wrth y pyti. Tynnwch unrhyw byti sydd dros ben o wyneb mewnol y ffenestr a glanhewch unrhyw olion o'r gwydr. Gadewch y pyti am o leiaf wythnos cyn paentio.

-----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Morter sydd ar goll neu'n ddiffygiol rhwng ffrâm y ffenestr a'r wal

Camau i'w cymryd:

Ar ôl diystyru unrhyw broblem strwythurol sylfaenol, llenwch unrhyw fylchau rhwng y ffrâm a'r wal gan ddefnyddio morter calch.

Er mwyn llenwi bylchau sydd hyd at 1" (25mm) o led rhwng ffrâm y ffenestr a'r wal, glanhewch unrhyw ddeunydd rhydd, sgubwch y llwch i ffwrdd a chwistrellwch ddŵr dros y bwlch yn ysgafn i'w wlychu. Llenwch y bwlch i gyd â morter calch wedi'i gymysgu ag agregau garw, gan adael y cymysgedd rhyw ½ i ¾” (10-15mm) yn ôl o wyneb allanol ffrâm y ffenestr. Gadewch y morter am o leiaf ddiwrnod hyd nes iddo ddechrau caledu ac yna llenwch y bwlch sy'n weddill â morter calch yn cynnwys tywod mân. Llenwch y bwlch hyd nes ei fod yn wastad â'r ffrâm ond gofalwch beidio â thaenu morter dros y wal.

Ceisiwch gyngor ar gymysgfeydd morter priodol gan eich cyflenwr.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Ffrâm ffenestr sydd wedi'i hanffurfio

Camau i'w cymryd:

Os anffurfiwyd y ffrâm yn ddiweddar, siaradwch â pheiriannydd strwythurol ac, os oes angen, sefydlogwch y wal. Atgyweiriwch y ffenestr yn hytrach na gosod un newydd yn ei lle.

Gall fframiau ffenestri gael eu hanffurfio'n wael wrth i'r waliau o gwmpas y ffenestr setlo neu os bydd y capan drws yn ddiffygiol. Mae'r anffurfiad hwn i'w weld amlycaf ar ben y ffenestr yn aml. Fel yn achos pob arwydd o symud strwythurol, siaradwch â pheiriannydd strwythurol ac, os oes angen, cymerwch gamau i sefydlogi'r wal.

Gall fframiau wedi'u hanffurfio fod yn broblem fawr gyda ffenestri codi dwbl oherwydd gallant eu hatal rhag cau yn iawn. Yn hytrach na gosod ffenestr newydd, unwaith y bydd y wal wedi'i sefydlogi, bydd saer fel arfer yn gallu addasu'r ffenestr i gyd-fynd yn well â'r ffrâm drwy osod darnau ychwanegol o bren.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Uniadau agored

Camau i'w cymryd:

Atgyweiriwch uniadau, llenwch graciau â llenwydd pren ac ailaddurnwch er mwyn atal dŵr rhag treiddio i mewn i'r pren.

Weithiau bydd uniadau casmentau neu ffenestri codi yn agor, yn enwedig yn y corneli isaf. Gellir sgriwio braced siâp L anfferrus yn ei le fel atgyweiriad dros dro. Llenwch unrhyw graciau â llenwydd pren sy'n addas i'w ddefnyddio y tu allan ac ailaddurnwch gan ddefnyddio paent o ansawdd sy'n cynnwys olew.

----------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Ffenestri casment sy'n methu ag agor

Camau i'w cymryd:

Edrychwch i weld a yw'r ffenestr wedi'i phaentio ar gau, a rhyddhewch y ffenestr os oes angen. Atgyweiriwch golynnau sy'n rhydd neu wedi treulio, neu gosodwch rai newydd yn eu lle.

Os yw'r ffenestr wedi'i phaentio ar gau, rhyddhewch y ffenestr drwy ddefnyddio llafn miniog i dorri o'i chwmpas ar bob ochr fel y bo angen.

Gall colynnau sy'n rhydd neu wedi treulio wneud i gasmentau sy'n hongian ar eu hochr syrthio a dal yn y ffrâm, sy'n eu gwneud yn anodd neu'n amhosibl i'w hagor. Edrychwch i weld a yw sgriwiau'r colyn yn rhydd neu ar goll a gosodwch rai newydd os oes angen. Os yw'r ffrâm wedi hollti y tu ôl i'r colyn, tynnwch y casment a'r colyn, a gludwch yr hollt yn ôl at ei gilydd gan ddefnyddio glud pren sy'n dal dŵr. Ar ôl i'r glud sychu, ailosodwch y colyn a'r casment. Os yw'r colynnau wedi treulio, cyfnewidiwch hwy neu gosodwch rai newydd yn eu lle, gan ddefnyddio colynnau cyfatebol os yw'n bosibl.

Os nad yw'r casment yn agor am ei fod wedi chwyddo, plaeniwch neu sandiwch yr ardal lle y mae'n dal, gan ofalu peidio â chael gwared ar ormod o ddeunydd. Ailaddurnwch ar unwaith i amddiffyn y pren sydd heb ei orchuddio.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Ffenestri codi sy'n methu ag agor

Camau i'w cymryd:

Os nad yw'r broblem yn ddifrifol, rhwbiwch gwyr cannwyll ar hyd yr arwynebau sy'n symud. Os yw'r ffenestri wedi'u paentio neu'u sgriwio ar gau, rhyddhewch hwy, gan sicrhau na fydd y ffenestr uchaf yn disgyn.

Gall ffenestri fethu ag agor am lawer o resymau, ond os nad yw'r broblem yn ddifrifol, bydd rhwbio cwyr cannwyll ar hyd yr arwynebau sy'n symud yn helpu yn aml iawn.

Nid yw pob ffenestr godi yn cynnwys ffenestri dwbl. Mewn rhai, ni fwriadwyd i'r ffenestri uchaf na'r ffenestri ochrol agor o gwbl.

Os bwriadwyd i'r ffenestr agor, ond nad yw'n gwneud hynny, edrychwch i weld a yw'r ffenestri wedi'u paentio neu'u sgriwio ar gau. Rhyddhewch ffenestri sydd wedi'u paentio ar gau drwy ddefnyddio llafn miniog i dorri o'u cwmpas. Gosodwch grafwr paent llydan yn y bwlch rhwng y ffenestr a'r rhimyn atal. Gwnewch yr un peth ar bob ochr o'r ffenestr os oes angen a gwthiwch y ffenestri o ochr i ochr i dorri'r sêl.Cymerwch fwy o ofal wrth ryddhau'r ffenestr uchaf; os yw cordiau'r ffenestr wedi torri, gall y ffenestr ddisgyn yn sydyn. Gwnewch yn siŵr bod pwysau'r ffenestr yn cael ei gynnal yn gywir cyn torri'r sêl.

Gosodwch gordiau ffenestr newydd yn lle rhai sydd wedi torri. Edrychwch i weld a yw'r olwyn bwli wedi cloi, tynnwch unrhyw baent a all fod yn gwneud iddi gloi a defnyddiwch chwistrell iro.

Os yw un o'r rhimynnau atal wedi symud o'i le, gall hyn hefyd olygu bod ffenestr yn methu ag agor gan ei bod yn cael ei dal yn rhy agos i'r rhimyn gwahanu. Er mwyn datrys hyn, defnyddiwch declyn â llafn gwastad i ryddhau'r rhimyn atal a hoeliwch y rhimyn yn ôl yn y safle cywir.

Mae arwyddion o draul ar y cordiau yn arwydd eu bod wedi troelli, sy'n golygu bod y ffenestri yn methu ag agor. Tynnwch y cordiau drwy ddilyn y canllawiau ar osod cordiau ffenestri newydd yn lle rhai sydd wedi torri.  Plaeniwch neu sandiwch yr ardaloedd sydd wedi treulio, ond peidiwch â chael gwared ar ormod o ddeunydd. Ailaddurnwch ar unwaith i amddiffyn y pren sydd heb ei orchuddio.

---------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Ffenestri codi sy'n ddrafftiog neu'n clecian

Camau i'w cymryd:

Gosodwch fesurau atal drafftiau i leihau drafftiau a chlecian. Ystyriwch osod haen arall o wydr i wella perfformiad thermol.

Gall olion traul ar ddarnau ochrol y ffenestr, a elwir yn 'estyll', wneud i'r ffenestr symud yn rhy hawdd yn y ffrâm. Mae nifer o gynhyrchion atal drafftiau masnachol ar gael sy'n hawdd eu gosod ac sy'n gallu gwella perfformiad thermol ffenestri codi yn sylweddol a'u hatal rhag clecian.

Gyda ffenestri sy'n rhydd iawn, bydd saer profiadol fel arfer yn gallu gosod stribedi ychwanegol o bren i ddatrys y broblem hon.

Os yw'r ffenestri yn tueddu i symud i fyny neu i lawr ar eu pen eu hunain, efallai fod y pwysau'n rhy drwm neu'n rhy ysgafn i wrthbwyso pwysau'r ffenestr. Gosodwch bwysau newydd yn eu lle neu ychwanegwch bwysau ychwanegol fel y bo angen. Mae pwysau'r ffenestri uchaf fel arfer ychydig yn drymach na'r ffenestri eu hunain, tra bod pwysau'r ffenestri isaf ychydig yn ysgafnach. Er mwyn cael gafael ar y pwysau, dilynwch y canllawiau ar osod cordiau ffenestri newydd yn lle rhai sydd wedi torri.

Os yw'r cynllun o amgylch y ffenestr yn caniatáu hynny, gall gosod haen arall o wydr fod yn ffordd briodol o arbed mwy o ynni. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr nad ydych yn difrodi blychau cloriau na chiliau neu architrafau wedi'u leinio â phren.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Cordiau ffenestri sydd wedi torri

Camau i'w cymryd:

Tynnwch y ffenestri o'u fframiau a gosodwch gordiau ffenestri newydd yn lle rhai sydd wedi torri. Archwiliwch yr olwynion pwli ac irwch hwy os oes angen.

Mae'n gymharol hawdd gosod cordiau ffenestri newydd yn lle rhai sydd wedi torri gan ddefnyddio offer sylfaenol iawn, ond mae'n rhaid tynnu'r ffenestri o'r ffrâm.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Cloriau sy'n anodd neu'n amhosibl eu hagor

Camau i'w cymryd:

Edrychwch i weld a yw'r cloriau wedi'u paentio ar gau, gan eu rhyddhau os oes angen. Atgyweiriwch golynnau sy'n rhydd neu wedi treulio, neu gosodwch rai newydd yn eu lle.

Gwnaed defnydd helaeth o gloriau plygu mewnol mewn adeiladau Sioraidd a Fictoraidd yn lle llenni. Mae'r cloriau wedi'u gwneud o baneli pren ar golynnau, sy'n plygu yn ôl yn daclus i flychau cloriau yn y ciliau. Pan gaiff y cloriau eu cau yn erbyn y ffenestri, cânt eu dal yn eu lle gan fariau metel. Yn aml, ceir pedwar clawr ar bob ffenestr, dau ar bob ochr.

Os nad yw'r cloriau yn agor o gwbl, efallai eu bod wedi'u paentio ar gau. Torrwch o'u hamgylch gyda llafn miniog ac os oes angen, rhowch grafwr paint llydan yn ofalus yn y bwlch rhwng y clawr a'r ffrâm i'w rhyddhau.

Os yw'n anodd agor y cloriau, edrychwch i weld a yw sgriwiau'r colyn yn rhydd neu ar goll a gosodwch rai newydd yn eu lle os oes angen. Os yw'r colynnau wedi treulio, cyfnewidiwch hwy neu gosodwch rai newydd yn eu lle, gan ddefnyddio colynnau cyfatebol os yw'n bosibl.

Os yw'r broblem yn digwydd am fod y cloriau wedi'u hanffurfio, plaeniwch neu sandiwch y darnau sydd wedi treulio, gan ofalu peidio â thynnu mwy o bren nag sydd ei angen. Ailaddurnwch gan ddefnyddio paent o ansawdd sy'n cynnwys olew.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Paent sydd ar goll neu'n caenu

Camau i'w cymryd:

Gwnewch unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol cyn ailaddurno'r ffenestri. Dylid ailaddurno ffenestri pob tair i bedair blynedd.

Cyn y ddeunawfed ganrif derw a ddefnyddiwyd mewn gwaith coed fel arfer, ond wedi hynny pren pinwydd wedi'i fewnforio a ddefnyddiwyd mewn gwaith coed, gan gynnwys ffenestri, fel arfer. Byddai'r pren pinwydd yn cael ei baentio bob amser bron i'w ddiogelu, ac er ei fod yn boblogaidd ar hyn o bryd, ni ddylid byth tynnu'r paent i ddangos y pren.

Mae paent yn treulio'n naturiol a dylid ailaddurno ffenestri bob tair i bedair blynedd i sicrhau y caiff y pren ei ddiogelu'n dda. Gall dirywiad helaeth neu gynamserol mewn paent awgrymu bod lefel uchel o leithder yn y pren. Archwiliwch gyflwr y waliau sydd gerllaw'r ffenestri a chymerwch gamau i gael gwared ar unrhyw ffynhonnell o leithder cyn ailaddurno.

Wrth ailaddurno, anaml iawn y bydd angen tynnu'r paent i gyd o'r ffenestri. Yn wir, mae'r haenau olynol yn gofnod pwysig o'r newid mewn cynlluniau lliwiau. Cofiwch y gall y gorffeniad paent presennol gynnwys plwm, a ddefnyddiwyd yn helaeth hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl. Bydd llosgi hwn yn rhyddhau mwg gwenwynig, a gall ddifrodi gwydr hanesyddol o bosibl hefyd. Yn yr un modd, bydd ei sandio â phapur llyfnu yn creu llwch niweidiol. Gellir defnyddio tynnwr paent cemegol i gael gwared ar baent plwm, ond mae'n debyg ei bod yn well peidio ag ymyrryd ag ef.

Peidiwch byth â thynnu paent drwy drochi ffenestri mewn soda costig oherwydd gall hyn ddifrodi'r pren a gwanhau'r uniadau.

Ar ôl tynnu unrhyw baent rhydd a gwneud unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol, sandiwch yr arwyneb â phapur llyfnu neu bapur sgraffinydd gwlyb os credir bod plwm yn y paent. Golchwch yr arwyneb â sebon siwgwr, yna golchwch y sebon ymaith â dŵr a gadewch iddo sychu. Rhowch baent preimio ar unrhyw ddarnau o bren noeth a'u haddurno gan ddefnyddio paent o ansawdd sy'n cynnwys olew, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

Gwnewch yn siŵr nad ydych yn paentio dros stribedi drafft, olwynion pwli na chordiau a chadwyni ffenestri. Gadewch ffenestri casment yn gilagored a symudwch ffenestri codi sydd newydd eu paentio wrth iddynt sychu er mwyn eu hatal rhag mynd yn sownd yn y fframiau.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Gwydr rhydd; pyti neu rimynnau coll

Camau i'w cymryd:

Defnyddiwch sment plwm ysgafn i gadw paenau rhydd yn eu lle neu, yn achos ardaloedd bach, defnyddiwch byti olew had llin. Gosodwch byti neu rimynnau newydd yn lle rhai sydd ar goll.

Rhoddir sêl sy'n dal dŵr ar ffenestri plwm drwy wasgu pyti arbennig, a elwir yn 'sment plwm ysgafn', rhwng y plwm a'r gwydr. Fodd bynnag, gall y sment hwn dorri a syrthio allan, gan wneud i'r paenau gwydr, a elwir yn Saesneg yn 'quarries', ddod yn rhydd, gan adael dŵr i mewn.

Gellir cadw paenau rhydd yn eu lle drwy ddefnyddio sment plwm ysgafn masnachol neu, yn achos ardaloedd bach, byti olew had llin wedi'i gymysgu ag ychydig o bolish gratiau du. Gwasgwch rywfaint o'r llenwydd i mewn i'r bwlch rhwng y gwydr a'r rhimyn plwm ar bob ochr i'r ffenestr, gan sicrhau nad ydych yn rhoi'r strwythur dan ormod o bwysau oherwydd gallai hyn anffurfio'r ffenestr. Tynnwch unrhyw lenwydd sydd dros ben gan ddefnyddio teclyn pren bach â blaen iddo. Mae'r math o declyn a ddefnyddir i fodelu clai ac sydd ar gael yn helaeth mewn siopau crefft yn ddelfrydol. Brwsiwch yr uniadau'n drwyadl â brwsh ewinedd cyn sgleinio'r gwydr i gael gwared ar unrhyw olion. Gallwch dywyllu'r plwm os dymunwch drwy ddefnyddio polish gratiau du.

Caiff paenau gwydr plwm eu gosod yn rabedi ffenestri pren gan ddefnyddio sbarblis a phyti olew had llin. Er mwyn eu hatgyfnerthu mewn drysau, fe'u gosodir fel arfer gan ddefnyddio rhimynnau pren wedi'u hoelio i'r ymylon. Gosodwch byti neu rimynnau newydd yn lle rhai sydd ar goll.

-------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Ffenestri plwm sydd wedi byclu, rhimynnau plwm sydd wedi'u difrodi neu rydu neu wydr sydd wedi torri

Camau i'w cymryd:

Mae'n debyg y bydd angen tynnu'r panel i wneud unrhyw atgyweiriadau sylweddol. Cysylltwch ag artist gwydr lliw proffesiynol.

Nid yw rhywfaint o anffurfio mewn ffenestri plwm yn broblem fel arfer, ar yr amod eu bod yn parhau i ddal dŵr ac nad oes arwyddion eraill o ddirywio. Os yw ffenestr wedi byclu, os yw gwydr wedi torri, neu os oes arwyddion o rwd ar y rhimynnau plwm, cysylltwch ag artist gwydr lliw proffesiynol sydd â phrofiad ym maes cadwraeth i gael cyngor.

Gan fod plwm yn ddeunydd mor hyblyg, caiff paneli mwy o faint yn aml eu cysylltu â bariau cyfrwy haearn i'w gwneud yn gadarnach. Caiff y rhain eu gosod yn sownd yn y ffrâm a chaiff gwifrau copr eu sodro i'r rhimynnau plwm a'u plethu o gwmpas y bariau Os oes angen, gellir gosod bariau cyfryw wrth wneud atgyweiriadau eraill.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Rhwd a phaent sy'n caenu; casmentau haearn neu ddur sydd wedi colli eu siâp neu'n dirywio

Camau i'w cymryd:

Ailaddurnwch ffenestri metel bob tair i bedair blynedd, ond yn amlach na hynny os dewch o hyd i rwd. Os ydynt wedi rhydu'n wael, gofynnwch i of profiadol am gyngor.

Mae ffenestri haearn a dur yn gallu rhydu. Defnyddiwch frwsh weiars neu bapur sgraffinydd gwlyb i gael gwared ar rwd a phaent rhydd os credir bod plwm yn y paent. Ceisiwch wneud arwyneb paent graenus yn fwy garw a'i olchi i gael gwared ar faw a saim, a gadewch iddo sychu'n gyfan gwbl cyn ailaddurno'r ffenestr gan ddefnyddio paent o ansawdd sy'n cynnwys olew. Gwnewch yn siŵr nad oes rhwd ar y colynnau a'u bod wedi'u hiro'n dda.

Os nad yw'r tywydd yn addas i ailaddurno, rhowch haen o olew had llin i amddiffyn unrhyw fetel noeth.

Dylid osgoi defnyddio deunyddiau anhraddodiadol sy'n creu bondiau cemegol gyda'r haearn gan eu bod yn tolcio'n hawdd ac ni ellir cael gwared arnynt na phaentio drostynt gan ddefnyddio paent mwy traddodiadol. Os yw'r ffenestr wedi rhydu'n ddifrifol neu os yw'r casment wedi anffurfio neu wedi colli ei siâp, gofynnwch i of profiadol am gyngor.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Glaw yn dod i mewn o dan y drws.

Camau i'w cymryd:

Sgriwiwch astell dywydd ar waelod wyneb allanol y drws.

Darn trionglog o bren yw astell dywydd sydd â rhigol wedi'i naddu yn y gwaelod. Mae'n dal dŵr gan wneud iddo ddiferu i ffwrdd oddi wrth y drws. Gellir prynu estyll tywydd parod yn y rhan fwyaf o siopau cyflenwi adeiladwyr a'u torri i'r maint cywir.

--------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Drysau sy'n ddrafftiog neu'n clecian

Camau i'w cymryd:

Gosodwch rimynnau drafft ar ddrysau rhydd er mwyn eu hatal rhag clecian ac arbed mwy o ynni.

Mae amrywiaeth o rimynnau drafft masnachol ar gael y gellir eu torri i'r maint cywir a'u gosod ar ddrysau. Gyda'r drws ar gau, mesurwch y bwlch lletaf y mae angen ei lenwi a dewiswch gynnyrch priodol.

--------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Drysau sy'n methu ag agor

Camau i'w cymryd:

Atgyweiriwch golynnau sy'n rhydd neu wedi treulio, neu gosodwch rai newydd yn eu lle. Edrychwch am baent sydd wedi cronni neu bren sydd wedi chwyddo ac os gwelwch achosion o'r fath, cymerwch gamau i fynd i'r afael â hwy.

Gall drysau fynd yn sownd am sawl rheswm. Edrychwch i weld a yw'r colynnau yn rhydd gan wneud i'r drws ddisgyn rhyw fymryn. Gosodwch sgriwiau newydd os oes angen. Os yw'r colynnau wedi treulio, efallai y bydd eu cyfnewid yn gallu helpu. Defnyddiwch golynnau cyfatebol os oes angen gosod rhai newydd.

Os na fydd y drws yn cau'n iawn, efallai mai haenau olynol o baent sy'n gyfrifol am hyn, a dylid cael gwared arnynt. Fel arall, os mai dim ond mewn tywydd llaith y mae'r drws yn mynd yn sownd, efallai fod lleithder yn mynd i mewn i'r pren gan wneud iddo chwyddo. Efallai y bydd angen i chi dynnu'r drws o'r ffrâm i wneud hyn, ond plaeniwch yr ymyl sy'n mynd yn sownd ac ailaddurnwch y pren noeth cyn gynted â phosibl. Cofiwch roi paent preimio ar y pren noeth cyn ei baentio â phaent o ansawdd sy'n cynnwys olew.

-----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Ffenestri linter - Gwydr wedi torri; paent sy'n caenu neu wedi treulio.

Camau i'w cymryd:

Rhowch baenau newydd mewn ffenestri linter pren neu haearn bwrw yn lle rhai sydd wedi torri. Cyflogwch artist gwydr lliw i atgyweirio difrod i ffenestri plwm. Ailaddurnwch ffenestri linter bob tair i bedair blynedd.

Caiff y panel gwydr sefydlog ar ben drws mewn prif fynedfa ei alw yn 'ffenestr linter'. Cyflwynwyd ffenestri linter am y tro cyntaf yn y ddeunawfed ganrif ac maent yn gyffredin iawn mewn adeiladau Sioraidd a Fictoraidd. Maent ar siâp hanner cylch neu hirsgwar. Maent yn hynod o addurnol yn aml iawn ac fe'u cysylltir bron bob tro â fframiau drysau addurnol. Byddai pobl oes Fictoria yn aml yn gwydro eu ffenestri linter â ffenestri plwm a oedd yn cynnwys enw neu rif y tŷ.

Yn wahanol i ffenestri eraill, caiff ffenestri linter o bren neu haearn bwrw eu gwydro o'r tu mewn, felly gellir gwneud atgyweiriadau yn hawdd. Wrth osod paen newydd yn lle un sydd wedi torri, ceisiwch osgoi difrodi'r strwythur drwy feddalu pyti caled gan ddefnyddio tynnwr paent cemegol cyn ei dynnu'n rhydd â gaing neu gyllell byti. Mowldiwch belen o byti olew had llin hyd nes ei fod yn llyfn gan greu stribyn tenau a gwasgwch y stribyn hwn o amgylch ymyl yr agoriad. Gosodwch y paen newydd o wydr ar y pyti. Dylai'r gwydr fod yr un fath â'r gwreiddiol o ran math a thrwch a dylai fod fymryn bach yn llai na maint yr agoriad. Yn achos ffenestri linter pren, gosodwch y paen yn ei le gan ddefnyddio hoelion gwydro, a elwir yn 'sbarblis'. Gwasgwch fwy o byti i mewn i'r uniad rhwng y gwydr a'r ffrâm a'i wasgu ar ffurf befel gan ddefnyddio cyllell byti, a rhowch y gyllell mewn dŵr bob hyn a hyn i'w hatal rhag glynu wrth y pyti. Tynnwch unrhyw byti sydd dros ben o wyneb allanol y ffenestr a glanhewch y gwydr fel nad oes unrhyw olion i'w gweld. Gadewch y pyti am o leiaf wythnos cyn paentio.

Ailaddurnwch ffenestri linter pren a haearn bwrw bob tair i bedair blynedd i ddiogelu'r bariau gwydro. Defnyddiwch baent o ansawdd sy'n cynnwys olew.

Os yw ffenestr blwm wedi ei difrodi, dylid gofyn i artist gwydr lliw sydd â phrofiad ym maes cadwraeth wneud yr atgyweiriadau.

Mae'r arddull fodern o ddrysau modern sy'n cynnwys ffenestr linter yn y rhan uchaf yn edrych yn hollol anghydnaws mewn hen adeilad gan nad oes cynsail hanesyddol i'r nodwedd hon.

-------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Mân bydredd, paent sydd ar goll neu'n caenu

Camau i'w cymryd:

Gwnewch unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol, ailosodwch unrhyw fowliadau rhydd a llenwch graciau a bylchau cyn ailaddurno. Ailaddurnwch bob tair i bedair blynedd.

Mae paent yn treulio'n naturiol a dylid ailaddurno drysau a fframiau drysau allanol bob tair i bedair blynedd i sicrhau y caiff y pren ei ddiogelu'n dda. Gall dirywiad helaeth neu gynamserol mewn paent awgrymu bod lefel uchel o leithder yn y pren. Archwiliwch gyflwr unrhyw blwm dros y canopi neu ffrâm y drws am ollyngiadau a sicrhewch fod y waliau gerllaw'r drws yn sych. Hefyd, sicrhewch y gall dŵr ddraenio i ffwrdd yn rhydd o waelod ffrâm y drws a newidiwch lefel y ddaear os oes angen. Cymerwch gamau i gael gwared ar unrhyw ffynhonnell o leithder cyn ailaddurno.

Wrth ailaddurno drysau, anaml iawn y bydd angen tynnu'r paent i gyd. Yn wir, mae'r haenau olynol yn gofnod pwysig o'r newid mewn cynlluniau lliwiau. Cofiwch y gall y gorffeniad paent presennol gynnwys plwm, a ddefnyddiwyd yn helaeth hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl. Bydd ei losgi yn rhyddhau mwg gwenwynig. Yn yr un modd, bydd ei sandio â phapur llyfnu yn creu llwch niweidiol Gellir defnyddio tynnwr paent cemegol i gael gwared ar baent plwm, ond mae'n debyg ei bod yn well peidio ag ymyrryd ag ef.

Peidiwch byth â thynnu paent oddi ar ddrysau drwy eu trochi mewn soda costig oherwydd gall hyn ddifrodi'r pren, gwanhau'r uniadau a gwneud i'r drysau anffurfio.

Os tynnir y paent, triniwch y pren sydd heb ei orchuddio â deunydd cadw pren. Torrwch allan ardaloedd bach o bydredd gwlyb a llenwch hwy â llenwydd system dau becyn. Hoeliwch unrhyw fowldiadau rhydd yn ôl yn eu lle a llenwch unrhyw graciau.

Ar ôl diystyru unrhyw broblem strwythurol sylfaenol, llenwch unrhyw fylchau hyd at 1" (25mm) o led rhwng ffrâm y drws a'r wal gan ddefnyddio morter calch. Glanhewch unrhyw ddeunydd rhydd, sgubwch y llwch i ffwrdd a chwistrellwch ddŵr dros y bwlch yn ysgafn i'w wlychu. Llenwch y bwlch yn dynn â morter calch wedi'i gymysgu ag agregau garw, gan adael y cymysgedd rhyw ½ i ¾” (10-15mm) yn ôl o wyneb allanol ffrâm y ffenestr. Gadewch y morter am o leiaf ddiwrnod hyd nes iddo ddechrau caledu ac yna llenwch y bwlch sy'n weddill â morter calch yn cynnwys tywod mân. Llenwch y bwlch hyd nes ei fod yn wastad â'r ffrâm ond sicrhewch nad ydych yn taenu morter dros y wal. Ceisiwch gyngor ar gymysgfeydd morter priodol gan eich cyflenwr.

Ar ôl gwneud unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol, tynnwch unrhyw baent rhydd sydd ar ôl a sandiwch yr arwyneb â phapur llyfnu neu bapur sgraffinydd gwlyb os credir bod plwm yn y paent presennol. Golchwch yr arwyneb â sebon siwgwr, yna golchwch y sebon ymaith â dŵr a gadewch iddo sychu. Rhowch baent preimio ar unrhyw ddarnau o bren noeth a'u haddurno gan ddefnyddio paent o ansawdd sy'n cynnwys olew, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Drysau neu fframiau drysau sydd wedi'u hanffurfio, wedi pydru neu wedi'u difrodi.

Camau i'w cymryd:

Os yw drysau neu fframiau drysau wedi'u hanffurfio, wedi pydru neu wedi'u difrodi'n wael, siaradwch â saer profiadol.

Mae drysau a fframiau drysau yn cyfrannu'n sylweddol at gymeriad adeilad hanesyddol a dylid gwneud pob ymdrech i gadw'r nodweddion hyn. Os yw drws wedi'i anffurfio, wedi pydru neu wedi'i ddifrodi'n wael, siaradwch â saer bob tro i gael cyngor ar y dewisiadau sydd ar gael i'w atgyweirio yn hytrach na gosod un newydd yn ei le.