Skip to main content

Mae'n hawdd cymryd waliau cadarn a sefydlog eich adeilad hanesyddol, sydd weithiau'n ganrifoedd oed, yn ganiataol.Ond, mae angen cynnal a chadw ac atgyweirio muriau yn ofalus er mwyn diogelu'r hyn y maent yn ei ddweud wrthym am draddodiadau adeiladu rhanbarthol neu newidiadau hanesyddol, fel y defnydd cynyddol o frics yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sicrhewch eich bod yn defnyddio deunyddiau a thechnegau sy'n cyfateb i'r gwreiddiol ar gyfer unrhyw atgyweiriadau, a pheidiwch â chyflwyno deunyddiau modern anaddas a allai fod yn niweidiol, megis sment yn lle morter calch. Mae gorffeniadau traddodiadol megis gwyngalch yn edrych yn well na deunyddiau modern, ac maent hefyd yn gadael i'ch adeilad anadlu

Cyn dyfodiad y rheilffordd i Gymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, roedd adeiladwaith adeiladau yn dibynnu ar y deunyddiau oedd ar gael yn lleol fel arfer. Roedd cludo deunyddiau ar y ffordd, ar y môr neu ar afonydd yn ddrud a dim ond mewn adeiladau â statws uchel, fel tai bonedd ac eglwysi, y defnyddiwyd deunyddiau wedi'u mewnforio, gan gynnwys cerrig Bath.

Yn sgil y ddibyniaeth hon ar ddeunyddiau lleol, datblygwyd arddulliau adeiladu rhanbarthol gwahanol ac unigryw ledled Cymru. Mae adeiladau ffrâm bren, er enghraifft, yn gyffredin iawn yn y Gororau, sydd ar y ffin â Lloegr, oherwydd roedd cyflenwad cyson o goed derw aeddfed ar gael yno hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Amrywiai arddulliau fframiau pren o baneli ffrâm blwch syml i byst parwydydd clos addurnol iawn. Mewn cyferbyniad, gwahanol fathau o gerrig yw'r prif ddeunydd adeiladu yng ngogledd-orllewin, de-orllewin a de-ddwyrain Cymru. Eto i gyd, mae gan bob math o garreg ei nodweddion ei hun, sy'n arwain at amrywiaeth o arddulliau adeiladu. Mae'r gwaith cerrig haenog, taclus sydd i'w weld yn Aberteifi, er enghraifft, yn edrych yn wahanol iawn i'r rhesi o waliau o gerrig llanw gwahanol a geir yn Eryri, ond mae pob un yn edrych yn iawn yn ei gynefin.

Roedd y ffordd y câi cerrig eu trin a'u gorffennu yn amrywio yn ôl y math o garreg, ond hefyd yn ôl statws y tŷ, ac roedd gorffeniad coethach yn dynodi mwy o fuddsoddiad yn y broses adeiladu. Dylanwadodd newidiadau mewn ffasiwn hefyd ar olwg gwaith cerrig, wrth i'r defnydd helaeth o wyngalch neu rendr gael ei ddisodli gan awydd am gerrig agored. Roedd y defnydd o bridd (clom) at ddibenion adeiladu yn fwy cyfyngedig o ran ei ddosbarthiad, a dim ond mewn ardaloedd lle'r oedd pren a cherrig yn brin y'i defnyddiwyd. Roedd mwd wedi'i gymysgu â gwellt yn ddeunydd cadarn, os câi ei ddiogelu'n dda, a hynny fel arfer â gwyngalch yn ogystal â tho da.

Daethpwyd i ddibynnu llai ar ddeunyddiau lleol yn sgîl masgynhyrchu a dyfodiad y rheilffyrdd, ond serch hynny gwnaeth amrywiaeth rhanbarthol oroesi'n rhyfeddol o dda. Roedd gweithgynhyrchwyr, fel Edwards o Riwabon, yn ddylanwad mawr ar arddull bensaernïol oes Fictoria ac oes Edward ledled Cymru a thu hwnt. Ni ddefnyddiwyd brics na theils yn helaeth yng Nghymru tan y cyfnod hwn, ond roedd yr amrywiaeth enfawr o gynhyrchion hynod o addurnol, ond safonedig, a ddaeth ar gael yn eang yn ddewis amgen rhad yn lle deunyddiau lleol. Mae trefi fel Llandudno a Llandrindod, er enghraifft, yn dangos yn glir natur amlbwrpas a gwydnwch clai wedi'i danio. Er gwaethaf hyn, defnyddiwyd deunyddiau lleol - yn enwedig cerrig adeiladu - o hyd drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae amrywiadau rhanbarthol sylweddol hefyd yn y ffordd y defnyddiwyd deunyddiau wedi'u masgynhyrchu.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Llystyfiant yn tyfu mewn waliau

Camau i'w cymryd:

Dylech gael gwared ar lystyfiant cyn gynted â phosibl.

Gall llwyni, coed ifanc ac iorwg sy'n hau eu hunain, achosi difrod difrifol os gadewir iddynt dyfu yn ddirwystr. Dylid trin tyfiant ymledol na ellir cael gwared arno â llaw heb ddifrodi'r uniadau morter â chwynladdwr systemig a'i adael i farw a chwympo. Os ydych yn cymysgu'r chwynladdwr eich hun gan ddefnyddio crynodiad, ychwanegwch rywfaint o hylif golchi llestri i weithredu fel cyfrwng gwlychu.

Mae twf llystyfiant yn aml yn arwydd bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw arall i lenwi craciau a thyllau lle y gall hadau fynd yn sownd.

Gall planhigion dringo addurnol, fel wisteria neu flodau seithliw, annog lleithder a gall gwreiddiau rhywogaethau sydd wedi hen ymsefydlu danseilio sylfeini wal gerrig, yn enwedig os ydynt yn fas. Er y gall perchenogion fod yn amharod i symud unrhyw enghreifftiau aeddfed o blanhigion addurnol, efallai na fydd modd osgoi hyn os ydynt yn achosi problemau difrifol o ran cynnal a chadw.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Arwyddion o leithder ar waliau allanol neu fewnol

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch eich adeilad yn ofalus y tu mewn a'r tu allan am arwyddion o leithder gan gynnwys darnau llaith, staeniau dŵr neu rwd, a thyfiant llwydni neu algâu. Ceisiwch ganfod yr hyn sy'n achosi'r lleithder a'i drin yn briodol.

Gellir datrys llawer o broblemau o ran lleithder drwy wneud gwaith cynnal a chadw syml, felly archwiliwch yr adeilad yn drylwyr. Os dewch o hyd i leithder, mae'n hollbwysig eich bod yn canfod yr hyn sy'n ei achosi ac yn mynd i'r afael ag ef ar unwaith.

Yn aml, camddehonglir y rheswm dros leithder, gan arwain at ymyriadau aneffeithiol sydd weithiau'n ddrud. Argymhellir yn aml mai'r ateb i leithder codi yw gosod cwrs gwrthsefyll lleithder neu 'dancio' wyneb mewnol waliau allanol, er enghraifft. Er mai dyma'r unig opsiwn y gellid ei ddewis mewn rhai achosion, nid lleithder codi yw gwraidd y broblem yn aml iawn - yn syml, gall y broblem godi am fod lefel y ddaear allanol wedi codi'n uwch na lefel y llawr mewnol neu'n uwch na fentiau sydd o dan y llawr.

Archwiliwch waliau mewnol ac allanol yn ofalus, gan gynnwys waliau yng ngofod y to os oes angen, i ddod o hyd i ffynhonnell y dŵr. Os caiff lleithder ei ddal y tu ôl i ddeunyddiau anhydraidd, bydd yn teithio drwy'r wal, gan ddod i'r amlwg mewn man lle ceir arwyneb mwy hydraidd. Bydd hyn yn digwydd ar wyneb mewnol y wal fel arfer. O ganlyniad, ni fydd y darn llaith yn ymddangos yn y fan lle mae'r broblem o reidrwydd.

Ymhlith y ffactorau cyffredin sy'n achosi lleithder mae:

• diffygion yn y to, simneiau neu system gwaredu dŵr glaw

• gwaith pwyntio diffygiol neu gerrig rhydd

• lefelau tir dyrchafedig, fentiau a brics aer wedi'u blocio o dan y llawr

• anwedd

• lleithder mewn sment a deunyddiau anhydraidd eraill

• lleithder mewn waliau ceudod

• presenoldeb halennau hygrosgopig.

Mewn hen adeiladau, bydd mesuryddion lleithder trydan bron bob amser yn rhoi darlleniadau uchel ar gyfer waliau isel oherwydd anwedd. Ond, mae'r darlleniadau hyn yn aml yn golygu y caiff y rheswm dros leithder codi ei gamddehongli. Os na allwch ddod o hyd i ffynhonnell y broblem a bod angen mwy o gyngor arnoch, cysylltwch â syrfëwr annibynnol sy'n arbenigo mewn lleithder a phydredd pren, yn hytrach na chwmni sy'n gwerthu triniaethau gwrthsefyll lleithder. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y diagnosis yn gywir, a gall hyn arbed yr arian a'r drafferth sy'n gysylltiedig â gwelliannau diangen.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Achosion lleithder - Diffygion yn y to, simneiau neu system gwaredu dŵr glaw

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch gyflwr y to, y simneiau a'r system gwaredu dŵr glaw a chywirwch unrhyw ddiffygion.

Diffygion yn yr ardaloedd hyn yw'r achosion mwyaf cyffredin o broblemau lleithder mewn mannau penodol.

• toeon

• simneiau

• systemau gwaredu dŵr glaw

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Achosion lleithder - Gwaith pwyntio diffygiol neu gerrig rhydd

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch gyflwr y waliau yn gyffredinol, gan dalu sylw arbennig i barapetau, cerrig copa a thalcennau dyrchafedig. Gosodwch gerrig newydd yn lle rhai rhydd gan ddefnyddio morter calch i wneud gwaith ailbwyntio fel y bo angen.

Gall cerrig rhydd neu gerrig coll ac uniadau cerrig agored adael dŵr i mewn. Os mai mewn un ardal mae'r broblem, ailosodwch gerrig unigol a gwnewch waith ailbwyntio fel y bo angen. Defnyddiwyd morter calch i adeiladu'r rhan fwyaf o adeiladau a godwyd cyn dechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'n bwysig defnyddio deunyddiau cyfatebol i wneud atgyweiriadau dilynol. Dylid llenwi tyllau dwfn neu uniadau llydan mewn gwaith cerrig gan ddefnyddio morter a cherrig bach, a elwir yn 'galettes' neu 'pinnings', cyn gwneud gwaith pwyntio.

Ar barapetau, cerrig copa a thalcenni dyrchafedig, os yw'r lleithder yn parhau, efallai y bydd angen gosod cwrs gwrthsefyll lleithder plwm i amddiffyn y wal yn fwy. Fel arfer, bydd hyn yn galw am ailadeiladu ychydig gyrsiau uchaf y gwaith cerrig neu ailosod cerrig copa.

Osgowch gynhyrchion sy'n honni eu bod yn selio gwaith cerrig neu'n helpu i wrthsefyll dŵr oherwydd nid ydynt yn effeithiol yn aml iawn a gallant waethygu'r broblem drwy ddal lleithder yn y gwaith cerrig neu'r gwaith brics.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Achosion lleithder - Lefelau tir dyrchafedig, fentiau neu frics aer wedi'u blocio o dan y llawr

Camau i'w cymryd:

Os yw'n bosibl, gwnewch yn siŵr bod lefel y tir allanol yn is na lefel y tir mewnol a chliriwch unrhyw fentiau a brics aer o dan y llawr sydd wedi'u blocio.

Symudwch lystyfiant a gwnewch yn siŵr nad yw pridd yn cronni wrth waelod waliau neu'n uwch na lefel fentiau o dan y llawr. Osgowch storio deunyddiau'n agos at yr adeilad oherwydd gall hyn amharu ar yr awyru.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Achosion lleithder - Anwedd

Camau i'w cymryd:

Rheolwch leithder drwy awyru'r adeilad yn well drwy agor ffenestri neu ddefnyddio ffaniau echdynnu.

Mae anwedd yn aml yn cael ei gamgymryd am leithder treiddiol. Caiff ei achosi gan leithder yn yr atmosffer yn anweddu ar yr arwyneb oeraf yn yr ystafell.

Ni fydd ychydig bach o anwedd yn achosi unrhyw niwed fel arfer gan y bydd yn anweddu unwaith y bydd yr arwyneb yn cynhesu. Fodd bynnag, mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu hawyru'n dda neu adeiladau sydd ond yn cael eu gwresogi'n achlysurol, mae anwedd yn fwy tebygol o ddigwydd yn aml neu dros gyfnod estynedig o amser. Gall hyn arwain at lwydni, paent sy'n pilio a phydredd ar arwynebau llaith.

Ni fydd cynyddu'r tymheredd yn datrys y broblem gyfan. Yn wir, gall waethygu'r anwedd oherwydd bydd 'lleithder cymharol' yr atmosffer yn uwch. Gall aer cynnes gario mwy o anwedd dŵr nag aer oer, sy'n golygu bod mwy o ddŵr ar gael i anweddu ar arwynebau oer.

Ceisiwch reoli lleithder drwy osgoi amrywiadau mawr mewn tymheredd, tynnu aer llaith o geginau ac ystafelloedd ymolchi drwy agor ffenestri neu ddefnyddio ffaniau echdynnu, a gwella'r awyru yn gyffredinol.

Os yw'r anwedd yn ffurfio mewn mannau penodol, edrychwch i weld a oes problem sylfaenol â threiddiad lleithder, fel pibell ddŵr wedi hollti, sy'n golygu bod y rhan honno o'r wal yn oerach na phobman arall, gan annog anwedd dŵr i anweddu yn y fan honno.

-----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Achosion lleithder - Lleithder a gaiff ei ddal gan sment neu ddeunyddiau anhydraidd eraill

Camau i'w cymryd:

Defnyddiwch gynhyrchion calch yn lle deunyddiau anhydraidd.

Os nad yw'r lleithder yn dod o ffynhonnell amlwg, fel pibell ddŵr sydd wedi torri, efallai fod y broblem yn deillio o effeithiau deunyddiau anhydraidd.

Mewn adeiladau traddodiadol â systemau draenio effeithiol a waliau cadarn o forter pridd neu galch, rheolir lleithder gan allu'r waliau i amsugno ychydig bach o ddŵr o'r ddaear, neu'r atmosffer, a'i ryddhau drachefn drwy anweddu heb achosi unrhyw ddifrod. Mae trwch y strwythur yn atal lleithder rhag treiddio drwy'r wal gyfan. Fel arfer, rhoddir rendr calch neu sawl haen o wyngalch ar wal allanol yr adeilad i'w hamddiffyn ymhellach. Mae'r deunyddiau hyn yn gweithredu fel côt uchaf, yn hytrach na chôt law, gan eu bod yn ddeunyddiau sy'n anadlu hefyd ac yn gadael i unrhyw leithder yn y strwythur ddianc.

Yn fewnol, caiff ychydig bach o leithder ei amsugno drwy orffeniadau mandyllog, gan gynnwys gwyngalch neu ddistemper (hen fath o baent a wnaed o sialc a glud) dros blastr calch. Mae ffynonellau awyru naturiol, fel tannau agored a ffenestri a drysau heb eu selio, yn gadael i leithder ddianc drachefn heb achosi problemau.

Mewn cyferbyniad â hyn, mae technegau adeiladu modern yn dibynnu ar rwystrau a seliau lleithder i atal lleithder rhag mynd i mewn i adeilad. Os oes lleithder mewn adeilad hanesyddol, mae'n digwydd yn aml am fod deunyddiau anhydraidd wedi'u cyflwyno, fel paentiau acrylig a phlastr gypswm, sy'n golygu na all y waliau solet anadlu mwyach. Mae rendrau sment a gwaith pwyntio sment modern yn arbennig o niweidiol. Mae sment yn galed, yn anhyblyg, yn fregus ac yn anhydraidd. Mae rendr sment yn tueddu i gracio, a gall lleithder gael ei dynnu i mewn i'r deunydd sylfaenol drwy gapilaredd. Unwaith y bydd y tu mewn i'r deunydd, caiff y lleithder ei ddal yno gan arwain at ddiffygion yn y rendr a dirywiad yn neunydd y waliau. Mae rhew a phresenoldeb halennau sydd wedi hydoddi yn y lleithder ond yn cyflymu'r pydredd hwn. Os yw'r broblem yn ddifrifol neu wedi bodoli ers tro, gall y lleithder dreiddio drwy'r wal gyfan gan bydru capanau drysau pren a phob pen i ddistiau a thrawstiau to.

Os mai sment neu ddeunyddiau anhydraidd eraill sy'n achosi'r broblem, dylid cael gwared arnynt lle bo hynny'n bosibl gan ddefnyddio cynhyrchion calch yn eu lle. Yn yr un modd, gall gosod lloriau sment a philenni gwrthsefyll lleithder newid yr amodau amgylcheddol, gan orfodi lleithder i mewn i waliau a fyddai wedi anweddu drwy'r lloriau fel arall.

-----------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Achosion lleithder - Sbwriel mewn waliau ceudod

Camau i'w cymryd:

Symudwch un neu ddau o'r brics yn ofalus, cliriwch y sbwriel, ac ailosodwch y brics gan ddefnyddio morter cyfatebol.

Os na ellir nodi unrhyw reswm arall dros leithder ar wyneb mewnol wal geudod, efallai fod sbwriel adeiladwyr wedi'i ddal rhwng y ddwy haen o frics. Mae sbwriel yn y ceudod yn gweithredu fel pont gan ei gwneud yn bosibl i leithder gyrraedd wyneb mewnol y brics. Unwaith y bydd hyn wedi'i gadarnhau, yr unig ateb hirdymor yw symud un neu ddau o'r brics yn ofalus, clirio'r sbwriel ac ailadeiladu'r wal.

------------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Achosion lleithder - Halennau hygrosgopig yn amsugno lleithder o'r aer

Camau i'w cymryd:

Gall lleithder wneud i halennau sy'n bresennol mewn gwaith cerrig symud i'r arwyneb. Ewch i'r afael â ffynhonnell y lleithder a defnyddiwch frwsh i gael gwared ar grisialau halen wrth iddynt ffurfio.

Gall halennau o'r fath fod yn llaith o hyd, hyd yn oed ar ôl cael gwared ar ffynhonnell wreiddiol y lleithder. Gall hon fod yn broblem arbennig i simneiau nad ydynt yn cael eu defnyddio, gan achosi lleithder a staeniau ar wyneb mewnol y brestyn simnai.

Mewn amodau sych bydd halennau yn aml yn crisialu fel ardaloedd gwlanog gwyn ar wyneb mewnol y wal. Dylid brwsio'r rhain i ffwrdd, nid eu golchi i ffwrdd. Os yw'r broblem yn ddifrifol, ceisiwch gyngor gan bensaer cadwraeth neu syrfëwr.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Brics, cerrig neu derracotta sydd wedi'u difrodi neu sy'n dirywio

Camau i'w cymryd:

Dylech gael gwared ar gerrig, brics neu ddarnau terracotta unigol sydd wedi'u difrodi, gan osod rhai cyfatebol yn eu lle. Gosodwch hwy yn eu lle a defnyddiwch forter cyfatebol i wneud gwaith ailbwyntio, sef morter calch yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae cerrig, brics a therracotta yn agored i effeithiau glaw, gwynt a rhew, ac mae deunyddiau gwahanol yn amrywio'n fawr o ran eu gwydnwch.

Yn draddodiadol caiff y rhain eu gosod a'u pwyntio gan ddefnyddio morter calch sydd ychydig yn wannach na'r deunydd adeiladu. Mae'n hyblyg, fel y gall y strwythur ymdopi â symudiadau bach dros amser. Mae'n hydraidd hefyd, sy'n golygu y gall unrhyw leithder a halennau sydd wedi hydoddi symud i'r uniadau lle gall y dŵr anweddu yn hawdd a lle gall yr halennau grisialu heb wneud niwed sylweddol. Er bod morter calch yn gweithredu fel elfen aberthol ac y bydd angen ailbwyntio'r gwaith cerrig o bryd i'w gilydd, mae hyn yn llawer haws na newid y deunydd adeiladu ei hun.

Gall defnyddio sment yn lle morter calch achosi erydu difrifol mewn brics, terracotta a cherrig gan ei fod yn dal lleithder i mewn. Gan fod sment yn gymharol anhydraidd, gall dŵr sydd wedi'i ddal gael ei sugno i mewn i gerrig neu frics mwy mandyllog a, thrwy brosesau rhew a phrosesau eraill, gall wneud i'w harwynebau agored dorri yn asglodion neu gaenu.

Mae sment yn galed ac yn anhyblyg hefyd, sy'n golygu nad yw'r strwythur yn ddigon hyblyg. Bydd yn cracio o dan bwysedd, ond os yw'r fricsen neu'r garreg yn wannach na'r morter, fel sy'n digwydd yn aml, byddant hwy yn torri yn lle'r sment.

Caiff terracotta ei gynhyrchu o flociau gwag wedi'u mowldio a gaiff eu llenwi â choncrid a'u gosod gyda'i gilydd gan ddefnyddio gosodiadau haearn neu ddur. Mae'n ddeunydd hynod o wydn ar yr amod nad oes dŵr yn treiddio i mewn iddo. Fodd bynnag, unwaith y bydd lleithder yn mynd i mewn iddo, gall y gosodiadau rydu ac ehangu, gan wneud i'r blociau gracio. Gall arwyneb y blociau gael ei ddifrodi hefyd o ganlyniad i brosesau tanio annigonol neu addurniadau gorgymhleth yn y mowldiadau, sy'n gallu torri i ffwrdd. Efallai y gellir atgyweirio craciau gan ddefnyddio glud epocsi, ond efallai y bydd angen gosod atgynyrchiadau o flociau yn lle'r rhai sydd wedi'u difrodi'n ddifrifol. Gellir cael atgynyrchiadau o flociau terracotta gan gyflenwyr arbenigol, ond gofynnwch am gyngor ar y dull mwyaf priodol o'u hatgyweirio.

Gall cerrig, brics neu flociau terracotta unigol sydd wedi'u difrodi gael eu torri allan yn ofalus a gellir gosod darnau newydd yn eu lle gan ddefnyddio morter calch. Gwnewch yn siŵr bod y darnau newydd rydych yn eu gosod yn debyg i'r deunydd gwreiddiol o ran maint, lliw, gorffeniad a chryfder.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Gwaith pwyntio sydd wedi'i ddifrodi neu ar goll; cerrig rhydd

Camau i'w cymryd:

Gwnewch waith pwyntio newydd yn lle gwaith pwyntio sydd wedi'i ddifrodi neu ar goll ac ailosodwch gerrig rhydd gan ddefnyddio morter calch.

Gall gwaith pwyntio diffygiol a cherrig rhydd annog lleithder, a dylid gwneud gwaith atgyweirio gan ddefnyddio morter calch.

-------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Arwyddion o symudiadau, chwyddau a chraciau

Camau i'w cymryd:

Os oes craciau neu chwyddau wedi datblygu yn ddiweddar neu os ydynt yn tyfu'n fwy, siaradwch â pheiriannydd strwythurol i ganfod yr achos a chymryd y camau angenrheidiol.

Bydd llawer o hen adeiladau wedi cael cyfnod setlo yn fuan ar ôl iddynt gael eu hadeiladu a byddant wedi sefydlogi dros amser. Mae craciau yn gallu edrych yn wael, ond efallai mai hen broblem yw'r symudiadau. Mae llwch yn tueddu i setlo mewn hen graciau dros amser gan wneud iddynt ymddangos yn dywyllach, tra bod craciau newydd yn tueddu i edrych yn lân a gallant gynnwys darnau o gerrig neu blastr.

Ceisiwch fod yn ymwybodol o atgyweiriadau blaenorol a wnaed o bosibl gan ddefnyddio deunyddiau amhriodol neu y bwriadwyd iddynt fod yn atebion byrdymor yn unig. Bydd angen monitro gwaith o'r fath yn ofalus. Chwiliwch hefyd am graciau ac arwyddion o symudiadau, yn enwedig rhwng deunyddiau gwahanol neu gerllaw addasiadau blaenorol, fel y safle lle tynnwyd waliau i lawr, lle gosodwyd drysau newydd neu lle gosodwyd ffenestr. Mae craciau trwch blewyn yn digwydd yn aml am fod y plastr yn crebachu, ond gall craciau mwy o faint fod yn arwydd o broblem fwy difrifol.

Ceisiwch ganfod elfennau'r adeilad sy'n dal pwysau a'r waliau croes sy'n helpu i glymu'r strwythur ynghyd. O'r tu allan, aseswch pa mor fertigol yw'r waliau i'r llygad ac edrychwch y tu mewn i'r adeilad am fylchau rhwng ymyl yr estyll llawr a'r wal allanol, yn ogystal â chraciau yn y plastr lle mae'r wal allanol yn ymuno â'r nenfwd ac unrhyw bartisiynau mewnol. Gall craciau yn yr ardaloedd hyn awgrymu bod y wal yn symud tuag allan. Gwelir craciau yn aml wrth yr uniad rhwng waliau gwreiddiol ac estyniadau diweddarach o ganlyniad i'r cyfnodau setlo gwahanol, ond nid yw'r rhain yn destun pryder o reidrwydd oni bai eu bod yn ddifrifol.

Gall craciau uwchben agoriad awgrymu bod y capan drws sy'n ategu'r gwaith cerrig uwchlaw yn ddiffygiol, a dylid ymchwilio ymhellach i'r rhain. Fodd bynnag, mae'n debyg y bydd craciau mân mewn rendr o gwmpas agoriad caeëdig wedi digwydd o ganlyniad i wahaniaethau rhwng y deunydd cefndirol a'r deunydd llenwi, ac ni fydd angen rhoi sylw iddynt fwy na thebyg.

Gwnewch nodyn o unrhyw newidiadau y tu allan i'r adeilad a all effeithio ar yr amodau amgylcheddol. Gall coeden sy'n tyfu yn agos at wal, yn enwedig mewn isbriddoedd clai, er enghraifft, effeithio ar amodau'r ddaear drwy dynnu lleithder o'r sylfeini, gan arwain at grebachu. Ar y llaw arall, gall torri coeden aeddfed ychwanegu lleithder a fyddai wedi cael ei gadw yn y gwreiddiau fel arall, gan wneud i'r pridd chwyddo. Gall y naill begwn neu'r llall wneud i'r sylfeini symud a chraciau ymddangos yn y wal uwchlaw, ond nid coed sy'n gyfrifol yn y rhan fwyaf o achosion. Felly ceisiwch gyngor gan feddyg coed a pheiriannydd strwythurol profiadol bob amser cyn torri coeden aeddfed, a chysylltwch â'r awdurdod cynllunio lleol yn gyntaf i weld a yw wedi'i hamddiffyn. Os yw gwreiddiau coeden yn effeithio ar wal, gall fod yn bosibl eu tocio a gosod rhwystrau gwreiddiau i atal mwy o broblemau rhag codi yn y dyfodol, yn hytrach na thorri'r goeden yn gyfan gwbl.

Un ffactor llawer mwy cyffredin sy'n achosi setliad yw draeniau diffygiol, gan y bydd y dŵr sy'n gollwng yn golchi'r pridd o gwmpas y sylfeini ymaith yn raddol. Gall hyn effeithio ar waliau mewnol ac allanol, ond efallai na fydd y nam yn dod i'r amlwg hyd nes y bydd y difrod wedi'i wneud. Rhaid datrys y broblem ddraenio, ond efallai y bydd angen ategu'r wal hefyd er mwyn adfer ei sefydlogrwydd strwythurol.

Un peth a allai achosi chwyddiadau mewn waliau ceudod yw diffygion yn y clymau wal. Cyflwynwyd y rhain o tua 1900 ymlaen ac fe'u defnyddiwyd i glymu haenau mewnol ac allanol annibynnol o waith brics ynghyd ar draws craidd gwag. Roedd hyn yn amddiffyn rhag lleithder treiddiol a defnyddir y dechneg hon yn gyffredin o hyd. Fodd bynnag, yn wahanol i glymau wal modern, roedd fersiynau cynnar wedi'u gwneud o haearn neu ddur galfanedig ac maent yn rhydu'n hawdd. Gall hyn wneud i'r ddwy haen o waith brics ymwahanu ac yn y pen draw, bydd yr wyneb allanol yn dymchwel gan na fydd yn cael ei ddal yn ei le mwyach. Gall deunydd inswleiddio mewn waliau ceudod waethygu'r broblem hon oherwydd gall weithredu fel pont ar draws y ceudod, gan annog dŵr i gronni o amgylch y clymau wal, gan wneud iddynt ddirywio'n gyflymach.

Caiff waliau cerrig llanw eu hadeiladu fel arfer â dwy haen o waith cerrig â chraidd mewnol garw o forter calch, pridd a cherrig bach. Gall haen allanol y wal ymryddhau oddi wrth y craidd mewnol am sawl rheswm. Dylai peiriannydd strwythurol ymchwilio i unrhyw waliau sy'n chwyddo neu'n pwyso tuag allan ar unwaith, gan ei bod yn aml yn bosibl 'gwnïo' y strwythur yn ôl at ei gilydd yn gymharol rhad ar y cam hwn gan ddefnyddio rhodenni dur di-staen. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch crac neu chwydd a sefydlogrwydd eich adeilad siaradwch â pheiriannydd strwythurol.

--------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Rendr sydd wedi cracio, sydd ar goll neu sydd wedi'i atgyweirio'n wael

Camau i'w cymryd:

Monitrwch y waliau am graciau, chwyddau neu dyllau yn y rendr; os nad oes unrhyw broblemau strwythurol sylfaenol, atgyweiriwch gan ddefnyddio deunyddiau addas.

Yn hanesyddol rhoddwyd haen amddiffynnol allanol o wyngalch neu rendr calch ar y rhan fwyaf o adeiladau cerrig. Mae'r rhain yn ddeunyddiau cymharol syml i'w cynnal a'u cadw a'u hatgyweirio, ac ni ddylid byth eu tynnu i ffwrdd oherwydd gall hyn ddenu lleithder.

Rhoddwyd rendr yn aml ar adeiladau fframiau pren yn ystod y ddeunawfed ganrif hefyd. Yn y cyfnod hwn, byddai'r rendr yn cael ei ricio neu'i grafu fel ei fod yn edrych fel cerrig nadd drud, ond mae'r ffaith nad oes cilfach neu 'gil' i'r ffenestri a'r drysau, a bod dyfnder y wal yn fas yn aml yn gliwiau i'r deunydd sylfaenol.

Defnyddiwyd rendr calch fel arfer, nes i smentiau cynnar ddechrau cael eu defnyddio ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y smentiau cynnar yn fwy meddal a hydraidd na sment Portland modern, a all ddal lleithder yn y gwaith cerrig neu'r gwaith brics. Roedd yn ffasiynol gadael y smentiau cynnar heb eu paentio, ond mae'r tywodau lliw amhriodol a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach i lenwi craciau yn gallu bod yn hynod o afluniaidd a hyll. Mewn achosion o'r fath, ar yr amod bod y rendr yn gadarn, efallai y bydd yn ddymunol paentio'r rendr gan ddefnyddio gwyngalch lliw carreg neu baent microfandyllog. Cysylltwch â'r awdurdod cynllunio lleol yn gyntaf oherwydd efallai y bydd angen caniatâd arnoch.

Dylid monitro craciau bach mewn rendr calch, ond mae'n annhebygol y bydd angen rhoi sylw iddynt ar unwaith. Gall haen o wyngalch helpu i'w hatgyweirio am ei fod yn deillio o galchfaen, fel y calch yn y rendr.

Gall craciau mwy o faint awgrymu bod problem gyda'r strwythur sylfaenol, a dylid ymchwilio iddi. Unwaith y caiff problemau mwy difrifol eu diystyru, gellir llenwi craciau mwy o faint neu ddarnau o rendr calch sydd ar goll.

Dylid ymdrin â chraciau o unrhyw faint mewn rendr sment yn gynnar am y gall dŵr gael ei dynnu i mewn i'r deunydd sylfaenol drwyddynt o ganlyniad i gapilaredd. Er y gellir atgyweirio rendr calch fel arfer, efallai ei bod yn well cael gwared ar rendr calch sydd wedi'i ddifrodi'n ddifrifol a gosod cymysgedd calch yn ei le. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso'r manteision o alluogi'r adeilad i anadlu yn erbyn y difrod y gall symud y rendr caled ei wneud i'r is-haen. Ceisiwch gyngor gan bensaer cadwraeth neu syrfëwr ar y dull gorau o weithredu ar gyfer eich adeilad a'r cymysgedd rendr priodol a fydd yn addas i'r is-haen.

---------------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Waliau llechi - Llechi ar goll neu lechi hoeliedig wedi'u difrodi

Camau i'w cymryd:

Yn dibynnu ar eu safle, ailosodwch lechi sydd ar goll neu wedi'u difrodi gan ddefnyddio hoelion neu 'tingles', sef stripiau o gopr, plwm neu ddur galfanedig sy'n fodfedd o led (25mm).

Mae waliau llechi ('slate hanging') yn ddull traddodiadol o ddiogelu adeiladau cerrig rhag y tywydd ledled Cymru ac roedd yn ddull arbennig o boblogaidd yn ystod y cyfnod Sioraidd a chyfnod y Rhagluniaeth. Dim ond yn y mannau sydd fwyaf agored i dywydd garw y'u defnyddiwyd fel arfer ac fe'u hychwanegwyd yn ddiweddarach at adeiladau yn aml iawn.

Ceir dau ddull gwahanol o adeiladu waliau llechi. Y dechneg fwyaf cyffredin yw hoelio llechi ar estyll pren, sy'n sownd yn y wal. Yn yr un ffordd ag y caiff toeon llechi hoeliedig eu hadeiladu, mae'r llechi yn gorgyffwrdd â'r rhai oddi tanynt, a chaiff pob rhes ei hongli er mwyn darparu sêl effeithiol. Mae glaw yn taro yn erbyn y rhwystr llechi ac yn llifo i ffwrdd, yn hytrach na threiddio i'r gwaith cerrig sylfaenol. Fodd bynnag, gall y llechi ddod yn rhydd, yn enwedig ar hyd yr ymyl uchaf o ganlyniad i wyntoedd cryfion ac ymyrraeth gan adar. Gellir datrys y broblem hon drwy hoelio llechi newydd o'r siâp a'r maint cywir yn eu lle.

Gellir ailosod llechi unigol sydd ar goll neu sy'n rhydd yn is i lawr y wal gan ddefnyddio stripiau copr, plwm neu ddur galfanedig ('tingles') yn yr un ffordd â llechi to

Os oes ardal fwy o lechi ar goll neu'n rhydd, y rheswm dros hyn yn aml yw difrod i'r hoelion neu bydredd yn yr esgyll. Yn y naill achos neu'r llall, mae'n debyg y bydd angen ailosod y llechi ar y wal, gan ailddefnyddio cynifer o'r llechi gwreiddiol â phosibl.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Waliau llechi - Llechi ar goll neu lechi morter wedi'u difrodi

Camau i'w cymryd:

Ailosodwch lechi sydd ar goll neu wedi'u difrodi gan ddefnyddio morter calch.

Mae waliau llechi yn ddull traddodiadol o ddiogelu adeiladau cerrig rhag y tywydd ledled Cymru ac roeddent yn arbennig o boblogaidd yn ystod y cyfnod Sioraidd a chyfnod y Rhagluniaeth. Dim ond yn y mannau sydd fwyaf agored i dywydd garw y'u defnyddiwyd fel arfer ac fe'u hychwanegwyd yn ddiweddarach at adeiladau yn aml iawn.

Ceir dau ddull gwahanol o adeiladu waliau llechi. Yr un mwyaf cyffredin yw hoelio llechi ar estyll pren, sy'n sownd yn y wal. Fel rhan o draddodiad codi waliau llechi sydd efallai'n hŷn ac yn llawer llai cyffredin, rhoddir gwely o forter calch yn uniongyrchol ar y wal gerrig a chaiff y llechi eu gwasgu i mewn iddo. Weithiau caiff hoelion neu begiau pren eu taro i mewn i'r morter gwlyb i wneud y strwythur yn gadarnach. Yna caiff y morter ei dorri'n ôl hyd at ymyl y llechen a gadewir iddo ddechrau caledu cyn y caiff y rhes nesaf ei hychwanegu. Er bod y dechneg hon yn un llafurddwys, mae'n rhoi gorffeniad cadarn ac ymddangosiad unigryw iawn i'r wal.

Yn wahanol i waliau llechi sy'n hongian ar estyll, mae'r gorffeniad yn fwy afreolaidd o ganlyniad i'r ffordd y caiff y wal ei gosod a'r llechi o wahanol faint a ddefnyddir. Mae enghreifftiau o waliau llechi morter i'w gweld o hyd ar hyd arfordir Sir Benfro, ac ychwanegwyd haenen o liw at lawer ohonynt yn ddiweddarach sy'n eu gwneud yn fwy nodedig.

Er bod waliau llechi morter yn wydn iawn a'u bod yn gallu gwrthsefyll difrod gan y gwynt yn well na llechi ar estyll, gall llechi unigol ddod yn rhydd o'r sylfaen morter. Dylid ailosod y rhain yn gyflym gan ddefnyddio morter calch, oherwydd oni wneir hynny bydd dŵr yn gallu treiddio y tu ôl i'r cladin, a allai arwain at ddiffygion pellach.

Mae waliau llechi morter yn anghyffredin. Os oes angen ail-wneud y wal i gyd, mae'n hanfodol defnyddio'r dechneg wreiddiol gan ddefnyddio llechi cyfatebol addas a morter calch.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Pren sydd wedi anffurfio, hollti neu dorri ac uniadau agored

Camau i'w cymryd:

Os yw'r pren wedi plygu, hollti neu dorri yn ddiweddar neu os yw uniadau wedi agor, siaradwch â pheiriannydd strwythurol, pensaer cadwraeth neu syrfëwr.

Yn aml, byddai'r pren yn plygu ac yn anffurfio yn fuan ar ôl i adeilad ffrâm bren gael ei adeiladu wrth i'r lasdderwen sychu a chrebachu. Roedd hwn yn ddigwyddiad cyffredin, ac nid yw darnau o bren â holltau hirsefydlog neu sydd wedi'u hanffurfio yn arwydd o broblem, ar yr amod bod yr uniadau rhwng y darnau o bren yn gadarn yn strwythurol a bod yr adeilad yn sefydlog.

Yn wahanol i waliau cerrig, sy'n dibynnu ar eu más i gynnal a dosbarthu pwysau, mewn adeilad ffrâm bren, caiff pwysau ei gario'n bennaf drwy'r trefniant cymharol fach o byst pren fertigol a rheiliau llorweddol, a gaiff eu dal ynghyd gan uniadau. Mae'r uniadau hyn yn aml yn amrywiadau ar uniadau mortais a thyno (lle caiff pen un darn ei dorri i ffitio i mewn i dwll a dorrwyd yn y llall) neu uniadau sgarff (lle caiff pennau pob darn eu pefelu fel eu bod yn ffitio gyda'i gilydd), a gaiff eu dal ynghyd gan begiau derw. Mae cyplysau lletraws yn rhoi mwy o sefydlogrwydd ac ar ôl ei adeiladu, mae'r strwythur yn darparu fframwaith hynod o gryf a gwydn i hongian estyll tywydd neu osod paneli mewnlenwi arno.

Fodd bynnag, mae sefydlogrwydd strwythurol ffrâm bren yn dibynnu ar yr adeilad i gyd. Gall cael gwared ar elfennau i greu agoriadau newydd neu gael gwared ar bartisiynau neu drawstiau clymu (sef y trawstiau llorweddol ar gyplau to trionglog), er enghraifft, wanhau'r strwythur yn ddifrifol. Felly mae'n ddoeth archwilio'r ardaloedd ger addasiadau blaenorol yn drylwyr am arwyddion o draul a symudiadau parhaus yn y ffrâm bren.

Ar wahân i osod pegiau derw newydd yn lle rhai sydd ar goll neu'n ddiffygiol, dim ond contractwr arbenigol ddylai ymgymryd â gwaith atgyweirio a chryfhau o dan arweiniad pensaer cadwraeth, syrfëwr neu beiriannydd strwythurol. Dylid gwneud y gwaith hwn mewn modd sydd mor anymwthiol â phosibl gan gadw cymaint o'r pren gwreiddiol â phosibl. Gellir gadael trawstiau gwan yn eu lle yn aml iawn a'u cryfhau gan ddefnyddio platiau dur, a gellir asio darnau newydd o bren i'w gosod yn lle darnau sydd wedi pydru.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Pren sydd wedi pydru, tyfiant ffyngaidd neu bla chwilod

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch y pren, yn enwedig os yw wedi'i orchuddio â deunyddiau anhydraidd, a cheisiwch gyngor gan ymgynghorydd pydredd pren arbenigol os gwelwch unrhyw arwyddion o bydredd, tyfiant ffyngaidd neu bla chwilod.

Adeiladwyd waliau ffrâm bren yn aml ar ben waliau cerrig isel i'w codi oddi ar y llawr gwlyb. Fodd bynnag, gall lleithder achosi pydredd o hyd, yn enwedig lle defnyddiwyd deunyddiau anhydraidd.

Yn gyffredinol, enghraifft o ymdeimlad y bedwaredd ganrif ar bymtheg o falchder oedd y ffasiwn am dai du a gwyn lle paentiwyd y pren gyda thar neu baent sglein du trwchus, er enghraifft. Mae'r ffasiwn hwn yn aml yn gwneud i bren bydru drwy atal lleithder rhag anweddu o'r arwyneb. Os yw hyn yn achosi problem yn allanol, gall fod yn briodol tynnu'r haen gan ddefnyddio tynwyr paent a phowltrisiau yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd. Peidiwch byth â sandio'r pren gan y bydd hyn yn dinistrio'r arwyneb ac yn cael gwared ar lawer o'i gymeriad.

-----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Paneli mewnlenwi sydd wedi cracio, wedi'u difrodi neu wedi pydru

Camau i'w cymryd:

Atgyweiriwch graciau bach neu ardaloedd bach o ddifrod gan ddefnyddio deunyddiau priodol. Ceisiwch gyngor gan bensaer cadwraeth neu syrfëwr os yw'r difrod yn fwy sylweddol.

Mae'n hanfodol bod adeiladau ffrâm bren yn gallu anadlu gan fod hyn yn helpu i reoli lleithder. Mae hyn yr un mor berthnasol i'r paneli mewnlenwi ag y mae i'r ffrâm bren ei hun.

Yng Nghymru, yn draddodiadol, byddai fframiau pren yn cael eu trin mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mewn cartrefi, un dull cyffredin oedd llenwi'r bylchau rhwng y ffrâm â phaneli ysgafn. Gellid creu'r paneli hyn o blethwaith a chlai, sy'n cynnwys pyst neu ffyn hollt, wedi'u gwneud yn aml o dderw wedi hollti, a gaiff eu cydblethu â derw hollt neu frigau coed cyll i gynhyrchu strwythur y rhoddwyd y clai arno. Gallai'r clai gynnwys cymysgedd o ddeunyddiau, ond yn bennaf roedd yn cynnwys clai gyda thail gwartheg, gwellt wedi'i dorri neu flew anifeiliaid garw wedi'u hychwanegu ato i helpu i'w ddal ynghyd a rheoli prosesau crebachu. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd dellt hollt wedi'u hoelio yn lle'r plethwaith. Yn gyffredinol, byddai'r plethwaith a'r clai neu'r dellt yn cael eu plastro yn fewnol a'u rendro yn allanol â morter calch. Yna byddai'r paneli mewnlenwi yn cael eu gwyngalchu i'w diogelu ymhellach. Mae'r ddau fath hyn o fewnlenwad yn addas i fframiau pren gan eu bod yn hyblyg a gellir atgyweirio craciau yn hawdd gan ddefnyddio cymysgedd o byti calch a blew.

Ymhlith y problemau eraill oedd yn gysylltiedig â'r math hwn o banel mewnlenwi oedd achosion lle byddai'r clai, y plastr neu'r rendr yn dod yn rhydd o'r plethwaith neu'r dellt ac achosion o bydredd yn y deunydd sylfaenol ei hun, o ganlyniad i bla chwilod fel arfer. Yn aml mae'n bosibl datrys y problemau hyn heb orfod gosod paneli mewnlenwi newydd.

Defnyddiwyd brics fel deunydd mewnlenwi hefyd, a hynny weithiau yn ddiweddarach yn lle'r deunydd gwreiddiol. Gall fod yn anos sicrhau bod yr uniad rhwng y panel a'r ffrâm bren yn gallu gwrthsefyll y tywydd, felly chwiliwch am graciau yn y mannau hyn. Llenwch graciau bach â morter calch. Mae brics yn llawer trymach na'r deunyddiau mewnlenwi eraill hefyd, felly chwiliwch am arwyddion o straen neu symudiadau yn y ffrâm.

Ceisiwch gyngor gan bensaer cadwraeth neu syrfëwr ar baneli mewnlenwi sydd wedi'u difrodi'n ddifrifol a phroblemau â fframiau pren.

-----------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Rendr wedi cracio neu'i ddifrodi yn gorchuddio ffrâm bren

Camau i'w cymryd:

Atgyweiriwch graciau bach neu ardaloedd bach o ddifrod gan ddefnyddio morter calch. Ceisiwch gyngor gan bensaer neu syrfëwr os yw'r difrod yn fwy sylweddol.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif, roedd fframiau pren heb eu gorchuddio yn anffasiynol ac felly, yn aml iawn, gorchuddiwyd y waliau a'r fframiau yn gyfan gwbl â rendr calch. Byddai'r rendr yn aml yn cael ei ricio, neu'i amlinellu ag uniadau ffug, er mwyn gwneud iddo edrych fel gwaith cerrig nadd o ansawdd.

Gall rendr sydd wedi cracio neu'i ddifrodi adael i leithder dreiddio a gall arwain at broblemau lleithder, felly dylid ei atgyweirio ar unwaith. Defnyddiwch forter cyfatebol i atgyweirio ardaloedd bach, ond cofiwch ailosod unrhyw ysgrifellu ar wyneb y wal.

Os yw'r rendr wedi'i ddifrodi neu'i dreulio'n sylweddol, ceisiwch gyngor gan syrfëwr neu bensaer.

------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Estyll tywydd sydd wedi'u difrodi neu sy'n rhydd

Camau i'w cymryd:

Ailosodwch estyll tywydd rhydd yn eu lle gan ddefnyddio hoelion anfferrus. Tynnwch allan ddarnau sydd wedi'u difrodi neu bydru a gosodwch estyll newydd addas yn eu lle.

Roedd estyll tywydd yn ffordd draddodiadol o orchuddio adeiladau ffrâm bren mewn rhai rhannau o Gymru. Fe'u defnyddiwyd yn aml ar adeiladau amaethyddol ac maent yn arbennig o gyffredin yn Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn. Roedd yr estyll wedi'u tapro rhywfaint yn gyffredinol ac fe'u gosodwyd yn llorweddol ar y ffrâm gyda'r pen mwyaf trwchus yn gorgyffwrdd rhyw fodfedd (25mm) â'r astell oddi tano. Roedd estyll cynnar wedi'u gwneud o dderw neu lwyfenni hollt o led amrywiol, ac yn gyffredinol fe'u gadawyd i hindreulio'n naturiol.

O'r ddeunawfed ganrif ymlaen, gwnaed estyll tywydd o bren meddal wedi'i fewnforio fel arfer. Byddai boncyffion yn cael eu llifio i greu estyll trwchus, yna byddent yn cael eu llifio unwaith eto i greu dwy astell min pluen deneuach wedi'u pefelu. O ganlyniad, mae cyfeiriad y graen yn amrywio, sy'n golygu bod yr estyll yn gallu hollti ac anffurfio. Mae pren meddal hefyd yn tueddu i fod yn llai gwydn na phren caled ac felly byddai estyll yn cael eu trin â thar i'w diogelu.

Mae estyll gorosod yn dechneg a arloeswyd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac nid yw'n briodol i'w defnyddio ar adeilad hanesyddol.

Defnyddiwch hoelion dur di-staen neu hoelion galfanedig i ailosod estyll tywydd rhydd. Os yw astell wedi pydru neu hollti, torrwch allan y darn o dan sylw a gosodwch astell newydd yn ei le o'r un maint ac o'r un math o bren lle bo hynny'n bosibl. Peidiwch â defnyddio pren meddal yn lle estyll pren caled. Defnyddiwch yr un gorffeniad â'r astell wreiddiol i drin arwyneb y pren newydd.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Waliau sy'n llaith, yn dadfeilio neu wedi'u difrodi

Camau i'w cymryd:

Edrychwch am arwyddion o leithder neu ddifrod gan fermin. Siaradwch â phensaer cadwraeth neu syrfëwr cyn gwneud unrhyw atgyweiriadau.

Cymysgedd o isbriddoedd heb eu crasu yw clom sy'n cynnwys clai ynghyd â deunyddiau eraill fel gwellt neu flew anifeiliaid garw, sy'n cadw'r cymysgedd gyda'i gilydd ac yn rheoli prosesau crebachu. Roedd adeiladau â waliau clom yn gyffredin ledled Cymru ar un adeg, ond yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion y mae'r rhan fwyaf ohonynt erbyn hyn.

Nid yw clom yn ddeunydd sy'n dal pwysau, felly fe'i defnyddiwyd yn bennaf ar fythynnod unllawr. Mewn cartrefi mwy o faint, fe'i defnyddiwyd ar y cyd â darnau o bren a oedd yn dal pwysau neu fe'i defnyddiwyd os oedd y waliau wedi'u gwneud o gerrig hyd at y llawr cyntaf. Mae'r deunydd yn gymharol wan a bregus, ond mae llyfnder y corneli a'r ymylon yn golygu eu bod yn llai tebygol o gael eu torri i ffwrdd. Mae hyn yn golygu bod adeiladau clom yn edrych yn feddal, ac yn organig bron - nodweddion y mae'n bwysig eu cadw.

Fel arfer, rhoddir gorchudd amddiffynnol o wyngalch ar waliau clom, a dylid ail-wneud hynny bob blwyddyn neu fel y bo angen. Fodd bynnag, rhaid osgoi deunyddiau anhydraidd, gan gynnwys sment a phaentiau acrylig, gan eu bod yn dal lleithder yn y clom a allai fod yn drychinebus.

 Bydd clom yn dadfeilio os bydd yn llaith am gyfnod hir, felly mae'n hollbwysig sicrhau bod toeon a systemau gwaredu dŵr glaw yn cael eu cynnal a'u cadw yn dda, a bod yr ardal o gwmpas gwaelod y waliau'n cael ei draenio'n briodol. Gelwir clom yn 'cob' yn ne-orllewin Lloegr a cheir hen ddywediad yn Nyfnaint: ’All cob needs is a good hat and a good pair of boots’. Mae hwn yn ddywediad defnyddiol i'w gofio wrth gynnal a chadw unrhyw adeilad clom.

Gall llygod mawr gloddio drwy waliau clom, gan wneud difrod sylweddol. Os oes llygod mawr yn bresennol, cofiwch gael gwared ar unrhyw ffynonellau o fwyd a chysgod a chysylltwch â'ch cyngor lleol am gyngor ar fesurau i'w rheoli.

Gellir defnyddio clom newydd i lenwi tyllau bach, ond bydd y deunydd yn crebachu, gan ei gwneud yn anodd creu uniad sy'n gallu gwrthsefyll y tywydd. Gellir atgyweirio tyllau mwy o faint drwy ddefnyddio brics neu flociau clom a wnaed o flaen llaw sydd wedi'u gosod mewn morter calch gwan a'u dal ynghyd ag ategolion anfferrus. Mae'n ddoeth gofyn am gyngor gan bensaer cadwraeth neu syrfëwr sydd â phrofiad o adeiladau â waliau clom cyn gwneud unrhyw atgyweiriadau.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Gwyngalch sy'n caenu neu wedi'i dreulio

Camau i'w cymryd:

Adnewyddwch wyngalch yn rheolaidd.

Mae gwyngalch yn darparu haen amddiffynnol, sy'n atal lleithder rhag treiddio i'r strwythur. Er ei fod yn orchudd sy'n gallu gwrthsefyll y tywydd yn dda, mae hefyd yn gadael i unrhyw ddŵr sydd yn y strwythur anweddu drwy'r arwyneb.

Dylid gosod haen o wyngalch yn rheolaidd, bob blwyddyn yn ddelfrydol, er mwyn iddo fod yn effeithiol.

-----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Paent sy'n caenu neu'n pothellu

Camau i'w cymryd:

Ailbaentiwch y wal â phaent microfandyllog silicad, neu, os yw haen o baent anhydraidd yn gwneud i'r wal ddirywio, ystyriwch y posibilrwydd o gael gwared ar yr haen honno.

Bydd paentiau silicad microfandyllog yn ei gwneud yn bosibl i adeilad anadlu a gellir eu defnyddio mewn sefyllfaoedd lle y gall fod yn anodd defnyddio gwyngalch. Dylid ailbaentio arwynebau bob tair i bedair blynedd neu'n unol ag argymhellion y gweithgynhyrchydd.