Skip to main content

Fel arfer nid oes angen gwneud llawer o waith cynnal a chadw ar loriau a nenfydau heblaw am lanhau cyffredin ac ailorffennu lloriau neu ailaddurno nenfydau o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, gwyliwch am unrhyw newidiadau yn eich lloriau a nenfydau a allai fod yn arwyddion cyntaf o broblemau mwy difrifol megis lleithder neu symudiadau strwythurol. Os gweithredwch yn gyflym pan welwch yr arwyddion hyn gyntaf, gallwch arbed cryn dipyn o arian ac anghyfleustra. Yr hyn sy'n achosi llawr llaith mewn adeilad fel arfer yw codiad yn lefel y ddaear a systemau draenio gwael y tu allan.

Yn nhŷ neuadd agored y cyfnod canoloesol, roedd y to dros y neuadd yn cynnig cyfle pwysig i arddangos, a gallai trawstiau to heb eu gorchuddio fod yn addurnol iawn. Oherwydd y defnyddiwyd lleoedd tân caeëdig a simneiau yn eang yn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd yn bosibl gosod llawr uwch cyflawn mewn tai, gan roi nenfydau i ystafelloedd y llawr gwaelod. Yna daeth nenfydau'n lleoedd ar gyfer arddangos. Lle'r oedd traddodiadau gwaith coed yn gryf, roedd modd addurno fframwaith o drawstiau a oedd yn cynnal distiau drwy ddefnyddio manylion wedi'u mowldio a oedd yn gweddu i statws ystafelloedd gwahanol.

Er bod rhai enghreifftiau da o nenfydau plastr ar gael o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, gwaith pren agored oedd i'w weld yn bennaf hyd at o leiaf ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg (ac yn hwyrach fyth mewn adeiladau gwerinol - tai fferm a bythynnod). Roedd gwaith plastro addurnol yn ddrud, ac felly câi ei gyfyngu i brif ystafelloedd tai â statws uwch fel arfer. Efelychai rhai tai gwerinol cyffredin nenfydau plastr drwy ddefnyddio calico wedi'i ymestyn o dan y distiau.

Caiff nenfydau plastr eu gwneud yn draddodiadol o blastr calch, a defnyddir tair haen o'r plastr calch hwn, gyda blew anifeiliaid wedi'i gymysgu i mewn i'r ddwy haen gyntaf. Rhoddir y plastr ar fframwaith o ddellt pren, a gaiff eu hoelio i'r distiau neu'r trawstiau uwchlaw. Caiff yr haen gyntaf o blastr ei gwasgu i mewn i'r bylchau rhwng y dellt er mwyn creu nibiau neu letemau sy'n helpu i ddal y nenfwd yn ei le. O'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ychwanegwyd gypswm at y plastr yn aml i'w helpu i galedu'n gyflymach.

Roedd y nenfydau ym mhrif ystafelloedd tai o ansawdd yn yr unfed ganrif ar bymtheg wedi'u haddurno'n aml ag addurniadau plastr wedi'u modelu â llaw. Roedd gwaith plastro yn seiliedig ar fotiffau clasurol, gan gynnwys dail acanthws, ŵy a saethell, ffliwtwaith a phatrymau allwedd Groegaidd, yn arbennig o boblogaidd yn ystod y ddeunawfed ganrif, gan bwysleisio maint yr ystafelloedd yn effeithiol. Fodd bynnag, roedd creu'r gwaith plastro hwn yn broses lafurus a oedd yn galw am gryn dipyn o grefft, ac felly roedd yn ddrud. Gosodwyd corneisi a datblygwyd ffrisiau addurnol a rhosynnau nenfwd yn raddol gan ddefnyddio addurnau plastr wedi'u mowldio neu wedi'u modelu â llaw. Defnyddiwyd mwydion papur hefyd ar gyfer mowldiadau gan eu bod yn ysgafn.

Cafwyd chwyldro ym maes dylunio mewnol pan gyflwynwyd mowldiadau plastr ffeibrog o ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen. Roedd y dechneg hon yn golygu ei bod yn bosibl i ddarnau cyflawn addurnol iawn gael eu masgynhyrchu'n gyflym ac yn rhad a'u cludo i'r adeilad a'u gosod yn eu lle. Fe'u cynhyrchwyd mewn mowldiau gan ddefnyddio plastr gypswm wedi'i atgyfnerthu â sgrim - defnydd â gwead agored, bras - gyda ffrâm o ddellt ac asennau i gryfhau'r darn a darparu pwyntiau gosod. Bellach roedd hyd yn oed adeiladau digon cyffredin yn cynnwys nenfydau a ffrisiau addurnol dros ben. Fodd bynnag, cyrhaeddodd y dechneg ei hanterth yn addurniadau blodeuog theatrau a neuaddau cerdd.

Roedd y distiau yr oedd y nenfwd yn sownd ynddynt hefyd yn cynnal estyll y llawr uwch: fel arfer, os yw'r llawr yn dod o gyfnod cynnar, mae'r estyll yn tueddu i fod yn llydanach. Defnyddiwyd derw neu lwyfen yn gyffredin tan y daeth estyll pîn wedi'u torri â pheiriant ar gael yn eang yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y lloriau daear yn fwy amrywiol, ac roedd cerrig llorio neu, o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, slabiau o lechi a theils chwarel yn ddeunyddiau lloriau domestig cyffredin ledled Cymru. Ceir rhai enghreifftiau o draddodiadau llorio lleol iawn. Mae lloriau wyneb cerrig neu goblog a wnaed o gerrig crynion o draethau neu afonydd, wedi'u gosod yn fertigol mewn patrymau geometrig, yn nodwedd o rai tai yn sir Drefaldwyn, a gwelir hwy hefyd ar yr arfordir gorllewinol, megis yn Llanon yng Ngheredigion. Mewn rhannau o Forgannwg, mae lloriau morter o galch a thywod i'w gweld. Roedd adeiladau gwerinol mwy cyffredin yn gwneud y tro â'r hyn oedd ar gael, ac roedd lloriau pridd yn gyffredin.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Cerrig llorio, cerrig palmantog, neu loriau teils llaith neu sydd â staeniau halen

Camau i'w cymryd: 

Chwiliwch am unrhyw ffynonellau amlwg o leithder a chymerwch gamau i'w gwaredu, megis lefelau daear allanol uwch neu ddraeniau wedi'u blocio. Os mai anwedd sy'n gyfrifol am y lleithder, ceisiwch awyru'r ystafell yn fwy.

Yn aml, rhoddir hen gerrig llorio, cerrig palmantog a lloriau teils yn uniongyrchol ar y pridd neu ar wely o ddeunydd hydraidd, sy'n gallu golygu eu bod yn oer ac yn tueddu i greu anwedd. Fodd bynnag, gall unrhyw ymdrech i selio lloriau cerrig neu deils greu mwy o broblemau oherwydd bydd lleithder a fyddai wedi anweddu fel arall yn cael ei ddal yn y llawr. Gall codi'r llawr i osod pilen sy'n gwrthsefyll lleithder, er enghraifft, orfodi lleithder i fynd i mewn i'r waliau lle gall achosi problemau mwy difrifol o bosibl.

Gadewch i'r llawr anadlu drwy osgoi gwaith pwyntio sment, cwyrau a deunyddiau selio eraill. Hefyd ceisiwch osgoi gorffeniadau anhydraidd, gan gynnwys lloriau finyl a charpedi â sbwng neu rwber y tu ôl iddynt. Os yw anwedd yn broblem, ceisiwch reoli lefelau lleithder yr adeilad a cheisiwch ei awyru'n well. Yn gyffredinol, nid yw staeniau halen yn niweidiol, ond defnyddiwch doddiant cannydd gwan neu bywleiddiad i drin llwydni neu dyfiannau organig eraill, os oes angen.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Lleithder neu bydredd mewn lloriau pren crog

Camau i'w cymryd: 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar unrhyw lystyfiant neu rwystrau eraill sy'n blocio fentiau, rhwyllau neu frics aer tanddaearol allanol a sicrhewch y gall aer gylchredeg yn rhydd o dan y llawr.

Peidiwch â chael eich temtio i flocio mannau awyru er mwyn lleihau drafftiau oherwydd gall hyn wneud i leithder gronni, gan greu'r amodau delfrydol i bydredd gwlyb a sych ddatblygu. Os ydych yn bwriadu inswleiddio'r llawr, rhowch y deunydd inswleiddio rhwng y distiau, gan sicrhau bod llif da o aer oddi tanynt. Gellir gosod deunydd gwrthsefyll drafftiau hefyd rhwng yr estyll llawr a'r sgertin os oes bwlch.

--------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Estyll - holltau neu fylchau; gwichiadau

Camau i'w cymryd: 

Edrychwch am unrhyw newid yng nghyflwr y llawr ac ailosodwch unrhyw estyll rhydd a llenwch unrhyw fylchau os oes angen.

Cyn y ddeunawfed ganrif, roedd estyll wedi'u gwneud yn aml o dderw neu lwyfen, ac roeddent yn afreolaidd o ran lled gan amrywio rhwng wyth a deg modfedd (200-250mm). Byddai pob astell yn cael ei llifio a'i siapio â llaw, a'i gosod yn dynn yn erbyn yr astell nesaf cyn cael ei hoelio'n sownd yn y distiau.

Dechreuwyd defnyddio pren pinwydd a fewnforiwyd yn lle pren caled o'r ddeunawfed ganrif, ond dim ond ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y dechreuwyd defnyddio'r estyll tafod a rhigol cul, a ddefnyddir o hyd heddiw, yn eang yn sgîl mecaneiddio. Os ydych yn ailosod llawr i gyd neu ddarnau ohono, mae'n bwysig dewis y math cywir o bren ac estyll o'r maint cywir i gyd-fynd ag oedran eich adeilad. Mae'r gwahaniaethau hanesyddol hyn yn bwysig a bydd dewis y deunydd cywir yn gwella ymddangosiad a dilysrwydd ystafell yn fawr. Ceisiwch ddod o hyd i estyll wedi'u hadfer sy'n cyfateb i'r llawr, ac wrth ailosod darnau o'r llawr, ceisiwch gadw at batrwm a chyfeiriad y graen.

Mae pren yn ymestyn yn naturiol wrth iddo amsugno lleithder ac yn crebachu wrth iddo sychu unwaith eto. Gall hyn wneud i estyll hollti neu gall wneud i fylchau ddatblygu rhyngddynt dros amser. Er yr awgrymir weithiau y dylid codi lloriau a'u hailosod, gall hyn achosi difrod diangen ac anaml iawn y gellir cyfiawnhau gwneud hyn. Yn yr un modd, mae estyll wedi'u treulio yn ychwanegu cymeriad at adeilad ac ni ddylid cael gwared arnynt oni bai eu bod yn strwythurol fregus.

Gall estyll llawr cam neu rydd wichian wrth iddynt rwbio yn erbyn hoelen neu astell gyfagos. Gellir datrys y broblem hon yn aml drwy fwrw'r hoelen yn ddyfnach i'r pren gan ddefnyddio pwns hoelion. Os bydd y broblem yn codi eto, efallai y bydd angen i chi dynnu'r hoelen gan roi un hirach yn ei lle i roi mwy o afael.

Gall holltau gael eu hachosi gan grebachu neu gan ddifrod a achoswyd pan hoeliwyd yr astell yn ei lle. Gall y broblem hon godi'n aml os caiff estyll eu codi er mwyn gosod gwasanaethau newydd. Os oes rhaid codi'r estyll am unrhyw reswm, efallai y byddai'n well eu sgriwio yn ôl i'w lle, yn hytrach na'u hoelio, yn enwedig os gallai'r gwaith ddifrodi nenfwd plastr bregus neu addurnol islaw. Defnyddiwch sgriwiau gwrthsoddedig o ddur gloyw wedi eu gosod yn ddwfn yn yr astell a llenwch y bwlch â llenwydd pren neu blwg wedi'i wneud o'r un pren.

Nid yw bylchau bach rhwng yr estyll yn broblem fel arfer, ond gallwch eu llenwi â llenwydd pren hyblyg os ydych yn dymuno. Gellir llenwi bylchau mwy o faint drwy ddefnyddio darnau pigfain o'r un pren. Crafwch ymylon yr estyll er mwyn glanhau'r bwlch a gludwch y darn pren yn ei le gan ddefnyddio glud pren.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Lloriau parquet - blociau rhydd

Camau i'w cymryd: 

Cadwch olwg am flociau rhydd ac os oes angen, ailosodwch hwy yn eu lle gan ddefnyddio glud llawr.

Roedd lloriau parquet yn arbennig o boblogaidd ar ddiwedd oes Fictoria ac oes Edward. Mae lloriau o'r fath yn cynnwys blociau hirsgwar o bren o ansawdd uchel, a osodwyd fel arfer ar wely o fitwmen poeth. Defnyddiwyd amryw o wahanol fathau o bren a phatrymau bloc, fel patrwm saethben a phatrwm basged.

Gall lleithder beri difrod i loriau parquet. Os yw'r blociau'n dechrau dod yn rhydd, chwiliwch i weld a oes rhywbeth yn gollwng a cheisiwch ddatrys y broblem. Os ydynt yn llaith, sychwch y blociau o dan bwysau i'w hatal rhag camu. Glanhewch unrhyw faw ac ysgyrion o'r bwlch ac ailosodwch y blociau yn eu lle gan ddefnyddio glud llawr. Efallai y bydd angen sandio ac ailorffennu arwynebau wedi'u difrodi.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Gorffeniadau llawr pren sy'n frwnt neu'n dirywio

Camau i'w cymryd: 

Chwiliwch am arwyddion o draul ac, yn dibynnu ar y math o orffeniad, rhowch driniaeth i'r llawr os oes angen.

Ysgubwch loriau pren yn rheolaidd i gael gwared ar faw a gro a allai grafu'r arwyneb. Os oes angen, gellir golchi lloriau heb eu gorffennu, lloriau wedi'u hiro neu loriau wedi'u farneisio yn ysgafn gan ddefnyddio ychydig bach o ddŵr a sebon. Golchwch y llawr â dŵr i gael gwared ar y sebon gan ddefnyddio mop sydd wedi'i wasgu'n sych a sychwch y llawr â lliain glân. Peidiwch â golchi llawr sydd â chwyr arno. Yn hytrach, defnyddiwch gwyr glanhau hylifol gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

Mae hen lawr wedi'i wneud o estyll derw neu lwyfen llydan yn creu ymdeimlad o ystafell foethus. Mae mân ddifrod, gan gynnwys olion treulio a chrafiadau, yn anochel a dylid ei ystyried yn rhan o'r patiniad, gan ychwanegu cymeriad at yr ystafell. Ni ddylid byth sandio hen estyll llawr gan y bydd y broses yn cael gwared ar y patina hwn, gan adael arwyneb afloyw a difywyd. Os yw pryfed pren wedi ymosod ar y pren rywbryd, gall sandio'r pren ddatgelu'r twneli hyll a gaiff eu cuddio'n union o dan yr arwyneb fel arfer.

Os oes rhaid rhoi gorffeniad newydd ar hen lawr, dylid osgoi defnyddio farneisiau polywrethan modern, yn enwedig ar estyll derw neu lwyfen, gan nad oes iddynt yr un gorffeniad meddal â chwyr neu olew llawr traddodiadol. Mae hefyd yn anodd cael gwared arnynt; maent yn tueddu i felynu dros amser ac maent yn hawdd eu tolcio. Mae'n well osgoi olew had llin hefyd gan ei fod yn casglu baw ac yn tywyllu dros amser.

Byddai estyll pinwydd yn cael eu paentio neu'u stensilio weithiau, a dylid cadw'r gorffeniadau hyn.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Staeniau lleithder ar ddistiau ac estyll llawr; arwyddion o feddalwch neu bydredd, tyfiant ffyngaidd, arogl llwydni neu orffeniad paent ystumiedig.

Camau i'w cymryd: 

Archwiliwch ddistiau ac estyll llawr yn ofalus, yn enwedig lle maent yn cyffwrdd â gwaith cerrig, a cheisiwch gyngor gan ymgynghorydd pydredd pren arbenigol os gwelwch unrhyw arwyddion o bydredd neu dyfiant ffyngaidd.

Teimlwch y darnau pren i sicrhau eu bod yn sych, yn enwedig lle maent yn cyffwrdd â waliau allanol neu lle maent wedi'u hadeiladu i mewn iddynt. Gwthiwch flaen cyllell boced neu offeryn tebyg i mewn i'r pren yn ofalus i sicrhau ei fod yn gadarn.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Arwyddion o bla chwilod gweithredol mewn distiau ac estyll llawr (tyllau hedfan newydd a llwch pren mân, a elwir yn ‘ffras,’ ar arwynebau cyfagos).

Camau i'w cymryd: 

Archwiliwch ddistiau ac estyll llawr yn ofalus a cheisiwch gyngor gan ymgynghorydd pydredd pren arbenigol os gwelir unrhyw arwyddion o bla chwilod.

Mae ffwng yn dadelfennu cemegau mewn pren a gall hyn ddenu nifer fawr o chwilod. Felly dylid ystyried y posibilrwydd bod y ddwy broblem i'w cael.

--------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Trawstiau sydd wedi anffurfio, hollti neu dorri; lloriau pren sy'n sigo.

Camau i'w cymryd: 

Os oes unrhyw arwydd o symud strwythurol wedi ymddangos yn ddiweddar, trefnwch ymchwiliad gan beiriannydd strwythurol.

Mae'n bosibl bod trawstiau wedi anffurfio a lloriau wedi sigo o ganlyniad i'r broses setlo a ddigwyddodd yn fuan ar ôl i'r adeilad gael ei adeiladu, ond dylai peiriannydd strwythurol bob amser ymchwilio i unrhyw drawstiau sydd wedi'u difrodi'n ddiweddar neu arwyddion o symud diweddar neu barhaus.

Ymhlith yr achosion posibl mae pydredd ar bob pen i'r distiau am fod lleithder yn treiddio drwy'r waliau, neu'r strwythur yn symud gan wneud i'r darnau pren ddod yn rhydd o'r gwaith cerrig. Problem gyffredin arall yw bod trawstiau yn gwanhau os cânt eu torri neu'u tyllu er mwyn gosod pibellau, gwifrau a chwndidau newydd.

Er efallai nad yw trawstiau mewn adeiladau hanesyddol yn bodloni'r meintiau safonol a nodir ar hyn o bryd yn y Rheoliadau Adeiladu, nid yw hyn yn destun pryder fel arfer ac ni ddylid cymryd yn ganiataol bod angen cael gwared ar drawstiau sy'n rhy fach. Mae'r adeilad wedi goroesi hyd yma ac ni ddylid gwneud addasiadau oni bai bod problem a bod camau unioni yn gwbl angenrheidiol. Fodd bynnag, os dechreuwch ddefnyddio adeilad mewn ffordd newydd, gall hyn newid y pwysau y mae'n rhaid i'r adeilad hwnnw ei wrthsefyll. Gall addasu atig yn ystafelloedd i fyw ynddynt, neu ddechrau defnyddio'r lloriau uchaf fel swyddfa yn hytrach na lle byw, er enghraifft, gynyddu'r pwysau yn sylweddol ar y lloriau a'r trawstiau ategol.

Os oes angen gwneud gwaith atgyfnerthu ac atgyweirio ychwanegol, dylid gwneud y gwaith mewn modd anymwthgar gan gadw cymaint o'r pren gwreiddiol â phosibl. Er enghraifft, gellir gadael trawstiau gwan yn eu safle gwreiddiol yn aml a'u cryfhau gan ddefnyddio platiau dur, a gellir cael gwared ar bydredd ar bennau distiau drwy asio darnau newydd o bren cyfatebol, yn hytrach na chael trawst newydd sbon.

Mae lloriau tonnog, lloriau ar oleddf neu loriau sy'n bownsio yn anochel bron mewn adeiladau hanesyddol ac maent yn rhan o'u hatyniad. Peidiwch â cheisio lefelu lloriau oni bai bod hynny'n angenrheidiol o safbwynt strwythurol.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Nenfydau plastr sy'n llaith neu wedi staenio

Camau i'w cymryd: 

Archwiliwch yr adeilad yn ofalus yn fewnol ac yn allanol i ddod o hyd i ffynhonnell y lleithder. Ceisiwch ddatrys y broblem cyn gynted â phosibl.

Gall dŵr deithio cryn bellter cyn iddo ymddangos fel staen llaith ar y nenfwd. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn archwilio eich adeilad yn drylwyr i ganfod ffynhonnell y lleithder.

Efallai y bydd angen i chi archwilio'r canlynol:

- toeon

- simneiau

- systemau gwaredu dŵr glaw

- waliau

-  cyfleustodau

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Nenfydau plastr calch sydd wedi sigo neu gracio

Camau i'w cymryd: 

Archwiliwch y nenfydau am arwyddion o graciau, ysigo neu symudiadau. Gallwch atgyweirio craciau bach â llenwydd hyblyg, ond ceisiwch gyngor os oes newidiadau mwy sylweddol yn digwydd.

Mae craciau rhwng plastr y nenfwd a chorneisi, neu graciau rhwng y nenfwd a'r wal yn digwydd yn aml o ganlyniad i symudiadau bach sy'n digwydd yn naturiol mewn adeiladau hanesyddol neu grebachu anwastad yn y plastr. Mae craciau o'r fath i'w disgwyl ac nid ydynt yn destun pryder o reidrwydd. Gellir eu hatgyweirio'n hawdd gan ddefnyddio llenwydd hyblyg. Fodd bynnag, gall craciau mwy o faint rhwng ymyl y nenfwd a'r wal awgrymu bod symud strwythurol wedi digwydd, y dylai peiriannydd strwythurol ymchwilio iddo.

Gall plastr sigo neu gall craciau ymddangos ar draws y nenfwd am sawl rheswm - pydredd neu bla chwilod yn y dellt pren, yr hoelion sefydlogi yn rhydu, y lletemau plastr yn torri neu ddistiau'r llawr yn symud neu'n methu. Oni bai bod y broblem yn un fach, gofynnwch i syrfëwr adeiladu neu bensaer am gyngor ar waith atgyweirio addas.

Dylid bob amser atgyweirio nenfydau lle y bo'n bosibl, yn enwedig os ydynt yn enghreifftiau cynnar neu addurnol. Mae hyd yn oed gornis plastr syml yn nodwedd hanesyddol bwysig, a all ychwanegu ychydig o geinder a steil i ystafell sy'n ddigon plaen fel arall. Ni ddylid cael gwared ar nenfydau na gosod nenfydau newydd oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol. Gall nenfydau gael eu cynnal o'r llawr tra bod gwaith yn mynd rhagddo i gryfhau'r strwythur neu wneud atgyweiriadau eraill, a gall hyd yn oed nenfydau sy'n sigo yn ddifrifol gael eu hailosod yn sownd yn y strwythur ategol.

Os yw nenfwd newydd yn gwbl angenrheidiol, dylid seilio'r gwaith ar gynllun y nenfwd gwreiddiol, gan sicrhau y caiff yr un cymysgedd plastr a thechnegau eu defnyddio. Nid yw plastrfwrdd yn ymddangos mor feddal a naturiol â nenfwd o ddellt a phlastr, ac nid yw'n ddewis amgen addas ar gyfer adeilad hanesyddol. Yn yr un modd, mae cyfryngau sy'n dal dŵr wedi'u hychwanegu at blastrau gypswm modern, sy'n eu hatal rhag anadlu, ac nid ydynt mor hyblyg â phlastr calch.

Mae'r rhain yn nodweddion pwysig mewn unrhyw adeilad a adeiladwyd gan ddefnyddio technegau adeiladu traddodiadol, ac felly mae'n well osgoi plastr gypswm modern.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Nenfydau plastr - Gorffeniad addurnol wedi treulio neu ddirywio

Camau i'w cymryd: 

Cadwch olwg am arwyddion o ddirywio ac ailaddurnwch fel y bo angen gan ddefnyddio gorffeniad sy'n gallu anadlu.

Ystyrir gwyngalch yn aml yn orffeniad a ddefnyddiwyd y tu allan i adeilad, ond fe'i defnyddiwyd yn helaeth hefyd y tu mewn i adeiladau hyd at y ddeunawfed ganrif ac yn hwyrach na hynny yn achos adeiladau gwerinol. Disodlwyd gwyngalch gan ddistemper meddal, a ddefnyddiwyd fel y gorffeniad traddodiadol ar gyfer nenfydau addurnol cyn dyfodiad paentiau emylsiwn modern.

Gall manylion cain mowldiadau addurnol gael eu llenwi a'u cuddio'n llwyr gan haenau o baent. Serch hynny, er ei bod yn ddymunol cael gwared ar yr haenau hyn am resymau esthetig o bosibl er mwyn adfer y gwaith plastr i'w ffurf groyw wreiddiol, rhaid cydbwyso hyn yn erbyn y ffaith y bydd cynlluniau lliw addurnol cynharach yn cael eu colli. Mae'r rhain yn darparu tystiolaeth bwysig am hanes yr adeilad a newidiadau mewn ffasiwn.

Er bod tynwyr paint cemegol ar gael sy'n addas i'w defnyddio ar waith plastr ac er y gall technegau eraill fod yn dderbyniol, mae cael gwared ar baent yn broses fanwl ac araf ac mae'n rhy hawdd o lawer difrodi'r deunydd oddi tano. O ganlyniad, mae'n well gadael i warchodwr profiadol wneud hyn.

--------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano: 

Estyll tafod a rhigol - Estyll sy'n llaith neu wedi staenio, arwyddion o bydredd neu blâu chwilod

Camau i'w cymryd: 

Archwiliwch yr adeilad yn ofalus yn fewnol ac yn allanol i ddod o hyd i ffynhonnell y lleithder. Ceisiwch ddatrys y broblem cyn gynted â phosibl.

Fel y defnyddiwyd estyll tafod a rhigol o binwydd pyg i orchuddio waliau pared mewn bythynnod yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe'u defnyddiwyd yn aml ar nenfydau mewn ystafelloedd atig. Gyda nenfydau atig, mae'n arbennig o bwysig sicrhau bod gorchudd y to yn gadarn a delio ag unrhyw arwyddion o ollyngiadau dŵr cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cymaint o ddifrod â phosibl. Os gwelir arwyddion o bydredd neu blâu chwilod, ceisiwch gyngor gan ymgynghorydd pydredd pren arbenigol.

Gall dŵr deithio cryn bellter cyn iddo ymddangos fel staen llaith ar y nenfwd. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn archwilio eich adeilad yn drylwyr i ganfod ffynhonnell y lleithder. Efallai y bydd angen i chi archwilio'r canlynol:

- toeon

- simneiau

- systemau gwaredu dŵr glaw

- waliau

- cyfleustodau