Rhyfeddod pensaernïol dau am bris un Llys a Chastell Tretŵr yn croesawu Hynafgwyr Windrush Cymru am daith dywys
Ar 21 Hydref, croesawodd Llys a Chastell Tretŵr grŵp o 28 o Hynafgwyr Windrush Cymru fel rhan o brosiect ehangach Cadw a Chyngor Hil Cymru.
Roedd heulwen yr hydref yn gefndir disglair i daith dywys arbenigol dan arweiniad Prif Geidwad Cadw, Ian Andrews.
Bu’r grŵp yn gwrando’n astud ar hanes y castell o’r 12fed ganrif a’r maenordy o’r 15fed ganrif. Bu’r lle ar un adeg yn gartref i Syr Roger Vaughan – aelod o un o’r teuluoedd Iorcaidd mwyaf pwerus yng nghanolbarth Cymru a chyfaill i’r ffigur hyd yn oed yn fwy pwerus, Syr William Herbert o Gastell Rhaglan.
Cafwyd arddangosiad ar foesgarwch mewn cegin ganoloesol gan un o geidwaid Cadw, Rose Waters, a ddangosodd sut i wneud Marchpanes (rhywbeth a ddefnyddid cyn marsipán). Yna arweiniwyd y grŵp i’r neuadd fawr a edrychai fel y gallai fod wedi ymddangos yn ystod gwleddoedd mawr teulu’r Vaughan yn ystod dyddiau eu gogoniant yn yr 1460au a’r 1470au.
Eglurwyd i’r ymwelwyr y trefniadau eistedd yn yr Oesoedd Canol. Y bwrdd mawr, wedi’i leoli ar yr esgynlawr ac wedi’i addurno â’r llestri bwrdd a’r lliain gorau, oedd y pwysicaf. Dyma lle byddai Syr Roger a’i westeion yn eistedd.
Yna, cymerodd yr Hynafgwyr amser i archwilio’r llawr cyntaf a chrwydro ar hyd y galeri pren — nodwedd wreiddiol o’r llys — cyn ymlacio mewn gardd bleser o’r 15fed ganrif sy’n cynnwys ffynnon ddiferol a choed almon, cwins a morwydd.
Mae Hynafgwyr Windrush Cymru yn grŵp rhagweithiol sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o bryderon ac anghenion pobl hŷn o leiafrifoedd ethnig. Maen nhw hefyd yn dathlu cerrig milltir allweddol a nodi cyfraniadau pobl o dras Affricanaidd. I nifer o’r grŵp, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ymweld ag un o henebion Cadw ac fe fynegodd llawer ohonyn nhw awydd i archwilio mwy o’n safleoedd yn y dyfodol.
Trydarodd Cyngor Hir Cymru:
Diolch i @cadwwales am gymryd yr amser i’n tywys o amgylch Llys a Chastell Tretŵr ddoe. Roedd hi’n wych gweld cymaint o wynebau yn yr heulwen.
I gael gwybod mwy am Lys a Chastell Tretŵr, ewch i’n gwefan: Llys a Chastell Tretŵr
Dilynwch Cadw ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook @CadwWales | Twitter @cadwcymru