Skip to main content

Fe'i gelwir yn Jac Du neu Jack Black hefyd, ac ychydig sy'n gwbl hysbys am fywyd cynnar John Ystumllyn.

Mae'n debygol ei fod wedi dioddef yn sgil Masnach Gaethwasiaeth yr Iwerydd a'i fod wedi cyrraedd Ystad Ystumllyn teulu Wynn yng Nghricieth pan oedd yn blentyn. Yma dysgwyd Cymraeg a Saesneg iddo, a dysgodd am arddwriaeth, gan ddangos cryn ddawn yng ngerddi'r stad.

Dechreuodd ganlyn morwyn leol o'r enw Margaret Gruffydd, gan redeg i ffwrdd â hi a'i phriodi, a chael saith o blant. Fe wnaethant barhau i weithio ar stadau yn y cyffiniau ac ymhen amser cawsant fwthyn a gardd i gydnabod eu gwasanaeth.

Bu farw John Ystumllyn ym 1786. Ef yw'r person Du cyntaf yn y Gogledd y cofnodwyd ei fywyd yn dda. Yn ôl awduron diweddarach roedd yn uchel ei barch ac yn boblogaidd, er bod lliw ei groen wedi bod yn destun siarad gydol ei oes, fel y gwnaeth ei briodas â menyw wen.

Mae'n cael ei goffáu gan gofeb tywodfaen yn Eglwys Sant Cynhaearn, Ynyscynhaearn, sydd bellach wedi'i rhestru'n Radd II. Mae'n cael ei goffáu hefyd gan rosyn John Ystumllyn, a enwyd yn 2021.

Darllenwch gerdd Alex Wharton The Gardener, sydd wedi’i hysbrydoli gan fywyd John, gyda chyfieithiad Cymraeg gan Iestyn Tyne

Y Garddwr

Dwi’n mochel, ac yn gwylio’r

glaw yn mynd heibio. (arogl

dŵr ar wair yr haf)

Dyma fy ffin, dyma fy lle.

Rhwng cerrig hen, rhwng cerrig oer

y waliau.

Fi ydi’r Garddwr.

Dwi’n clirio pethau, yn twtio.

Yn plannu hadau, a’u gwylio nhw’n tyfu.

               Niwl a golau, mwsogl a rhisgl.

Dwi’n nabod defodau’r gwynt.

Pam fod adar yn canu. Mae’r meddwl yn crwydro –

yn nadreddu ac yn dringo fel clematis.

Does dim i ’ngwahanu o’r

tir hwn, ond llefain

fy mam. Breuddwyd neu

hunllef. Y ddau yn gymysg i gyd.

 

Mi wela i’r forwyn, Marged –

yn croesi’r cae gwair ar flaenau’i thraed.

Ei hofn, gam neu dri o ’mlaen.

Rydw i wrthi’n haffio mieri,

      hithau’n dawel fel glöyn byw –

Ond nid diawl du mohonof!

Ella y bydd hi’n ffoi eto,

yn taflu’i phlataid o gwrw a bara.

 

Ond os arhosith hi:

Mi ddangosa i’r rhosod iddi, sut mae’r

Petalau’n gwneud defnydd o’r cysgodion,

Neu ai’r gwrthwyneb sy’n wir?

   Mi drof y pridd er ei mwyn,

Dangos iddi nad gwacter

ydi tywyllwch ond

rhodd ddiderfyn.

Genir blodau yma.

Bwyd a bywyd.

 

Boed i’r haul dywallt

ei olau ar ein crwyn. Boed i ni

ymdoddi i’n gilydd,

i bopeth. Hwyrach y bydd y coed

yn siarad, fel y maen nhw weithiau.

Sibrydion o’r cysgodion –

                              Rhed, rhed i ffwrdd.