Skip to main content

Ganed Clive Sullivan yn Sblot, Caerdydd, ac ef oedd capten chwaraeon Du cyntaf Prydain Fawr, rhan o dîm buddugol Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd 1972.

Ond er ei fod yn chwaraewr rygbi pan oedd yn blentyn, yn dilyn llawdriniaeth ar ei bengliniau, ei draed a'i ysgwyddau o 14 oed ymlaen, roedd meddygon yn meddwl ei bod yn annhebygol y byddai'n cerdded yn iawn eto, heb sôn am chwarae rygbi.

Ar ôl gadael yr ysgol, ymunodd â'r fyddin ym 1961 a chafodd ei anfon i Catterick yn Swydd Efrog. Gan ei fod yn Gymro, gofynnwyd iddo chwarae mewn gêm rygbi rhyng-gorfflu. Achosodd hyn gryn gyfyng-gyngor i Sullivan - pe bai'n cyfaddef iddo gael anafiadau a llawdriniaethau mawr, byddai'n gorfod gadael y fyddin ar sail analluedd. Yn hytrach, dewisodd chwarae. Ei fwriad oedd chwarae'n wael, ond ni allai anwybyddu ei reddf ac ar ôl chwarae'n dda heb unrhyw effeithiau gwael penderfynodd ddechrau chwarae rygbi eto.

Trodd yn broffesiynol, gan chwarae i Hull, cyn dechrau ar ei yrfa ryngwladol ym 1967, gan arwain at rôl capten ym 1972 a bri yng Nghwpan y Byd.

Dyfarnwyd MBE i Clive Sullivan am wasanaeth i rygbi'r gynghrair.

Bu farw ym 1985 ac mae'n cael ei goffáu yn Hull wedi i'r brif ffordd i’r ddinas gael ei hail-enwi’n Clive Sullivan Way. Yn 2020, roedd yn un o dri chwaraewr rygbi'r gynghrair yng Nghymru a ddewiswyd i gael eu hanrhydeddu â cherfluniau, gyda'r bwriad o'u gosod ym Mae Caerdydd. 

Darllenwch gerdd Alex Wharton Imagine sydd wedi’i hysbrydoli gan fywyd a chyflawniadau Clive Sullivan, gyda chyfieithiad Cymraeg gan Iestyn Tyne.

 

Dychmyga

(er cof am Clive Sullivan)

Pan aeth fy mhennau gliniau,

fe aeth fy sgwyddau ’run ffordd, ac felly hefyd

fy nhraed.

    Yr holl ryff a tyff ’na,

      y rhwygo cyhyrau, esgyrn yn llwch.

Fe botelaf fy nghyflymder,

                              ei gadw at freuddwydion.

 

Fe ymuna i â’r fyddin, a throi tua’r gogledd

am Swydd Efrog. Os bydd rhaid, fe chwaraeaf

y gêm rwy’n ei charu, dim ond fel na wnaiff

yr esgyrn brau hyn fy nghyrru i

nôl i Gaerdydd.

Fe botelaf fy ngrym,

               ei chwarae hi’n saff am awr.

 

Ond os daw’r bêl i chwilio amdana i,

A minnau’n ffeindio ’nhraed, mi fydd popeth

fel y dylai fod.

Cyhyrau’n ystwytho fel

y cof. A’r meddwl yn ffiltro

pob dewis.

               Llaw allan, ysgwydd lawr,

                Cam i’r ochr, troi.

Dyma fy rhyddid. Y gofod

rhyngof fi a’r lleill. Rwy’n hedfan

dros y gwair, yn wên i gyd.

 

Rwy’n guriad drwm, yn roc a rôl

Gyflymed ag afon, ar daith o hyd.

Yn dân gwyllt, yn fflam ddiorffwys,

fe redaf trwy’r boen, fe ddangosaf y ffordd.