Skip to main content

Darllenwch gerdd Alex Wharton sydd wedi’i hysbrydoli gan dalentau ac ymgyrchedd Paul Robeson, gyda chyfieithiad Cymraeg gan Iestyn Tyne

 

Diolch Mr Robeson

Am roi benthyg dy nodau bas

i’r gwŷr hynny o’r cymoedd a orymdeithiai’n

hanner-gwag, hanner-gobeithiol y byddai

rhywun yn rhoi clust i’w cân.

Ysgubaist, fel un afon

i lif y llall. Yn hen gartrefi’r glowyr

maen nhw’n dal i gofio gwead dwfn

dy lais, mor ddwfn â’r glo. Y strydoedd cul,

y mwg a’r llechi. Y mynyddoedd,

yn herfeiddiol dywyll. Oerfel.

Mae taranau’n dy adnabod, yn clecian dy enw.

Diolch Mr Robeson.

Fab caethwas dihangol, roeddet ti’n adnabod poen.

Mab Duw a’r geiriau da. Gŵr y

Gyfraith, y cam a’r cymwys. Gŵr y gamp

a’r llwyfan. Gŵr y gân. Cana di

ganeuon rhyddid. Cynhyrfa ni

yn ias oer y seiniau isel.

O dan y ddaear. Cluda ni tua’r goleuni.

Mil o eneidiau trymion yn gyffro

yn dy wddf, yn yr awyr.

Rydym yn un, rydym yn fyw.

Ac mae’r bywyd hwn yn fwy llachar

trwy bopeth a roddaist.

Ac mae’r bywyd hwn yn fwy llachar trwy

bopeth a roddaist.

 

i Paul Robeson