Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion
Hysbysiad ymwelwyr
Oherwydd pryderon ynghylch lledaeniad Coronafeirws a lles ein hymwelwyr, bydd Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion ar gau i’r cyhoedd hyd nes yr hysbysir fel arall. Edrychwch ar wefan Cadw i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Arolwg
Bywyd moethus a gwaedlyd y gaer Rufeinig
Roedd bywyd yn galed i lengfilwr Rhufeinig yng Nghymru’r ganrif gyntaf. Pan na fyddai wedi’i gau yn ei farics neu’n goddef cyfarth canwriad, byddai allan yn mentro ei fywyd mewn ysgarmesau â Brythoniaid hynafol.
Ond yma yn Isca, un o dair lleng-gaer barhaol yn unig ym Mhrydain, gwnaethpwyd iawn am hyn oll. Gallai’r llengfilwr bob amser dreulio amser gyda’i ffrindiau ym maddonau’r gaer – neu fynd am dro i’r amffitheatr i wylio’r gladiatoriaid.
Mewn adeilad modern dan do yng Nghaerllion heddiw, gallwch archwilio olion y pwll nofio awyr agored, neu natatio eang, a arferai ddal mwy na 80,000 galwyn o ddŵr. Yn sgil rhyfeddodau taflunio ffilm, cewch gipolwg ar filwr Rhufeinig yn dal i blymio i’r dyfnderoedd heddiw.
Cewch hefyd weld yr ystafelloedd cyfyng lle cysgai’r dynion a lle cadwent eu harfau – yr unig farics llengol Rhufeinig sydd i’w gweld o hyd yn Ewrop.
A gallwch gerdded drwy fynedfa fawr y gogledd i’r amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain a dychmygu mwstwr 6,000 o bobl yn udo am waed.

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!
Prisiau
Cyfleusterau
Maes parcio talu ac arddangos gyferbyn â'r baddonau, tua 20 o leoedd.
Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Mae lluniaeth ysgafn ar gael.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, cysylltwch ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn uniongyrchol ar 025920 573546.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Cyfarwyddiadau
Cod post NP18 1AE
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 01633 422518
E-bost
CaerleonFortressBaths@llyw.cymru
High St, Caerleon, Casnewydd NP18 1AE