Drysau Agored - Caer Rhufeinig Caerllion
Ymunwch â thaith o gwmpas y Barics, y Ffosydd a'r Amffitheatr yng nghwmni ein harbenigwr ar y Rhufeiniaid.
Gellir dadlau mai olion helaeth y gaer filwrol yng Nghaerllion yw un o'r safleoedd milwrol Rhufeinig mwyaf a phwysicaf yn Ewrop. Cafodd ei sefydlu yn 75 O.C fel pencadlys i'r Ail Leng Awgwstaidd ac mae'n debyg y cafodd y gaer filwrol ei henwi'n Isca ar ôl yr afon Gwy sydd gerllaw. Yma, ar safle gwastad lle gallai llongau ddosbarthu cyflenwadau, adeiladwyd y gaer a'r adeiladau eraill mewn ffordd effeithlon a oedd yn nodweddiadol o'r Rhufeinwyr.
Teithiau am 11am a 1pm.
Cyfarwyddiadau:
Ffordd: B4596 i Gaerllion, M4 tua'r gorllewin (Cyffordd 25), tua'r dwyrain (Cyffordd 26).
Rheilffordd: 4 milltir/6km, Casnewydd, ar lwybr Caerdydd - Casnewydd/Llundain/Manceinion/Lerpwl.
Llwybrau Bws: Rhifau 27, 28, 28B Casnewydd - Caerllion neu Lwybrau Rhif 29, 29B Casnewydd - Cwmbrân. NCN Llwybr Beicio 46 (4km/2.5 milltir).