Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Barics Rhufeinig Caerllion

Mae’r barics hyn, a adeiladwyd ar gyfer milwyr Rhufeunig Caerllion (Isca), yn dangos pa mor gyfyng ond trefnus oedd bywyd llengfilwyr yr ymerodraeth.

Cafodd y safle ei gloddio gan archeolegwyr yn yr 1920au, ond dim ond yr adeilad cyntaf sy’n furiau Rhufeinig gwreiddiol; atgynhyrchiadau yw’r muriau eraill sydd ar y lefel uwch.

Mae’r barics ochr yn ochr mewn rhesi hir, gyda deuddeg pâr o ystafelloedd bychain ar gyfer y llengfilwyr, ac ystafelloedd mwy ar y pen ar gyfer y canwriad a’i staff. Byddai grŵp o wyth milwr yn rhannu pob pâr o ystafelloedd, gan gysgu yn yr ystafell fwyaf a chadw’u hoffer yn yr ystafell lai.

Amseroedd agor a phrisiau

Amseroedd agor

1st Ebrill - 31st Mawrth Ar agor drwy’r flwyddyn

Ar agor drwy’r flwyddyn yng ngolau dydd

Gwybodaeth i ymwelwyr

Maes parcio icon

Maes parcio

Maes parcio cyhoeddus gyferbyn â’r barics ar Cold Bath Road, neu ger yr amffitheatr ar Broadway.

Croeso i gŵn icon

Croeso i gŵn

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Anhawster cerdded icon

Anhawster cerdded

Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd

Dim ysmygu icon

Dim ysmygu

Ni chaniateir ysmygu.

Polisi dronau icon

Polisi dronau

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Iechyd a Diogelwch icon

Iechyd a Diogelwch

Dim staff - Fodd bynnag, gellir dod o hyd i staff Cadw yn y Baddonau Rhufeinig.

Mae'r amffitheatr a'r barics ar ddau safle gwahanol, a dyma’r enghraifft orau yng Nghymru o fywyd preswyl a chymdeithasol y Rhufeiniaid.

Fe ddewch o hyd i’r barics drwy ddilyn y llwybr gwastad ger yr ysgol gyfun. Byddwch yn ofalus wrth gerdded drwodd gan fod proffiliau'r waliau isel yn dal yno a gallent achosi perygl o ran baglu.

Mae'r amffitheatr yn caniatáu mynediad o amgylch ei strwythur cyfan. Gofynnwn i chi gadw draw o ymylon yr amffitheatr gan fod risg o syrthio o uchder.

Cymerwch ofal wrth ddefnyddio'r grisiau i lawr i ardal ganolog yr amffitheatr, gan fod rhai ohonynt yn anghyflawn.

Gall y ddaear fod yn llithrig a mwdlyd os byddwch yn ymweld mewn tywydd gwael. Er mwyn diogelu'r tir yn ystod tywydd eithafol, mae angen i ni gyfyngu mynediad yn aml; gwiriwch gyda Baddonau Rhufeinig Caerllion os ydych chi'n ymweld yn ystod tywydd gwael.
Ffôn: 03000 252239
E-bost: CaerleonFortressBaths@llyw.cymru

Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr. 

Gall dringo arwain at anaf difrifol. 

Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.

Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.

Iechyd a Diogelwch / Health and Safety

Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru 

Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.

Wyneb llithrig neu anwastad icon

Wyneb llithrig neu anwastad

Steep and uneven steps icon

Steep and uneven steps

Cerrig yn disgyn icon

Cerrig yn disgyn

Cyfarwyddiadau

Cyfeiriad

Cold Bath Road, Caerllion, Casnewydd, NP6 1NF

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost CaerleonFortressBaths@gov.wales

Google Map
Ffordd: B4596 i Gaerllion, M4 gorllewin (Cyff 25), dwyrain (Cyff 26).
Beic: RBC Llwybr Rhif 88 Ar y Llwybr

what3words: ///fflamio.heriwch.fflachio

neu ///adar.unman.cliriwn

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn