Baddondy Rhufeinig Caerllion
Bywyd moethus a gwaedlyd y gaer Rufeinig
Roedd bywyd yn galed i lengfilwr Rhufeinig yng Nghymru’r ganrif gyntaf. Pan na fyddai wedi’i gau yn ei farics neu’n goddef cyfarth canwriad, byddai allan yn mentro ei fywyd mewn ysgarmesau â Brythoniaid hynafol.
Ond yma yn Isca, un o dair lleng-gaer barhaol yn unig ym Mhrydain, gwnaethpwyd iawn am hyn oll. Gallai’r llengfilwr bob amser dreulio amser gyda’i ffrindiau ym maddonau’r gaer – neu fynd am dro i’r amffitheatr i wylio’r gladiatoriaid.
Mewn adeilad modern dan do yng Nghaerllion heddiw, gallwch archwilio olion y pwll nofio awyr agored, neu natatio eang, a arferai ddal mwy na 80,000 galwyn o ddŵr. Yn sgil rhyfeddodau taflunio ffilm, cewch gipolwg ar filwr Rhufeinig yn dal i blymio i’r dyfnderoedd heddiw.
Cewch hefyd weld yr ystafelloedd cyfyng lle cysgai’r dynion a lle cadwent eu harfau – yr unig farics llengol Rhufeinig sydd i’w gweld o hyd yn Ewrop.
A gallwch gerdded drwy fynedfa fawr y gogledd i’r amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain a dychmygu mwstwr 6,000 o bobl yn udo am waed.
Sut i ymweld
• prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
• gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
• cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image Expand image Expand image Expand imageAmseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am–5pm |
---|---|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Fel arfer, yr amseroedd tawelach ar gyfer ymweld yw yn hwyrach yn y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol. |
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£5.30
|
Teulu* |
£17.00
|
Person Anabl a Chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£3.70
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£5.10
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).
|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
High St, Caerleon, Casnewydd NP18 1AE
Ar gyfer contractwyr a danfoniadau, ffoniwch 01633 422518
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
Cod post NP18 1AE
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50