Skip to main content

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion — Canllaw Mynediad

Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:

Ebost: CaerleonFortressBaths@llyw.cymru   Ffôn: 03000 252239

Ymweld â Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion

Mae maes parcio talu ac arddangos yn perthyn i Dafarn y Bull o flaen Baddonau Rhufeinig Caerllion: Golwg Google maps

Mae llefydd parcio hygyrch, ac mae'r taliadau yn berthnasol i bawb sy'n parcio yn y llefydd parcio hyn hefyd. Rhaid talu o fewn 10 munud ar ôl cyrraedd.

Mae'r maes parcio'n wastad ac mae mynediad gwastad i'r Baddonau

Mae parcio am ddim gerllaw'r amffitheatr, ar Broadway gyferbyn ag Amgueddfa Lleng Genedlaethol hefyd, gyda llefydd parcio hygyrch dynodedig.

Mae'r llwybr i'r baddonau ar hyd palmant tarmac gyda chyrbau isel. Mae ardal fechan o goblau ar ôl y groesfan sebra gyferbyn â'r amgueddfa.

Mae mynediad i'r Baddonau Rhufeinig trwy faes parcio Tafarn y Bull. Mae'r fynedfa drwy ddrws gwydr sy’n agor â llaw sydd wedi ei leoli ar ochr chwith cefn y maes parcio wrth i chi yrru i mewn. Mae desg dderbyn isel.

Does dim toiledau ar safle’r Baddonau Rhufeinig.

Mae toiledau cyhoeddus gyda chiwbicl hygyrch ger yr Amffitheatr ar waelod y maes parcio/coetsis ar Broadway. Mae toiled hygyrch rhad ac am ddim yn yr amgueddfa hefyd. Cofiwch nad oes cyfleusterau newid babanod ar gael.

Mae croeso i gŵn ar dennyn ymweld â'n henebion awyr agored, fodd bynnag, ni allwn ganiatáu mynediad i'n safle dan do oni bai bod y cŵn yn gŵn cymorth.

Yn y Baddondy mae llwybr slatiog pren gwastad dros yr olion gydag un llethr byr tuag at gefn yr adeilad. Nid yw'r llwybr slatiog yn addas i bobl sy'n gwisgo sodlau tenau/uchel.

Gall cadeiriau olwyn a phramiau gydag olwynion cul gael trafferthion wrth droi ar y llwybr slatiog agored.

Mae un gadair olwyn blygadwy ar gael ar y safle i'w defnyddio dan do yn y Baddonau Rhufeinig yn unig.

Mae dwy ardal eistedd yn adeilad y baddonau, gyda 12 o seddi yn yr adran ffilmiau mud a 3 yn y baddondy.

Byddwch yn ymwybodol bod gan y Baddonau olau lefel is felly cofiwch roi amser i'ch llygaid addasu i'r tywyllwch wrth fynd i mewn, mae'r paneli dehongli, yr olion a’r siop wedi'u goleuo'n dda.

Mae tri phwynt sain ac mae canllawiau gwybodaeth Braille ar gael o'r ddesg dderbyn yn Gymraeg a Saesneg. Un o'r pleserau ymweliad â'r Baddonau i bobl sy’n clywed yw profi'r effeithiau sain e.e.

Dŵr yn diferu, pobl yn neidio i'r pwll a Cherddoriaeth Rufeinig

I bobl fyddar a'r rhai sy'n drwm eu clyw, mae dolen sain gludadwy ar gael ac mae safon dda o baneli gwybodaeth ysgrifenedig ledled y Baddonau, gan gynnwys tair ffilm fud ddifyr ac addysgiadol wahanol.

Mae effeithiau goleuo a thafluniadau â gwybodaeth ysgrifenedig yn helpu i ddod â'r pwll nofio a'r Baddondy yn fyw.

Ystyriaethau eraill:

Mae'r Baddonau yn brofiad aml-synhwyraidd gydag effeithiau goleuo, tafluniad ffilm, sain amgylchynol – cerddoriaeth Rufeinig, ffilmiau mud, eitemau replica Rhufeinig gyda disgrifiadau ysgrifenedig, pwyntiau sain a gemau sgrin gyffwrdd.

Os ydych yn cael trafferth ymdopi ag unrhyw beth yn ystod eich ymweliad, siaradwch â Cheidwad. Mae'r staff yma i'ch galluogi i gael ymweliad mor llyfn â phosibl.

Mae dogfen o straeon cymdeithasol ar gael i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad ac i ddangos i chi'r hyn y byddwch yn ei brofi ledled y safle. E-bostiwch y wefan i gael copi o’r ddogfen ac am unrhyw ymholiadau penodol caerleonfortressbaths@llyw.cymru

Amseroedd tawelach i ymweld yw 2.30–5pm yn ystod yr wythnos yn ystod tymhorau’r ysgol, gan fod ein hymweliadau ysgol wedi gadael erbyn hynny.

Baddonau Rhufeinig Caerllion — Cynllun Llawr: Tu mewn

Baddonau Rhufeinig Caerllion — Cynllun Llawr: Tu allan

Caer Baddonau a Amffitheatr Rufeinig Caerllion — Cynllun Llawr

 

Taith sain   
Caffi
Diffibriliwr
Powlen i gŵn                                                   
Canllawiau print bras
Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio 
Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri 
Cyfleusterau picnic 
Dolenni sain cludadwy
Gorsaf ail-lenwi dŵr
Nac oes
Nac oes
100 llath i ffwrdd o'r Baddondy Rhufeinig
Nac oes
Nac oes
Mae effeithiau sain a goleuo amgylchynol lefel isel 
Nac oes
Meinciau ar gael yn ardal y ffilmiau
Nac oes
Nac oes

 

Amffitheatr

Mae'r safle'n hygyrch os yw'r tywydd yn caniatáu gyda'r ddaear yn aml dan ddŵr yn ystod y misoedd gwlypach. Dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol y gall fod anawsterau wrth deithio ar draws y ddaear, sy’n laswellt anwastad gyda llethrau glaswelltog serth mewn mannau. Mae'r llwybr glaswellt i mewn i'r arena yn serth ac felly mae'n bosib na fydd y safle yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Barics

Mae'r tir wedi’i osod yn laswellt ac mae’n anwastad felly gall fod yn anodd ei lywio. Mae'r safle’n cynnwys waliau isel sydd angen eu llywio hefyd ac felly ni fydd defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn i’r Barics.