Meini Hirion Penrhos Feilw
Hysbysiad i Ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Meini hir o’r Oes Efydd dan len o ddirgelwch
Prin iawn yw’r wybodaeth am darddiadau’r pâr hwn o feini hir. Fe’u codwyd yn ystod yr Oes Efydd, ac maent yn sefyll tua 10 troedfedd/3m o uchder ac 11 troedfedd/3.3m rhyngddynt. Yn ôl un chwedl barhaus, roeddent ar un adeg yn rhan o gylch cerrig mwy o faint ac roedd cist (neu fedd) yn cynnwys esgyrn, pennau saethau a blaenau gwaywffyn wedi’u canfod rhyngddynt, ond ni ddaeth unrhyw dystiolaeth i’r amlwg erioed i gadarnhau’r stori hon.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.