Gwersyll Bwlwarcau Cas-gwent
Arolwg
Olion cudd caer o’r Oes Haearn
Yn swatio rhwng adeiladau yng Nghas-gwent yr oes gyfoes, hawdd yw anwybyddu olion y gaer bentir hon o ddiwedd yr Oes Haearn ar yr olwg gyntaf. Ond edrychwch ychydig yn agosach ac fe welwch olion y lloc amffosog a’i gloddiau dwbl sy’n amgylchynu’r darn glaswelltog hwn o dir.
Yn sefyll ar ymyl clogwyn uwchben Afon Gwy, hawdd yw gweld pam y dewisodd yr adeiladwyr gwreiddiol y llecyn hwn ar gyfer eu caer – a pham y cafodd ei meddiannu’n ddiweddarach gan oresgynwyr Rhufeinig.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am - 4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|