Gwaith Plwm Bryn-tail

Olion heddychol canolfan ddiwydiannol brysur
Yn eistedd yng nghysgod yr argae ym mhen deheuol Cronfa Ddŵr Llyn Clywedog, mae adeiladau Bryn-tail yn taflu goleuni ar adeg pan oedd y llecyn heddychol hwn yn ferw o ddiwydiant. Yn ystod y 19eg ganrif, roedd yma le swnllyd, myglyd wrth i’r plwm gael ei echdynnu a’i brosesu, cyn cael ei gludo i Lanidloes gerllaw ac yna mewn llongau i lawr Afon Hafren. Caeodd Bryn-tail ym 1884 wrth i ffyniant y mwyngloddio lleol ddod i ben. Ymhlith yr olion sy’n parhau mae tai mathru, biniau mwynau, ffyrnau chwilboeth, gefail a swyddfa rheolwr y mwynglawdd.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | Ar agor drwy’r flwyddyn |
---|---|
Ar agor drwy’r flwyddyn yng ngolau dydd |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Croeso i gŵn
Maes parcio
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Polisi dronau
Dim ysmygu
Iechyd a Diogelwch
Mae taith gerdded o 10 munud tuag at i lawr i fynd i’r safle.
Mae'r llwybr dan goed a gall fod yn llithrig ar adegau. Gall y bont hefyd fod yn llithrig pan fydd yn wlyb, cymerwch ofal yn ystod tywydd gwael. Mae'r llwybr wedi'i warchod rhag Afon Clywedog a’r argae, arhoswch o fewn yr ardaloedd sydd wedi'u ffensio.
Mae Bryn-tail yn safle amrywiol gydag amrywiaeth o rannau diwydiannol wedi'u lleoli ar wahanol lefelau o'r safle. Wedi'i leoli ar lethrau dyffryn, mae rhannau o’r heneb ar oleddf. Mae yna lawer o gyfleoedd i archwilio o fewn yr heneb sy'n gofyn am ddefnyddio grisiau a phontydd bach wedi eu gwneud o slabiau o gerrig. Defnyddiwch y canllawiau lle maen nhw ar gael.
Fel safle diwydiannol mae rhai peryglon yn sgil y llethrau agored, uwchben tanciau a phyllau olwynion. Cadwch at y llwybr dynodedig. Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod mewn rhai lleoliadau i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag cwympo mewn ardaloedd penodol.
Peidiwch â dringo ar yr heneb, yn naturiol mae yna ardaloedd lle mae llethrau cudd lle gallech ddisgyn.
Gall dringo arwain at anaf difrifol. Peidiwch â dringo dros neu drwy unrhyw osodiad sefydlog.
Mae nant fach ar ochr chwith pellaf y safle, cadwch blant o dan oruchwyliaeth agos.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael, fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health & Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Cyfarwyddiadau
Google MapAm fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.
Perthynol
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn