Skip to main content

Arolwg

Esiampl wych o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru mewn llecyn gwledig aruchel   

Ni chyfyngwyd y Chwyldro Diwydiannol i’r glo a’r haearn yn ne Cymru a’r llechi yn y gogledd. Wedi’i hadeiladu tua 1755, mae’r ffwrnais chwyth hon, wedi’i thanio â glo ac a ddefnyddid i fwyndoddi mwyn haearn, ymhlith yr adeiladau diwydiannol gorau o’i fath ym Mhrydain erbyn hyn.

Gan ddefnyddio grym Afon Einion, byddai olwyn ddŵr y ffwrnais yn gyrru set enfawr o feginau. Byddai’r rhain yn chwythu a phwffian aer cywasgedig i’r ffwrnais, gan greu’r tymereddau chwilboeth y byddai eu hangen i brosesu’r mwyn yn haearn crai, a llawer ohono’n cael ei anfon i efeiliau yng Nghanolbarth Lloegr.

Dim ond am ryw hanner canrif y bu’r ffwrnais ar waith cyn cael ei gadael. Mae’r olwyn ddŵr a adferwyd sydd yn y golwg erbyn hyn yn arwydd o ail wynt yr adeilad yn felin lifio.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Maes parcio icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Mae lleoedd parcio (tua 12 o geir) mewn maes parcio ar draws y ffordd brysur. Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Rheilffordd
Cyffordd Dyfi 2m (3.2km).
Beic
RBC Llwybr Rhif 82 (4m/6.4km)

Cod post SY20 8PH

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50